Yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw, mae nifer y gorsafoedd ail-lenwi yng Nghymru wedi cynyddu 100 gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sy'n golygu ei bod yn haws i bobl ail-ddefnyddio potel yn hytrach na phrynu un newydd bob tro.
Heddiw, agorodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ddwy orsaf ail-lenwi newydd ym Maes Awyr Caerdydd wrth iddo ddathlu'r gwaith y mae Cymru eisoes wedi'i wneud i fod y Genedl Ail-lenwi gyntaf yn y byd.
Flwyddyn yn ôl, roedd llai na 10 gorsaf ail-lenwi yng Nghymru – heddiw mae mwy na 1,000, gan gynnwys dwy ffynnon ddŵr newydd sydd wedi'u gosod naill ochr i'r gatiau diogelwch ym Maes Awyr Caerdydd . Byddant yn helpu i leihau nifer y poteli plastig untro sy'n cael eu prynu a'u gwaredu yn y maes awyr.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Rydym yn deall fwyfwy erbyn hyn bod yr amgylchedd yn gorfod talu pris uchel am ein hobsesiwn i ddefnyddio plastigau untro.
"Ond nid yw dweud wrth bobl i ddefnyddio llai o blastig untro yn ddigon – rhaid inni ddarparu dewisiadau cyfleus eraill i helpu pobl wneud hynny.
"Dyna pam ein bod yn falch o gefnogi'r gorsafoedd ail-lenwi sy'n cael eu cyflwyno ledled Cymru a pham ein bod am fod y Genedl Ail-lenwi gyntaf yn y byd. Rwy'n falch iawn o'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn gyntaf a'r ymateb syfrdanol gan fusnesau sydd am gymryd rhan.
"Hoffwn weld ail-lenwi poteli yn rhywbeth arferol a fydd yn ein helpu i arbed arian a chadw'n iach, yn ogystal â gwarchod yr amgylchedd."
Yn ogystal â ffynhonnau dŵr newydd ym Maes Awyr Caerdydd, mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi lansio'r cynllun ail-lenwi newydd ym Mermaid Quay, ym Mae Caerdydd; mae Dafydd Elis Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi lansio tap ail-lenwi newydd yng Nghastell Caerffili ac mae Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn agor y ffynnon ddŵr newydd ym Mharc Belle Vue yng Nghasnewydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu i ariannu'r cynllun Ail-lenwi yng Nghymru drwy ariannu swydd Cydlynydd Ail-lenwi Cymru. Mae hefyd wedi talu am ffioedd trwyddedu y byddai gorsafoedd ail-lenwi newydd wedi gorfod eu talu'n flaenorol i gofrestru i sicrhau bod gan fusnesau a sefydliadau yr wybodaeth sydd eu hangen arnynt i fod yn fannau ail-lenwi.
Mae'r cynllun yn helpu i sicrhau bod dŵr tap ar gael yn haws mewn mannau cyhoeddus fel hybiau trafnidiaeth, canolfannau siopa a chadwyni.
Dywedodd Rebecca Burgess, prif weithredwr City to Sea:
"Rydym yn falch iawn o groesawu Maes Awyr Caerdydd i'r chwyldro Ail-lenwi ar y Diwrnod Ail-lenwi Cenedlaethol. Mae cefnogaeth y maes awyr yn ei gwneud yn haws i bawb ddod o hyd i ddŵr yfed rhad ac am ddim wrth deithio.
"Mae mwy a mwy o bobl bellach yn cario potel y gellir ei hailddefnyddio a gyda Maes Awyr Caerdydd yn darparu cyfleusterau ail-lenwi am ddim, mae'n rhoi'r pŵer yn nwylo pobl i atal llygredd plastig".