Neidio i'r prif gynnwy

Nod yr argymhellion newydd yw lleihau materion megis gordewdra, diabetes a phryderon iechyd eraill yn ystod beichiogrwydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod yr argymhellion newydd yw lleihau materion megis gordewdra, diabetes a phryderon iechyd eraill yn ystod beichiogrwydd. Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu y dylai menywod beichiog wneud tua 150 o funudau o weithgarwch 'cymedrol' bob wythnos.

Mae hyn yn cael ei ddisgrifio fel 'gweithgarwch sy'n gwneud ichi anadlu'n gynt' wrth barhau i allu cynnal sgwrs.

Mae'r cyngor newydd hwn yn cael ei roi ar ffurf ffeithlun, a'r nod yw rhoi'r dystiolaeth ddiweddaraf ar ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd i fydwragedd, nyrsys, meddygon teulu, obstetryddion, gynaecolegwyr yn ogystal â'r sector hamdden.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:

"Mae tystiolaeth gref fod ymarfer corff cymedrol a rheolaidd yn ystod beichiogrwydd yn gallu cynnig manteision sylweddol i fenywod. Mae hyn yn cynnwys lleihau problemau pwysedd gwaed uchel, helpu i reoli pwysau, gwella cwsg, lleihau'r risg o ddiabetes a gwella'r hwyliau. Dyma'r rheswm pam ein bod am sicrhau bod menywod beichiog, a'r gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n eu cefnogi, yn ymwybodol o fanteision ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd.

"Dylai menywod beichiog nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn gwneud ymarfer corff ddatblygu eu lefel gweithgarwch yn araf, ond dylai menywod sydd eisoes yn gwneud ymarfer corff rheolaidd barhau i wneud hynny, gan wrando ar eu corff ac addasu eu hymarferion yn ôl yr angen. Rheol gyffredin i bob menyw feichiog yw os yw'n gyfforddus, gallwch gario mlaen. Os yw'n anghyfforddus, rhowch y gorau iddi a gofynnwch am gyngor."

Mae menywod nad oedden nhw'n gwneud ymarfer corff cyn bod yn feichiog yn cael eu hargymell i gynyddu'r gweithgarwch corfforol yn raddol, gan ddechrau â 10 munud o ymarfer corff cymedrol a chynyddu'n raddol i 150 o funudau. Dylai'r ymarfer corff gael ei wasgaru drwy gydol yr wythnos, ac mae'n bwysig cofio bod 'pob gweithgarwch yn cyfrif'.

Daw'r cyngor newydd gan Bwyllgor Arbenigol y Prif Swyddogion Meddygol ar gyfer Gweithgarwch Corfforol a Beichiogrwydd, sy'n cynnwys bydwragedd, obstetryddion, seicolegwyr ymarfer corff, meddygon teulu, Ymgynghorwyr Iechyd y Cyhoedd, Meddygaeth Chwaraeon, gweithwyr ymarfer corff proffesiynol, gwyddonwyr ymchwil a nyrsio. Yr Athro Marian Knight a Dr Charlie Foster o Brifysgol Rhydychen fu'n arwain y prosiect. Y nod oedd llunio negeseuon ar sail tystiolaeth i weithwyr iechyd proffesiynol eu defnyddio â'r cyhoedd. Cafodd y ffeithlun ei ddatblygu a’i brofi â phaneli o weithwyr iechyd proffesiynol a menywod beichiog cyn mynd ati i ymgynghori â dros 250 o feddygon a bydwragedd yn y DU.

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn cael eu hannog i ddefnyddio'r ffeithlun hwn i drafod manteision ymarfer corff â phob menyw feichiog i'w helpu i fyw bywyd iach, gan fod tua 1 o bob 20 o fenywod yn ordew yn ystod beichiogrwydd.

Y pwyntiau allweddol yw:

  • Mae menywod beichiog sydd eisoes yn gwneud ymarfer corff yn cael eu hannog i barhau i wneud hynny i'r un lefel
  • Gallai fod angen i fenywod addasu eu gweithgarwch yn ystod eu beichiogrwydd. Er enghraifft, cymryd rhan mewn chwaraeon digyswllt neu ddosbarth ymarfer corff priodol yn hytrach na chwaraeon cyswllt
  • Yn bwysig, ni wnaeth y dystiolaeth sy'n cefnogi'r ffeithlun hwn ganfod unrhyw dystiolaeth o niwed i'r fam na'r baban o wneud ymarfer corff cymedrol
  • Mae'r rheini nad oedd yn gwneud ymarfer corff cyn mynd yn feichiog yn cael eu cynghori i osgoi ymarfer corff dwys, fel rhedeg, loncian, chwaraeon raced ac ymarferion cryfder sy'n galw am ymdrech galed. Ond mae modd addasu rhai gweithgareddau
  • Y neges ddiogelwch derfynol yw neges synnwyr cyffredin, sef 'paid bwrw’r bola' gan gyfeirio at bob gweithgarwch sy'n rhoi menyw feichiog mewn mwy o berygl o ddioddef anaf drwy gyswllt corfforol
  • Mae'r astudiaeth yn argymell y dylai menywod beichiog osgoi gweithgareddau lle bo mwy o berygl o syrthio, neu o ddioddef trawma neu anafiadau oherwydd symudiadau heriol. Mae'r rhain yn cynnwys sgïo, sgïo ar ddŵr, syrffio, beicio oddi ar y ffordd, gymnasteg, marchogaeth a chwaraeon cyswllt fel hoci iâ, bocsio, pêl-droed neu bêl-fasged. Ni ddylent ychwaith wneud ymarfer corff lle mae angen gorwedd ar wastad eu cefn ar ôl tri mis cyntaf y beichiogrwydd
  • Ewch i gael cyngor meddygol os byddwch allan o wynt cyn neu ar ôl gwneud ychydig bach o ymarfer corff, neu'n cael poen/cur pen, teimlo'n benysgafn, poen yn y frest, gwendid yn y cyhyrau sy'n effeithio ar gydbwysedd a phoen neu chwydd i groth y goes (‘calf’). Mae'n bosibl y bydd menywod yn cael cyngor i leihau/rhoi'r gorau i wneud ymarfer corff yn dilyn cymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd fel gwaedu o'r wain, cyfangiad cyhyrol rheolaidd a phoenus neu os byddant yn dechrau colli rhywfaint o hylif amniotig.