Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw bod rhaid i bawb aros gartref i achub bywydau wrth iddo gadarnhau y bydd cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar y coronafeirws yn parhau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyfyngiadau symud yn cael eu cryfhau mewn rhai meysydd allweddol er mwyn atal y straen newydd, heintus iawn o'r feirws rhag lledaenu o berson i berson yn y siopau a'r gweithleoedd hynny sy'n parhau ar agor.

Ac oni bai fod gostyngiad sylweddol yn yr achosion o’r coronafeirws cyn 29 Ionawr – dyddiad yr adolygiad tair wythnos nesaf o'r rheoliadau – bydd myfyrwyr ysgol a choleg yn parhau i ddysgu ar-lein tan hanner tymor mis Chwefror.

Mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau'n uchel iawn yng Nghymru ac mae’r straen newydd o amrywiolyn o'r feirws – a ganfuwyd gyntaf mewn rhannau o Gymru, Llundain a De Ddwyrain Lloegr cyn y Nadolig – wedi sefydlu’n gadarn yng Ngogledd Cymru erbyn hyn.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Mae pandemig y coronafeirws wedi cyrraedd pwynt arwyddocaol. Mae nifer yr achosion yng Nghymru’n parhau i fod yn uchel iawn ac mae ein GIG o dan bwysau gwirioneddol a pharhaus.

"Mae'n rhaid i'r cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar a gyflwynwyd gennym cyn y Nadolig aros yn eu lle i'n cadw ni i gyd yn ddiogel. Er mwyn arafu lledaeniad y feirws, rhaid i bob un ohonom ni aros gartref i ddiogelu'r GIG ac achub bywydau.

"Mae hwn yn teimlo fel cyfnod tywyll ond mae'r brechlynnau Covid-19 newydd yn cael eu cyflwyno ledled Cymru, gan roi llwybr i ni allan o'r pandemig hwn.

"Bydd angen ymdrech enfawr i frechu pawb ac, er bod diwedd y pandemig hwn yn y golwg, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dilyn y rheolau ac yn aros gartref. Rydym wedi gwneud cymaint o aberth gyda'n gilydd a rhaid i ni beidio â stopio nawr."

Yn dilyn adolygiad ffurfiol o gyfyngiadau symud lefel rhybudd pedwar, a gyflwynwyd am hanner nos ar 19 Rhagfyr, bydd yr holl fesurau'n parhau yn eu lle.

Mae hyn yn golygu y bydd busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, lleoliadau lletygarwch, adeiladau trwyddedig a chyfleusterau hamdden yn parhau ar gau.

Rydym yn egluro bod rhaid i bob ystafell arddangos gau. Byddant yn parhau i allu gweithredu trefniadau clicio a chasglu.
Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu pa fesurau ychwanegol y mae angen i archfarchnadoedd a manwerthwyr mawr eu rhoi ar waith i ddiogelu pobl yn y siopau. Rydym hefyd yn adolygu beth arall y mae angen i gyflogwyr ei wneud i amddiffyn pobl yn y gweithle a chefnogi pobl i weithio gartref. 

Mae'r Prif Weinidog yn atgoffa pobl bod rhaid i ni wneud y canlynol o dan y cyfyngiadau symud presennol:

  • Aros gartref.
  • Gweithio o gartref os yw hynny’n bosib.
  • Cadw pellter o 2m oddi wrth eraill.
  • Gwisgo gorchudd wyneb yn yr holl fannau cyhoeddus dan do.
  • Peidio â chwrdd ag unrhyw un y tu allan i’ch aelwyd eich hun neu eich swigen gefnogi.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Mae’r straen newydd yma’n ychwanegu dimensiwn newydd a digroeso at y pandemig.

"Ble bynnag mae cymysgu; ble bynnag mae pobl yn dod at ei gilydd, mae'r straen newydd yn lledaenu – mae'n hynod drosglwyddadwy ac yn lledaenu'n gyflym iawn o berson i berson.

"Mae'n rhaid i ni i gyd aros gartref, diogelu’r GIG, ac achub bywydau. Gyda'n gilydd, byddwn yn cadw Cymru'n ddiogel.”