Neidio i'r prif gynnwy

Mae llythyr digynsail oddi wrth Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi’i gyd-lofnodi gan y gwasanaethau argyfwng ac iechyd ac arweinwyr cynghorau Cymru, yn galw ar bawb yn y wlad i aros gartref dros benwythnos y Pasg er mwyn achub bywydau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Gweinidog Iechyd Cymru Vaughan Gething a’r Prif Swyddog Meddygol Frank Atherton ynghyd â’r Gwasanaeth Iechyd, yr heddlu, y gwasanaeth tân ac achub a’r gwasanaeth ambiwlans yn ogystal ag elusennau a mudiadau gwirfoddol wedi llofnodi’r llythyr er mwyn helpu i atal lledaeniad y coronafeirws.

Llythyr at bobl Cymru

Wrth i benwythnos y Pasg agosáu, rydym am i bawb wneud un peth pwysig. Aros gartref ac achub bywydau.

Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio ddydd a nos i ofalu am bobl a’u cadw’n ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae ein gweithwyr rheng flaen yn rhoi ein hiechyd a’n gofal ni gyntaf, bob dydd.

Rhaid i ninnau barhau i wneud popeth y gallwn i’w cefnogi nhw; i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd ac i achub bywydau.

Arhoswch gartref a helpwch i atal y feirws.

Rydym yn gwybod nad yw hyn yn hawdd. Diolch i chi am gadw at y rheolau. Er bod ambell arwydd positif cychwynnol, mae gennym ffordd bell i fynd eto. Rydym yn gwybod bod aros gartref am gyfnodau hir yn anodd, a bod teuluoedd ledled Cymru’n gwneud aberth bob dydd.
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwneud yr hyn sydd raid. Ond mae’n rhwystredig iawn gweld rhai pobl yn anwybyddu’r rheolau a rhoi bywydau eraill mewn perygl.

Rydym yn gweithredu i rwystro hyn. Mae’r rheolau yno i’ch diogelu chi, eich teulu a’ch ffrindiau. I’r rhan fwyaf o bobl, salwch ysgafn fydd y coronafeirws yn ei achosi, ond gall nifer fawr o bobl eraill - plant, oedolion, henoed - fynd yn ddifrifol wael os ydynt yn dal yr haint.

Yn drist iawn, mae llawer o bobl eisoes wedi marw ar ôl dal y coronafeirws. Mae teuluoedd ym mhob cwr o Gymru wedi colli rhywun i’r salwch hwn. Os na wnawn ni weithredu nawr, bydd mwy o bobl yn marw.

Bydd ein gweithredoedd a’n penderfyniadau ni dros benwythnos y Pasg a’r wythnosau a misoedd nesaf yn effeithio ar ein cenedl am flynyddoedd i ddod.

Rydym yn erfyn arnoch – arhoswch gartref i achub bywydau.

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru
Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru
Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru
Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru
Carl Foulkes, Prif Gwnstabl, Heddlu Gogledd Cymru
Mark Collins Prif Gwnstabl, Heddlu Dyfed-Powys
Matt Jukes Prif Gwnstabl, Heddlu De Cymru
Pam Kelly Prif Gwnstabl, Heddlu Gwent
Andrew Morgan, Arweinydd CLlLC, ar ran holl Awdurdodau Lleol Cymru
Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru
Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru
Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
Jason Killens, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Ruth Marks, Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Simon Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Chris Davies, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Julian Atkins, Prif Weithredwr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Tegryn Jones,Prif Weithredwr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Emyr Williams, Prif Weithredwr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Kate Griffiths, Cyfarwyddwr y Groes Goch Brydeinig yng Nghymru