Neidio i'r prif gynnwy

Heno, bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn amilnellu nod Cymru i gynnig apwyntiad I bob oedolyn cymwys gael trydydd dos o’r brechlyn erbyn diwedd Rhagfyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cynlluniau brys ar droed i gyflymu’r rhaglen brechlyn atgyfnerthu ymhellach, wrth I dysttiolaeth newydd ddangos nad yw dau bigiad yn ddigon i amddiffyn rhag yr amrywiolyn omicron newydd. Ond mae’r pigiad atgyfnerthu’n hollbwysig i wella’r amddiffyniad rhag yr amwyiolyn newydd sy’n lledaenu’n gyflym.

Mewn neges deledu i bobl Cymru, bydd y Prif Weinidog yn dweud:

“Rhaid i ni baratoi am dwf mawr iawn a chyflym yn yr achosion – yn union fel pob rhan arall o’r Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n dal i ddysgu am y ffurf newydd hwn o’r coronafeirws. Ond, mae’r wybodaeth sydd gennym yn dweud  ein bod yn wynebu sefyllfa ddifrifol iawn. Mae omicron yn symud yn gyflym iawn. Erbyn diwedd y mis,  omicron fydd yr amrywiolyn mwyaf cyffredin o’r feirws, gan ddod â thon newydd o haint a salwch.

“Mae’n bosibl y bydd hyn yn arwain at nifer fawr o bobl yn yr ysbyty, ar yr union adeg pan mae’r Gwasnaeth Iechyd eisoes dan straen sylweddol. Bydd Llywodraeth Cymru’n gwneus popeth y gallwn i amddiffyn iechyd y bobl, a diogelu Cymru.”

“Daeth tystiolaeth newydd bod ein brechlynnau yn effeithiol yn erbyn omicron. Nid yw dau ddos o’r brechlyn yn ddigon i roi’r amddiffyniad sydd ei angen ar bawb. Mae’r dos atgyfnerthu - y trydydd dos - yn hollbwysig. Rydym eisoes wedi cyflymu ein rhaglen atgyfnerthu; mae gennym glinigau newydd ac oriau agor hirach. Nawr, mae ymdrechion brys i gyflymu’r rhaglen eto. Ein nod yw cynnig apwyntiad i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd y flwyddyn, os gallwn.

“Dyma fydd blaenoriaeth y Gwasanaeth Iechyd dros yr wythnosau nesaf. A chithau hefyd - rhowch flaenoriaeth i’r pigiad atgyfnerthu. Dyma’r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i amddiffyn eich hun yn erbyn y coronafeirws a’r amrywiolyn newydd. Rwyf am ddiolch i’n holl dimau brechu am eu gwaith caled i’n diogelu ni i gyd.

Bydd y Prif Weinidog yn ychwanegu

“Doedd neb ohonom eisiau clywed  y newyddion am yr amrywiolyn omicron hwn.

Ar ôl dwy flynedd hir o’r pandemig, roeddem i gyd wedi gobeithio gallu rhoi’r coronafeirws tu nôl i ni y Nadolig hwn.

Unwaith yn rhagor, yn anffodus, rydym yn wynebu sefyllfa ddifrifol, sy’n gwaethygu.

“Gallwn dynnu gyda’n gilydd eto, i ddiogelu ein gilydd – ein ffrindiau, ein teulu, ein cymdogion. Diogelu ein gilydd, a chadw ein hunain yn iach ac yn saff.

“Rydyn ni eisoes wedi cymryd rhai camau i amddiffyn pobl. Ac mae’n debygol y bydd angen i ni gymryd camau eraill i’ch diogelu chi, a diogelu Cymru”