Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Sue Tranka yn dechrau yn ei swydd fel Prif Swyddog Nyrsio Cymru, gan ddod â bron i 30 o flynyddoedd o brofiad nyrsio gyda hi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn wreiddiol o Dde Affrica, lle y cafodd ei hyfforddi fel bydwraig, nyrs gyffredinol gofrestredig, a nyrs iechyd meddwl a chymunedol, bu Sue yn gweithio i’r GIG am 22 o flynyddoedd, a hynny mewn rolau arweinyddiaeth gweithredol a chlinigol.

Mae gan Sue brofiad sylweddol ym maes diogelwch cleifion a gwella ansawdd. Ers mis Ionawr 2020, mae wedi bod yn gweithio i GIG Lloegr lle bu’n arwain yr ymateb nyrsio cenedlaethol i COVID, fel Dirprwy Brif Swyddog Nyrsio ar gyfer Diogelwch Cleifion ac Arloesi. Ers dechrau’r pandemig, bu’n canolbwyntio’n bennaf ar ddiogelu staff a chleifion rhag trosglwyddiad nosocomiaidd COVID.

Mae’n dod â chyfoeth o brofiad i’w rôl newydd gyda Llywodraeth Cymru, ac mae bellach yn edrych ymlaen at gwrdd â’r gweithlu nyrsio yma yng Nghymru, a’u cefnogi a’u harwain wrth inni fynd ati i adfer o’r pandemig.

Dywed Sue Tranka:  

Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, dw i wedi gweld â’m llygaid fy hun gyfraniad enfawr ein proffesiwn, a dw i’n hynod falch o’r ffordd y mae wedi ymroi i ddarparu gofal i’n cleifion, y tu mewn i’r ysbyty a’r tu allan iddo. Dw i hefyd yn ddiolchgar i bawb a ddaeth allan o’u hymddeoliad i helpu eu cydweithwyr, ac rydyn ni’n awyddus i elwa ar eu harbenigedd nhw hefyd wrth inni ganolbwyntio ar y dyfodol.

Mae’n hanfodol rhoi’r sylw priodol i iechyd a llesiant ein hased mwyaf gwerthfawr yn y GIG, sef ein gweithlu, wrth inni adfer ein gwasanaethau. Mae aelodau ein gweithlu nyrsio wedi dangos cadernid mawr yn ystod y cyfnod anodd hwn, a dw i’n gwybod bod eu hymdrechion i gadw eu hunain a’u cydweithwyr yn ddiogel wedi costio’n fawr iddyn nhw fel unigolion. 

Rydyn ni wedi ymateb i lawer iawn o heriau yn ystod y cyfnod hwn, a bydd angen inni ddyblu ein hymdrechion i recriwtio, a chanolbwyntio ar y strategaethau mwyaf effeithiol i sicrhau bod pobl yn parhau i weithio inni.  Nid yw’r pandemig hwn drosodd eto, ond dw i’n edrych ymlaen at gwrdd ag aelodau gweithlu nyrsio Cymru er mwyn siarad â nhw a gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud, wrth inni ystyried digwyddiadau’r 18 mis diwethaf, ac adeiladu ar gyfer y dyfodol.

Dywed Prif Weithredwr GIG Cymru, Andrew Goodall:

Dw i wrth fy modd o allu croesawu Sue i Gymru a’i rôl newydd o arwain y proffesiwn nyrsio yma. 

Mae hwn wedi bod – ac yn dal i fod – yn gyfnod heriol i’r GIG, a dw i’n gwybod bod Sue yn awyddus i gwrdd â’r gweithlu a deall y pwysau sydd arno er mwyn inni allu ei gefnogi wrth inni adfer o’r pandemig COVID. Bydd ei phrofiad a’i gwybodaeth helaeth yn gymorth enfawr inni yn ystod y cyfnod hwn a dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda hi.