Mae Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, heddiw wedi cyhoeddi mai Dan Stephens sydd wedi'i benodi yn Brif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub newydd Cymru.
Mae gan y Prif Gynghorydd Tân ac Achub rôl hanfodol wrth gynorthwyo Llywodraeth Cymru â materion sy’n ymwneud â pharodrwydd gweithredol, perfformiad, strwythur a threfniadaeth y tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru.
Hefyd, mae gan y Prif Gynghorydd gyfrifoldeb cyfreithiol dros arolygu diogelwch tân yn holl safleoedd y Goron yng Nghymru nad ydynt yn ymwneud â'r fyddin. Bydd yn cael ei benodi i'r rôl honno gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
Mae Dan Stephens yn dod â chyfoeth o brofiad i’r swydd. Mae ganddo 30 o flynyddoedd o brofiad yn y Gwasanaeth Tân ac Achub ac mae wedi bod yn gweithio fel Prif Swyddog Tân Awdurdod Tân ac Achub Glannau Mersi ac fel Prif Swyddog/Prif Weithredwr Brigâd Dân Fetropolitan Melbourne, yn Awstralia.
Dywedodd Hannah Blythyn:
Rwy'n falch o gyhoeddi mai Dan Stephens sydd wedi'i benodi yn Brif Gynghorydd Tân ac Achub newydd Cymru.
Blaenoriaethau cyntaf Dan fydd sicrhau bod Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaethau Tân ac Achub yn dysgu o’r gwersi a gafwyd yng Ngham 1 Ymchwiliad Cyhoeddus Tŵr Grenfell.
Er bod llawer o argymhellion yr Ymchwiliad yn cael eu cyfeirio at Frigâd Dân Llundain, maent yr un mor berthnasol i bob Gwasanaeth Tân ac Achub arall. Bydd Dan yn gweithio gyda Phrif Swyddogion Tân Cymru i sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â'r argymhellion hynny yn gyflym ac yn effeithiol. Edrychaf ymlaen at weithio gydag ef.