Heddiw (dydd Gwener 19 Tachwedd), mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn croesawu arweinwyr o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig i Gymru, ar adeg dyngedfennol ar gyfer y cysylltiadau ar draws Ynysoedd Prydain.
Bydd y Prif Weinidog yn cynnal Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Nghaerdydd – uwchgynhadledd a fydd yn dod ag arweinwyr y DU, Iwerddon, Gogledd Iwerddon, yr Alban, Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw ynghyd.
Mae'r Uwchgynhadledd yn cael ei chynnal ar adeg hynod o bwysig i aelodau'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, yng nghyd-destun yr adferiad o'r pandemig, y trafodaethau parhaus rhwng yr UE a'r DU, a'r angen i lywodraethau weithio gyda’i gilydd i weithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd, yn dilyn cynhadledd COP26 yn Glasgow.
Wrth siarad cyn yr Uwchgynhadledd, dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:
"Rwy’n edrych ymlaen at groesawu Gweinidogion y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig i Gymru heddiw, i drafod llawer o faterion y mae angen gweithredu arnynt ar fyrder.
"Mae'r Uwchgynhadledd heddiw yn gyfle amserol i gefnogi deialog a gweithredu ar y cyd rhwng ein llywodraethau, sy’n fwy hanfodol nag erioed o ystyried yr heriau rydyn ni i gyd yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
"Mae'r Cyngor yn chwarae rhan unigryw a hanfodol i feithrin perthynas gadarnhaol rhwng ei aelodau. Mae'r Uwchgynhadledd heddiw yn gyfle arbennig o bwysig i gynnal cysylltiadau ac adeiladu arnynt."