"Mae'r bil i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn ymgais hyf gan Lundain i fachu pŵer, sy'n ymosodiad ar ddatganoli."
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Yr wythnos hon, addawodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig y byddai'n barod i wrando ar eraill ynghylch yr heriau a fydd yn codi yn sgil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, gan alw am undod er lles y wlad. Ond eto, mae'r cyhoeddiad heddiw yn gwrthddweud ei haddewidion yn llwyr.
"Rydw i wedi dweud yn glir ers diwrnod canlyniad y refferendwm - mae'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac fe fyddwn yn gweithio gyda Llywodraeth San Steffan i sicrhau Brexit synhwyrol a chefnogi Bil a fydd yn rhoi eglurder a sicrwydd i fusnesau.
"Rydyn ni wedi ceisio trafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig sawl gwaith, ac wedi cyflwyno cynigion adeiladol ynghylch ffyrdd o sicrhau Brexit sy'n anrhydeddu canlyniad y refferendwm, diogelu'r economi a pharchu datganoli.
"Yn anffodus, mae'n hymdrechion i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi'u hanwybyddu'n llwyr. Yn hytrach na thrafodaeth aeddfed ac adeiladol, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dangos anwybodaeth syfrdanol wrth gyhoeddi'r Bil hwn, sy'n sarhad i'r gwledydd datganoledig.
"Dylai'r Deyrnas Unedig fod yn cychwyn ar drafodaethau Brexit mewn undod er mwyn cael y cyfle gorau posib i sicrhau cytundeb da sy'n gofalu am fuddiannau pob rhan o'r Deyrnas Unedig. Yn hytrach, mae’n ymddangos bod y Llywodraeth yn benderfynol o bryfocio gwrthdaro cyfansoddiadol diangen.
"Os na fydd y Bil hwn yn cael ei ddiwygio, does dim gobaith y bydd fy Llywodraeth yn argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cydsyniad deddfwriaethol iddo. Yn hytrach, byddwn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio’n pwerau deddfwriaethol presennol i helpu i amddiffyn datganoli. Byddwn hefyd yn cydweithio’n agos gyda’r gweinyddiaethau datganoledig eraill; bydd Prif Weinidog yr Alban a finnau’n rhyddhau datganiad ar y cyd heddiw, gan ddweud yn glir nad oes modd i ni gefnogi’r Bil fel y mae ar hyn o bryd."