Neidio i'r prif gynnwy

Yn ei haraith gyntaf ers ymgymryd â'r rôl, mae'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, Julie James, wedi amlinellu ei blaenoriaethau gan wneud addewid i fod yn 'eiriolwr dros Gymru'.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yng Nghynhadledd Cymru'r Gyfraith yn Sir Benfro, siaradodd y Cwnsler Cyffredinol am bwysigrwydd mynediad at gyfiawnder a hygyrchedd y gyfraith, a ddisgrifiodd fel 'y glud sy'n dal cymdeithas at ei gilydd'.

Mae Cynhadledd Cymru'r Gyfraith yn sicrhau llwyfan i drafod datblygiadau cyfansoddiadol a chyfreithiol a dyfodol y proffesiwn.

Yn ei phrif anerchiad, galwodd ar broffesiynau i fod yn rhan o'r drafodaeth am ddyfodol y system gyfiawnder ac eglurodd sut yr hoffai weld y sector cyfan yn manteisio ar dechnolegau newydd.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol:

"Rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd effeithlon o roi cyfiawnder ar waith. Mae angen iddo ddigwydd yn gyflymach - heb golli ei gryfder craidd sef tegwch.

"Mae angen i bractisau cyfreithiol fanteisio ar dechnoleg ac ymgyfarwyddo'n gyson â'r ffordd y mae'r byd yn gwneud busnes.

"Un peth rwy'n arbennig o awyddus i'w weld yw i bractisau ac unigolion beidio â gweld ei gilydd fel cystadleuwyr ond iddyn nhw gydweithio er budd cyfiawnder."

Amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol hefyd ei bwriad i barhau i weithio gyda llywodraethau ac asiantaethau eraill i archwilio pŵer deallusrwydd artiffisial er mwyn helpu pobl i ymwneud â'r gyfraith a'i deall fel y gallan nhw ddod o hyd i'r datrysiadau cywir i sefyllfaoedd bywyd go iawn.

Yn rhan o'i nod i wella hygyrchedd y gyfraith, mae'r Cwnsler Cyffredinol hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno Bil gerbron y Senedd y flwyddyn nesaf i gydgrynhoi cyfraith cynllunio.

Mae hyn yn rhan o welliannau tymor hir a fydd yn arwain at fanteision ymarferol mewn bywyd go iawn ac yn galluogi pobl i ddeall yn well sut mae'r gyfraith yn effeithio arnyn nhw.

Ychwanegodd y Cwnsler Cyffredinol:

"Y gyfraith yw'r glud sy'n dal cymdeithas at ei gilydd. Mae'n ffordd o ddatgan ein cytundeb ar y cyd i helpu'n gilydd – sef hanfod cymdeithas ddemocrataidd sefydlog. Dyma sut rydyn ni'n ceisio cadw pethau'n deg, yn drefnus ac yn hawdd eu rhag-weld.

“Ac yn wir, mae'n gallu, ac fe ddylai, ddiogelu ein pobl fwyaf agored i niwed. Ond dylai fod yn gymwys i bawb yn ddiwahân, o'r tlotaf i'r cyfoethocaf.”