Bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn cwrdd â charfan rygbi Merched Cymru heddiw (Dydd Llun 21ain o Fawrth) cyn i Bencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok 2022 ddechrau.
Yn ystod yr ymweliad bydd y Prif Weinidog yn trafod yr angen i gynyddu y niferoedd o fenywod a merched sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon.
Bydd Mr Drakeford yn mynychu’r sesiwn hyfforddi wrth iddynt baratoi ar gyfer eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth, oddi cartref erbyn Iwerddon, ddydd Sadwrn 26 Mawrth.
Mae Cymru wedi enwi carfan gref o 37 ar gyfer yr ymgyrch dan arweiniad y capten Siwan Lillicrap.
Cafodd paratoadau’r tîm hwb yn ddiweddar wrth i gontractau llawnamser gael eu dyfarnu i 12 chwaraewr, gyda 12 arall yn cael contractau rhan-amser.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:
“Mae’n wych cael cwrdd a tîm Rygbi Merched Cymru heddiw i ddymuno pob lwc cyn y Chwe Gwlad.
“Mae’r tim yn ysbrydoliaeth ac yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy waith caled, ymroddiad ac ymrwymiad.
“Mae'n hollbwysig ein bod yn annog mwy o fenywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel”.
“Mae angen ei gwneud yn haws i fenywod a merched gael cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad ledled Cymru”.
Mae mwy na 5,000 o fenywod a merched yng Nghymru wedi cofrestru i chwarae rygbi y tymor hwn, y nifer uchaf hyd yma.
Dywedodd capten Cymru, Siwan Lillicrap:
“Mae'n wych gweld cynifer o fenywod a merched yn cymryd rhan mewn rygbi.
“Ches i ddim cyfle i chwarae rygbi tan oeddwn i’n 17 oed, ond erbyn hyn mae llwybr clir i ferched chwarae’r gêm o oedran ifanc hyd at lefel uwch rygbi, ac mae’n braf gweld cymaint o frwdfrydedd i gymryd rhan.
“Mae'n golygu cymaint i ni fel chwaraewyr allu gwireddu’n breuddwyd a dod yn athletwyr llawnamser ac yn y pen draw, hoffen ni ysbrydoli merched iau, p'un a ydyn nhw’n mynd ymlaen i chwarae rygbi rhyngwladol neu'n mwynhau manteision y gêm gymunedol.”
Dywedodd Is-gadeirydd Chwaraeon Cymru, Pippa Britton:
“Mae'n bwysig ein bod yn cefnogi tîm Rygbi Merched Cymru.
“Rydyn ni’n gwybod bod cael modelau rôl benywaidd ar y lefelau uchaf mewn chwaraeon mor bwysig, er mwyn annog menywod a merched eraill i gymryd y cam cyntaf hwnnw i gymryd rhan. Yn ogystal â hynny, mae hefyd yn bwysig ein bod yn eu hysbrydoli i barhau â'u diddordeb a chyflawni eu llawn botensial.
“Dymunwn bob llwyddiant i'r garfan”.