Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw lansiodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog, weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachu ar ôl gadael yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae papur masnach Brexit, a’r dadansoddiad o’r effaith economaidd gan Ysgol Fusnes Caerdydd, yn dadlau mai'r ffordd orau o amddiffyn economi Cymru yw drwy gadw mynediad llawn at Farchnad Sengl Ewrop a’r Undeb Tollau.

Mae’r papur yn amlinellu sut y byddai Brexit caled yn effeithio’n ddifrifol ar swyddi ac economi Cymru. Pe bai’r DU yn newid i reolau’r WTO (Sefydliad Masnach y Byd), gallai economi Cymru leihau 8% i 10%, sef rhwng £1,500 a £2,000 y person.

Mae’r papur yn dangos y byddai economi Cymru dan anfantais anghymesur oherwydd Brexit caled. Mae’n nodi y byddai’r sectorau ceir, cemegion, dur a pheirianneg drydanol yn wynebu’r perygl mwyaf o ganlyniad i dariffau. Y perygl mwyaf i’r diwydiant awyrofod fyddai rhwystrau heblaw am dariffau. Dyma’r sectorau sydd ymhlith y rhai mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru ac sy’n gyfrifol am nifer mawr o swyddi crefftus sy’n talu’n dda.

Mae’r papur masnach yn gofyn i Lywodraeth y DU ddarparu tystiolaeth sut y byddai  cytundebau masnachu newydd cystal â chael mynediad at yr UE. Mae Llywodraeth Cymru hefyd am weld penderfyniadau ynghylch y berthynas fasnachu newydd â’r UE a gweddill y byd yn cael eu gwneud ar sail partneriaeth â’r gweinyddiaethau datganoledig fel eu bod yn ystyried buddiannau pob rhan o’r  DU.

Wrth lansio’r ddogfen yn Zodiac Aerospace yng Nghwmbrân - cwmni blaengar ym maes cyfarpar a systemau awyrofod - dywedodd y Prif Weinidog:

“Gwerth allforion Cymru yw £14.6 biliwn bob blwyddyn. Mae 61% o’n hallforion yn mynd i’r EU ac mae ychydig o dan hanner ein mewnforion yn dod o’r EU. Ar hyn o bryd, mae Cymru yn denu’r lefel uchaf erioed o fewnfuddsoddi diolch, i raddau helaeth, i’r ffaith ein bod yn gallu cyrraedd 500 miliwn o gwsmeriaid y EU.

“Fel y mae’n papur masnach yn ei nodi, gallai newid i reolau’r WTO, a gosod tariffau, gael effaith drychinebus ar ein sectorau cig oen a physgod cregyn, sy’n allforio tua 90% o’u cynnyrch i’r UE ar hyn o bryd.

“Mae’r ffeithiau moel hyn yn pwysleisio beth sydd yn y fantol os na lwydda Llywodraeth y DU i gael y cytundeb iawn neu os gadawn ni heb gytundeb o gwbl.

“Dw i’n anghytuno’n llwyr â hen ymadrodd Theresa May fod dim cytundeb yn well na chytundeb gwael. Dw i’n meddwl y byddai gadael y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau yn niweidiol iawn i swyddi a busnesau Cymru ac y byddai’r effeithiau ar ein sectorau amaeth, cynhyrchwyr bwyd a cheir yn ddifrifol iawn.

“Nid yw’r gweinidogion yn Llundain wedi dangos unrhyw dystiolaeth inni eto o fanteision gadael y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau na sut y gallai cytundebau masnachu newydd fod cystal â chael mynediad i’r EU. Mewn gwirionedd, mae dogfennau gan Lywodraeth y DU, a ddaeth i’r amlwg yr wythnos hon, yn cytuno â’n dadansoddiad ni o’r economi ar ôl gadael yr UE.

"Mae’r papur hwn yn gyfraniad adeiladol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, at baratoadau Llywodraeth y DU  ar gyfer cam 2 trafodaethau gadael yr UE."

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Mae’r papur sy’n cael ei lansio heddiw yn dangos gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer Cymru fel gwlad fentrus ac agored, sy’n masnachu â’r byd ond sy’n cadw cysylltiad masnachu cryf â’r UE. Mae’n amlinellu’r angen am gytundeb ôl-Brexit sy’n sicrhau y gall Cymru barhau i allforio i’r UE heb rwystrau newydd na chostau, gan gydnabod ar yr un pryd y cyfleoedd niferus i fasnachu y tu allan i Ewrop.

“Dw i’n galw’n daer ar Lywodraeth y DU i ystyried ein cynigion o ddifrif a chydweithio â ni i lunio polisi masnachu ôl-Brexit sy’n diogelu swyddi ac economi Cymru."