Neidio i'r prif gynnwy

Canmol pobl ym mhob cwr o’r wlad am helpu ei gilydd yn ddiogel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn lansio ymgyrch newydd  am sut i helpu pobl sy’n aros adref oherwydd y coronafeirws. 

Mae’r ymgyrch Edrych ar ôl ein Gilydd yn canolbwyntio ar y pethau bychain y gallwn ni i gyd eu gwneud i helpu ein gilydd yn ystod y pandemig.

Mae’n rhoi canllawiau ymarferol am sut i  gadw’n ddiogel wrth wneud tasgau bob dydd, fel mynd ar neges neu gadw mewn cysylltiad â chymdogion, heb ddod i gysylltiad corfforol er mwyn lleihau’r perygl o ddal y coronafeirws. Hefyd, rhoddir gwybodaeth am sut i gadw’r meddwl a’r corff yn brysur.

Bydd tudalen we newydd – llyw.cymru/iachadiogel – yn cael ei lansio heddiw. Mae cerdyn ‘help llaw’ ar y wefan, y gellir ei lawrlwytho a’i roi trwy dwll llythyrau cymdogion sy’n hunanynysu fel bod ganndynt rywun i’w helpu gyda’u hangenion bob dydd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Rwyf wedi gweld cymaint o bethau da yn digwydd, o grwpiau côr ar-lein i ddelifro bwyd, wrth i bobl ledled Cymru fynd allan o’u ffordd i helpu eraill gyda'u hanghenion bob dydd.

“Mae cymunedau wedi cydweithio i helpu eu cymdogion yn y cyfnod hwn o angen.  Heddiw, rydym yn gofyn i eraill ddilyn yr esiampl ddisglair hon drwy wneud y pethau bychain i helpu, os gallant.

“Mae gan Gymru hanes balch o helpu ein gilydd ar adegau anodd – dyna yw ein natur ni. Os gallwn weithio gyda’n giydd, gallwn ddod drwyddi.”

Yr wythnos hon, bydd Llywodraeth Cymru’n ysgrifennu at y bobl sydd mewn perygl uchel iawn o ddablygu salwch difrifol os cânt eu heintio gan y coronafeirws. Byddant yn cael cynghorion penodol am sut i amddiffyn eu hunain.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod ofnadwy o bryderus i bawb, yn enwedig y rhai sydd mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael os ydynt yn dal y coronafeirws.

“Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i gadw Cymru’n ddiogel, ond hefyd i gadw’r grwpiau hyn yn ddiogel o’r feirws. Ac mae cefnogaeth y cyhoedd i’r ymdrechion hyn yn gwbl hanfodol.”

Beth allwn ni ei wneud i edrych ar ôl ein gilydd

Os ydych chi’n rhydd o symptomau, ddim mewn grŵp risg uchel ac yn gallu helpu pobl sy’n aros adref, mae 5 peth syml y gallwch ei wneud i helpu – ond cofiwch fynd ati’n ddiogel:

  • Helpu gyda siopa bwyd. Gallwch wneud hyn eich hunan a’i adael ar y stepen drws neu helpu pobl i siopa ar-lein.
  • Mynd ar neges. Bydd angen help ar rai pobl i gasglu moddion. Ac efallai bydd angen cymorth ar bobl eraill i’w harchebu fel nad ydyn nhw’n rhedeg allan.
  • Cadw mewn cysylltiad. Mae aros adref am amser hir yn gallu bod yn brofiad unig. Mae dweud helo a chadw mewn cysylltiad dros y ffôn neu ar-lein yn bwysig.
  • Annog pobl i gadw’r meddwl a’r corff yn brysur. Beth am gyfnewid syniadau ar sut i gadw’n brysur a heini.
  • Ymuno â chymunedau ar-lein lleol. Anogwch bobl i ymuno â fforymau a grwpiau Facebook lleol fel bod modd iddyn nhw gadw mewn cysylltiad â’u cymuned a gweld bod nhw ddim ar eu pen eu hunain.

Ewch i llyw.cymru/iachadiogel am syniadau syml a chyngor ar sut i fynd ati’n ddiogel i helpu rhywun sy’n gorfod aros adref oherwydd y coronafeirws (COVID-19). Boed yn ffrind, aelod o’r teulu, cymydog neu rywun arall yn eich cymuned.

Aros adref