Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cwrdd â Phrif Weinidog y DU yn Stryd Downing heddiw i drafod y Bil i Ymadael â’r UE.
Bydd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn y cyfarfod hefyd. Mae gan Lywodraeth Cymru bryderon dwys ynghylch Bil Llywodraeth y DU i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Ar ei ffurf bresennol, mae’r Bil yn caniatáu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd rheolaeth dros feysydd polisi sydd wedi’u datganoli, megis ffermio a physgota, ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
Daw’r cyfarfod ar ôl i Fil Parhad Llywodraeth Cymru gael ei gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol fel opsiwn wrth gefn. Ei nod yw ceisio sicrhau bod cyfraith yr UE mewn meysydd sydd wedi’u datganoli’n barod yn dod yn rhan o gyfraith Cymru ar y diwrnod y bydd y DU yn ymadael â'r UE.
Dywedodd Carwyn Jones:
“Mae hwn yn gam allweddol yn y trafodaethau. Mae Llywodraeth y DU yn symud i’r cyfeiriad cywir ond nid yw ei chynnig diweddaraf, a gafodd ei wneud heb gytundeb y gweinyddiaethau datganoledig, yn ddigonol. Felly, nid oedd modd inni argymell bod y Cynulliad yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i’r Bil Ymadael ar sail y gwelliant sydd wedi’i gynnig.
“Rydyn ni eisiau datrys hyn ac rydyn ni’n benderfynol o ddal ati i geisio cael cytundeb cyn i’r Bil ddod i ben ei daith drwy’r Senedd, ond nid yw amser o’n plaid. Dyna pam y byddwn ni’n parhau i lywio ein Bil Parhad drwy’r Cynulliad. Ond, fel yr ydyn ni wedi dweud sawl gwaith, dim ond opsiwn wrth gefn yw hwn.
“Yr wythnos diwethaf yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) fe wnaethom ni a Llywodraeth yr Alban gyflwyno nifer o syniadau ynghylch sut i symud ymlaen o’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig, ac rwy’n edrych ymlaen at drafod y rhain â’r Prif Weinidog.”