Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi rhoi gwaed yn Neuadd y Ddinas Caerdydd heddiw er mwyn helpu i gynnal stoc dda ym manciau gwaed y GIG yn ystod pandemig y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ôl bod yn rhoi gwaed er pan mae’n 17 oed, mae’r Prif Weinidog yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd pawb iach, heini a heb symptomau’n mynd ar wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru i drefnu i roi gwaed.

Er bod y rheoliadau newydd wedi gofyn i bobl ledled y DU aros gartref er mwyn achub bywydau, mae teithio i roi gwaed i achub bywydau yn hanfodol oherwydd angen meddygol.

Yn ystod y tair wythnos ddiwethaf, mae nifer y bobl sy’n rhoi gwaed yng Nghymru wedi gostwng 30%.

Mae Neuadd y Ddinas Caerdydd yn un o bum canolfan rhoi gwaed sydd ar agor ledled Cymru yr wythnos yma. Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn gofyn i’r cyhoedd roi gwaed yn wahanol, wrth iddynt adael eu lorïau eiconig yn eu siediau a gofyn i roddwyr drefnu apwyntiad ymlaen llaw.

Mae gan yr aelodau o staff offer diogelu personol a bydd y rhoddwyr yn cael eu sgrinio cyn mynd i mewn i’r clinig, i sicrhau eu bod yn iach. Mae pob canolfan roi’n cadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol ac maent yn cael eu glanhau’n drwyadl cyn, yn ystod ac ar ôl pob sesiwn.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Yn ogystal ag aros gartref ac achub bywydau yn ystod yr achosion o goronafeirws, gall pobl gymwys achub bywydau hefyd a helpu ein GIG drwy fynd ar wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru a threfnu apwyntiad.                  

“Mae’n hawdd rhoi gwaed – rydych chi’n cael dishgled o de a bisged yn wobr – a gallai eich ymdrechion chi fod yn achos o fyw neu farw i fam, mab, nain neu ffrind.”

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru:

“Rydyn ni’n gofyn i’n rhoddwyr gwaed anhygoel ni fynd yr ail filltir – yn llythrennol – er mwyn helpu ein GIG yn ystod y cyfnod anodd yma.

"Diolch i haelioni ein rhoddwyr, sydd yn cymryd hyd at awr o'u hamser i roi gwaed, fel  mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud heddiw, mae ein stociau gwaed mewn sefyllfa dda ar hyn o bryd. Mae rhoddwyr wedi ymateb yn gadarnhaol i'r mesurau diogelwch newydd mewn sesiynau, ac mae nifer yr apwyntiadau yn ein canolfannau rhoi gwaed lleol wedi bod yn uchel.

"Er mwyn sicrhau bod lefelau'r stociau gwaed yn parhau'n iach, rydym angen i roddwyr newydd a phresennol gadw golwg ar ein gwefan i weld ble mae canolfannau rhoi gwaed lleol yn agos atyn nhw, a threfnu apwyntiad i roi gwaed os ydynt yn ffit ac yn iach."

I drefnu apwyntiad: wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru.