Neidio i'r prif gynnwy

Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi galw ar Lywodraeth y DU i ymwrthod yn llwyr â Brexit heb gytundeb.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, bydd Prif Weinidog Cymru yn dweud bod rhaid i Brif Weinidog y DU ddangos hyblygrwydd i geisio cytundeb yn y Senedd yn lle cyflwyno fersiwn "wedi'i addasu" yn unig o gytundeb sydd eisoes wedi cael ei wrthod yn llwyr gan Aelodau Seneddol.

Bydd Mark Drakeford yn rhybuddio, os na fydd Llywodraeth y DU yn ymwrthod yn llwyr â Brexit heb gytundeb, y bydd perygl i’r DU lithro tuag at Brexit heb gytundeb yn ddiofyn.

Wrth ymateb i amgylchiadau nas gwelwyd mo’u tebyg o’r blaen, mae Busnes y Llywodraeth yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi cael ei ddiwygio heddiw er mwyn i gyfres o ddatganiadau brys gael eu gwneud ar yr effaith y byddai canlyniad dim cytundeb yn ei chael ar Gymru a’r gwaith sydd ar y gweill i baratoi ar gyfer hynny.

Bydd Gweinidogion yn amlinellu’r peryglon gwirioneddol y gallai iechyd, yr economi, trafnidiaeth a ffermio eu hwynebu o gael Brexit heb gytundeb. Mae’r peryglon hynny yn cynnwys: 

  • pryderon ynglŷn â’r cyflenwad o radioisotope yn y dyfodol, sy’n gwbl hanfodol i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol at ddefnydd diagnostig a therapiwtig
  • y perygl y gallai cludiant nwyddau wynebu amhariad sylweddol, a’r effaith y byddai hynny yn ei chael ar fusnesau a defnyddwyr
  • rhwystrau tariff a di-dariff ar allforion i’r UE a fyddai’n niweidio ein sectorau gweithgynhyrchu ac amaethyddiaeth, gyda gwerthiant o fwydydd wedi’u prosesu yn denu tariffau o tua 15% a chynnyrch eraill yn rhagori ar 50%, a thariffau arbennig o uchel ar gig coch, os byddwn yn symud at Reolau Sefydliad Masnach y Byd.

Wrth siarad cyn y datganiad yn y Senedd y prynhawn yma, dywedodd y Prif Weinidog:

"Yr wythnos ddiwethaf fe gafodd cytundeb Brexit Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ei drechu, a hynny i'r fath raddau nes ei bod yn hollol amlwg bellach nad oes dyfodol o gwbl iddo. Er hynny, mae Theresa May yn parhau i fwrw ymlaen yn hollol ystyfnig â dim ond mân newidiadau i'w chytundeb aflwyddiannus.

"Dylai caniatáu’r sefyllfa drychinebus o ymadael heb gytundeb fod y tu hwnt i unrhyw Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae'n rhaid i’r Prif Weinidog wrthod yr opsiwn hwnnw yn llwyr ac ymestyn Erthygl 50. Byddai hynny'n rhoi amser i Lywodraeth y Deyrnas Unedig newid cyfeiriad ac ymrwymo i ailagor y trafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd i sicrhau Brexit sy'n amddiffyn swyddi a'r economi."