Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwynodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru enillydd Gwobr Cymrodoriaeth Betsi Cadwaladr am ragoriaeth mewn nyrsio yn ei chynhadledd flynyddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ac roedd yn gyfle i weithwyr gofal iechyd rannu profiadau, syniadau arloesol ac arferion da. Roedd mwy  na 200 o bobl yn bresennol yn y chweched gynhadledd arddangos, gan gynnwys nyrsys, bydwragedd a nyrsys iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol, gweithwyr cymorth gofal iechyd a myfyrwyr. 

Yn ystod y digwyddiad, cyflwynodd y Prif Swyddog Nyrsio wobr Sefydliad Ysgoloriaethau Betsi Cadwaladr am ragoriaeth i Corinne Hocking, sy'n brif nyrs yn yr Uned Asesu a Therapi yn Ysbyty Llandudno am ei gwaith yn datblygu'r gwasanaeth trwytho sy'n cael ei ddarparu yn yr uned. Cafodd Debbie Tucker, sy'n uwch-brif nyrs ward yn Ysbyty'r Tywysog Philip ganmoliaeth uchel am ei gwaith yn datblygu rôl newydd y Gweithiwr Cymorth Eiddilwch.

Dywedodd Jean White, y Prif Swyddog Nyrsio:

“Roedd hi'n anrhydedd fawr cael cyflwyno enillwyr Gwobr Sefydliad Ysgoloriaethau Betsi Cadwaladr, i'r rheini sydd wedi cyflawni rhywbeth yn eu maes nyrsio.

“Hoffwn i hefyd ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y digwyddiad hwn. Diolch i bob un sydd wedi cymryd rhan rydyn ni wedi gallu rhannu’r brwdfrydedd a'r balchder a welwyd yma heddiw.

“Roedd yn wych gweld nyrsys o bob sector, yn ogystal â gweithwyr cymorth gofal iechyd a myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd, yn rhannu syniadau a phrofiadau i wella gofal i gleifion.”


Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn agor y digwyddiad:

“Rwy'n falch o gael y cyfle i dreulio amser gyda chymaint o nyrsys, bydwragedd a gweithwyr cymorth gofal iechyd heddiw. 

"Mae'n gyfle imi gydnabod y gwaith gwych mae nyrsys yn ei wneud i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal gorau posibl, a thalu teyrnged iddyn nhw, a hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud diolch.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad i ddenu a hyfforddi mwy o nyrsys ledled Cymru ac rydyn ni newydd lansio ymgyrch recriwtio nyrsys, yn hyrwyddo manteision hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn ymestyn cynllun bwrsariaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru am flwyddyn arall".