Mae Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru, yn dechrau ei thrydedd flwyddyn yn y swydd ac yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi ymdrechion i wella lles y proffesiynau drwy sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd, gwaith, iechyd corfforol ac iechyd emosiynol a meithrin diwylliant cefnogol yn y gweithle.
Wrth siarad yng Nghynhadledd flynyddol Prif Swyddog Nyrsio Cymru, dywedodd Sue:
Roedd tyfu'r gweithlu, buddsoddi mewn arweinwyr nyrsio a bydwreigiaeth a'u datblygu ar bob lefel, drwy raglenni arweinyddiaeth ffurfiol ac anffurfiol, yn un o'r blaenoriaethau y llynedd, er mwyn galluogi arweinyddiaeth gref ac effeithiol, a darparu lefelau uchel o ofal yn gyson.
Mae'n rhaid inni nodi gweithlu dawnus yn gynnar a datblygu arweinwyr olynol i hyrwyddo newid.
Rwy'n falch ein bod wedi cefnogi mwy na 100 o nyrsys rhyngwladol drwy raglen arweinyddiaeth fel y gallan nhw ymateb i heriau gweithleoedd a systemau iechyd modern blaenllaw.
Mae hyn yn ychwanegol at gyfleoedd datblygu sy'n rhychwantu'r ystod o ddarpar arweinwyr ac arweinwyr sefydledig.
Mae dulliau llwyddiannus o greu amgylchedd gwaith cadarnhaol sy'n creu'r amodau hyn ac yn sicrhau'r ymrwymiad i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion, hyd yn oed yn ystod cyfnodau llawn straen.
Mae rhaglenni arweinyddiaeth yn bwysig. Maen nhw'n darparu cyfleoedd i nyrsys a bydwragedd wella eu sgiliau arweinyddiaeth a'u hyder, drwy amgylchedd dysgu cefnogol, cyngor gan fentoriaid a chynlluniau datblygu arweinyddiaeth unigol, fel y gallan nhw ddylanwadu ar wasanaethau iechyd a gofal a'u gwella ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Wrth ddiolch i'r gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth am helpu i gyflawni a gweithredu'r blaenoriaethau, ychwanegodd y Prif Swyddog Nyrsio:
Rwyf wedi bod yn dyst i'r cyfraniadau unigryw gan ein timau ledled Cymru, ac mae rhai o'r rhain wedi bod gan ein hysgolheigion arweinyddiaeth, boed hynny drwy raglenni yng Nghymru, y DU neu ledled y byd.
Rydych wedi cymryd y cyfrifoldeb, gan groesawu'r cyfrifoldeb i wthio ffiniau, i chwalu rhwystrau a nenfydau, i gwestiynu normau sefydledig ac i geisio atebion arloesol i'r heriau sy'n ein hwynebu, yma yng Nghymru.
Cyhoeddwyd a dathlwyd hefyd enillwyr Gwobrau Rhagoriaeth y Prif Swyddog Nyrsio am eu cyfraniadau eithriadol i'r gweithlu nyrsio, am ysbrydoli eraill, ac am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Cyflwynwyd y gwobrau i:
- Siji Salimkutty, Uwch-ymarferydd Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Catherine Lowery, Nyrs Iechyd Meddwl Cofrestredig a Nyrs Cyswllt Dementia, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
- Sandra Miles, Nyrs Arweiniol Datblygu Ymarfer Proffesiynol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Ceri Heard a Jane Dixon, Arbenigwyr Nyrsio Clinigol, Tîm Nyrsio Gofal Lliniarol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Dywedodd Annette Beasley, Nyrs Ganser Arweiniol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sydd wedi bod yn gwneud ysgoloriaeth arweinyddiaeth:
Dyna brofiad sy'n newid bywyd! Mae gwneud Ysgoloriaeth Arweinyddiaeth Ddigidol wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar fy mywyd personol a phroffesiynol. Mae wedi cryfhau fy mhresenoldeb a fy effaith bersonol, sy’n fy ngrymuso i sicrhau fy sedd nyrsio wrth y bwrdd! Bydda i’n ddiolchgar am byth i Lywodraeth Cymru am fy ngalluogi i fanteisio ar y cyfle gwych yma i ddatblygu fel arweinydd.