Neidio i'r prif gynnwy

Mae Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, wedi cadarnhau bod dau glaf arall yng Nghymru wedi cael canlyniad positif i brawf y Coronafeirws (COVID -19).

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r claf cyntaf yn preswylio yn ardal awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot, ac wedi dychwelyd o dde’r Eidal yn ddiweddar.

Mae’r ail glaf yn preswylio yn ardal awdurdod lleol Casnewydd, ac wedi dychwelyd o ogledd yr Eidal yn ddiweddar.

Mae’r ddau glaf yn cael eu trin mewn lleoliadau clinigol addas.

Dywedodd Dr Atherton:

Gallaf gadarnhau bod dau unigolyn arall yng Nghymru wedi cael canlyniad positif i brawf y coronafeirws (COVID-19), sy’n dod â chyfanswm yr unigolion sydd wedi cael canlyniad positif yng Nghymru i chwech.

Mae’r ddau unigolyn yn cael eu trin mewn lleoliadau clinigol addas. Mae’r holl gamau priodol yn cael eu cymryd i ofalu am yr unigolyn a lleihau’r risg o drosglwyddo’r feirws i eraill.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau’r cyhoedd bod Cymru a’r Deyrnas Unedig gyfan yn barod ar gyfer digwyddiadau o’r math hyn. Gan weithio gyda’n partneriaid yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, rydym wedi gweithredu’r ymateb a baratowyd gennym, gan roi mesurau rheoli haint cadarn ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Er mwyn gwarchod cyfrinachedd y cleifion, ni fydd unrhyw fanylion pellach am yr unigolion yn cael eu rhyddhau.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y Coronafeirws (COVID-19) ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.