Cynhaliodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford sesiwn stori yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth i ddathlu Diwrnod y Llyfr.
Fe wnaeth ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant wrando’n astud wrth i’r Prif Weinidog ddarllen detholiadau Cymraeg a Saesneg o chwedlau enwocaf Cymru – ceinciau’r Mabinogi.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Llyfr mae ysgolion ledled y wlad yn cymryd rhan mewn ymgyrch ‘rhannu stori’, gyda’r bwriad o danio dychymyg pobl a gwneud yr arfer o rannu straeon yn un am oes.
Yn ystod eu hymweliad â'r Llyfrgell cafodd y disgyblion gyfle i archwilio ffacsimili o lawysgrif Llyfr Gwyn Rhydderch, sy’n cynnwys y casgliad cynharaf y gwyddys amdanynt o’r chwedlau y cyfeirir atynt heddiw fel y Mabinogion. Mae’r straeon yn parhau i ysbrydoli ffilmiau a llyfrau ledled y byd.
Credir bod storïwyr Celtaidd wedi crwydro Prydain a thu hwnt yn rhannu straeon er mwyn derbyn bwyd a lloches, cyn i’r chwedlau gael eu cofnodi ar ffurf ysgrifenedig. Lluniwyd Llyfr Gwyn Rhydderch yng nghanol y bedwaredd ganrif ar ddeg ac mae’n rhan o gasgliad trysorau’r Llyfrgell Genedlaethol.
Fe wnaeth arbenigwr o Adran Archifau a Llawysgrifau'r Llyfrgell arddangos rhai o weithiau gweledol eiconig Margaret Jones i’r Prif Weinidog, darluniau sydd wedi siapio’r ffordd y mae pobl yn dychmygu’r Mabinogion.
Meddai Y Gwir Anrh Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru:
“Rhannu straeon yw ein ffordd fwyaf swynol o gyfathrebu, a dylem fachu ar unrhyw gyfle i annog ein plant i ymgolli yn eu hud. Trwyddynt, mae bydysawd o bosibiliadau diddiwedd yn tanio dychymyg heb ffiniau. Trwyddynt, gellir magu gwell ddealltwriaeth o fydoedd cymhleth a gwahanol safbwyntiau. Gadewch inni fod yn genedl sy’n ysgogi ein pobl ifanc i garu darllen ar Ddiwrnod y Llyfr, drwy barhau â’n traddodiad diwylliannol hir o rannu straeon.
Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Pleser o’r mwyaf oedd croesawu Prif Weinidog Cymru yma i Lyfrgell Genedlaethol Cymru i lansio ymgyrch cenedlaethol ’Rhannu Straeon’. O gofio mai un o brif flaenoriaethau’r Llyfrgell yw cynnig mynediad i blant a phobl ifanc at hanes a diwylliant Cymru a'u hysbrydoli i ddysgu a meithrin sgiliau newydd, ni ellid fod wedi dewis gwell lleoliad i'r lansiad.
“Roedd yr ymweliad yn gyfle hefyd i’r Prif Weinidog weld cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar waith ym mwrlwm a phrysurdeb diwylliannol y Llyfrgell Genedlaethol, wrth i ni baratoi at ddatblygu cynllun strategol nesaf y Llyfrgell a'r weledigaeth ar gyfer y cyfnod 2021-26.