Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd Prif Weinidog Cymru yn cyflwyno’r cynllun 20 pwynt ar ei newydd wedd ar gyfer gwneud y Deyrnas Unedig yn gryfach ac i sicrhau ei bod yn gweithio’n well i bawb.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn etholiadau Senedd Cymru a Senedd yr Alban ym mis Mai, a’r cytundeb masnach a lofnodwyd gan y DU a’r Undeb Ewropeaidd, mae’r cynllun uchelgeisiol – Diwygio ein Hundeb – wedi cael ei ddiweddaru.

Wrth lansio’r cynllun, dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, fod angen ailosod y berthynas â’r DU oherwydd ein bod, yn rhy aml, yn gweld “Llywodraeth y DU yn gweithredu mewn ffordd unochrog ymosodol.” 

Er mwyn i’r DU ffynnu, rhaid i’r undeb rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon fod yn seiliedig ar berthynas lle mae pob un yn bartner cydradd, gyda chyfleoedd rheolaidd i’r pedair llywodraeth weithio gyda’i gilydd a rheoli anghydfodau yn briodol.

Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:

“Rydym yn credu mai trwy ddatganoli cryf – fel bod penderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru – a thrwy fod yn bartner cydradd mewn Teyrnas Unedig gref, a fydd wedi’i hadfywio, y bydd anghenion Cymru yn y dyfodol yn cael eu diwallu orau.

“Er mwyn i hyn allu digwydd, rhaid i’r ffordd y mae’r Undeb yn gweithio newid. Yn wir, mae angen newid ar fyrder – ni fu’r Undeb erioed mor fregus â hyn. Os bydd materion yn parhau yn yr un modd ag y maent ar hyn o bryd, dim ond cryfhau a wna’r achos dros ymwahanu yn y DU.

“Yn rhy aml, rydym yn gweld Llywodraeth y DU yn gweithredu mewn ffordd unochrog ymosodol, gan honni ei bod yn gweithredu ar ran y DU gyfan, ond heb ystyried statws y gwahanol wledydd a mandadau democrataidd eu llywodraeth.

“Undeboliaeth gyhyrog, yn hytrach na gweithio tuag at berthynas wirioneddol adeiladol a chydweithredol rhwng llywodraethau’r DU, rydym ni’n ei gweld.

“Mae’n amser ailosod y berthynas. Byddai’r egwyddorion a’r ffyrdd o weithio rydym ni wedi’u hawgrymu yn arwain at Undeb cadarn a gwydn – Undeb a fyddai yn ein barn ni yn cyflawni’r canlyniadau gorau i bobl Cymru a’r Deyrnas Unedig yn ehangach.”

Cafodd y ddogfen Diwygio ein Hundeb ei chyhoeddi gyntaf ym mis Hydref 2019, wrth i’r DU baratoi i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Cafodd ei diweddaru i adlewyrchu’r newid yn yr amgylchiadau cyfansoddiadol a gwleidyddol sy’n effeithio ar Gymru a gweddill y DU.

Mae’n cynnwys 20 cynnig ar gyfer gwneud y DU yn gryfach a’i gwneud i weithio er budd pawb sy’n byw yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r rhain yn amrywio o ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi i adlewyrchu natur y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhoi’r dasg benodol i Dŷ Uchaf y Senedd o ddiogelu’r cyfansoddiad a datganoli, i greu corff cyhoeddus newydd, annibynnol ar gyfer goruchwylio sut y mae trefniadau cyllido yn cael eu gwneud yn y DU – Llywodraeth y DU sy’n gwneud hyn ar hyn o bryd.

Mae’n cynnig hefyd y dylid datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru – fel sydd eisoes yn wir yn achos yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Bydd yn edrych ar y diwygiadau sydd eu hangen a fydd o fudd i Gymru, ac yn ei grymuso, er mwyn iddi ddod yn fwy ffyniannus ac i wella ansawdd bywyd a llesiant. 

Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:

“Mae Diwygio ein Hundeb yn nodi achos gwirioneddol dros newid ac rydym yn gobeithio y bydd yn ysgogi trafodaeth ehangach am ddyfodol Cymru a dyfodol y DU.

“Mae diwygio cyfansoddiadol yn gwbl angenrheidiol. Mae’r fframwaith sydd ar waith ar gyfer gwneud penderfyniadau yn cael effaith uniongyrchol ar y gwasanaethau sydd ar gael inni a’r cymunedau rydym yn byw ynddyn nhw. Wrth inni weithio i greu Cymru gryfach, wyrddach a thecach i bawb, mae’n hanfodol sicrhau bod y fframwaith cywir ar waith.

“Hoffem glywed gan gynifer o bobl ag sy’n bosibl wrth inni ddechrau sgwrs genedlaethol am ein dyfodol ni yng Nghymru a’n perthynas â gweddill y DU yn y dyfodol.”