Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys dwy brif ran.

  • ‘Presgripsiynau Meddygon Teulu’ sy’n eitemau a roddir ar bresgripsiwn gan feddygon teulu yng Nghymru neu ar eu rhan, ac yn cael eu dosbarthu yn y gymuned yng Nghymru neu mewn man arall yn y DU.
  • ‘Cymariaethau’r DU’ sy’n defnyddio data ychydig yn wahanol o’r enw  ‘presgripsiynau a roddir yn y gymuned’ sy’n eitemau a roddir ar bresgripsiwn gan unrhyw weithwyr iechyd proffesiynol yn y DU sy’n rhoi presgripsiynau a oedd yn cael eu dosbarthu wedyn yn y gymuned yng Nghymru.

Data presgripsiynau meddygon teulu yw prif ffocws yr adroddiad hwn oherwydd mae’n dangos pa feddyginiaethau ac offer sy’n cael eu rhoi ar bresgripsiynau gan bractisau meddygon teulu yng Nghymru. Felly, argymhellir y dylai’r rhan fwyaf o ddarllenwyr ddefnyddio data presgripsiynau meddygon teulu ar gyfer eu dadansoddiadau.  

Mae presgripsiynau a roddir yn y gymuned yn ddata eilaidd, ond dylid eu defnyddio wrth wneud cymariaethau ar draws gwledydd y DU.

Nid yw eitemau a roddir ar bresgripsiwn ac a ddosberthir mewn ysbytai yn cael eu cyfrif yn y naill set data na’r llall, ond os oedd presgripsiwn wedi’i ysgrifennu gan feddyg ysbyty ac yna’n cael ei ddosbarthu mewn fferyllfa gymunedol (h.y. fferyllfa stryd fawr), byddai’n cael ei gyfrif yn y ffynhonnell eilaidd o bresgripsiynau a ddosberthir yn y gymuned.

Darperir cymhariaeth rhwng y ffynonellau yn Nhabl 1 ac mae rhagor o fanylion yn yr adran Pa ddata ddylwn eu defnyddio?.

Prif bwyntiau

  • Cafodd 81.1 miliwn o eitemau eu rhoi ar bresgripsiwn gan feddygon teulu, a’u dosbarthu yn y gymuned yn 2020-21. Mae hyn 1.0 miliwn (1.2%) yn is nag yn 2019-20.
  • Mae’r tueddiad tymor hir yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer yr eitemau a roddir ar bresgripsiwn ac a ddosberthir dros amser ond mae’r cynnydd wedi arafu yn ystod blynyddoedd diweddar. Yn y cyfnod pum mlynedd mwyaf diweddar, cynyddodd nifer yr eitemau 1.3% o gymharu â chynnydd o 9.0% yn y cyfnod pum mlynedd blaenorol (2011-12 i 2015-16).
  • Roedd nifer y presgripsiynau fesul pen o’r boblogaeth a oedd wedi cofrestru â  meddyg teulu yn 25.1 yn 2020-21. Mae hyn 0.3 o eitemau (neu 1.2%) yn is na’r flwyddyn flaenorol.
  • Mae penodau Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF) sydd â’r nifer uchaf o eitemau a roddir ar bresgripsiwn gan feddygon teulu yng Nghymru ac a ddosberthir yn y gymuned wedi parhau’r un fath yn y tair blynedd ddiwethaf. Maent ar gyfer y system gardiofasgwlaidd, y brif system nerfol a'r system endocrin a gyda’i gilydd maen nhw’n cyfrif am 60% o’r holl eitemau. 
  • Mae yna anwadalrwydd o flwyddyn i flwyddyn yng nghost net cynhwysion (NIC) ar gyfer yr eitemau a roddir ar bresgripsiwn gan feddygon teulu ac a ddosberthir yn y gymuned, ond mae’r tueddiad cyffredinol wedi bod yn sefydlog ar y cyfan ers canol y 2000au. Fodd bynnag, yn 2020-21, roedd cost net cynhwysion yn £624.7 miliwn, cynnydd o £30.7 miliwn (neu 5.2%) o’r flwyddyn flaenorol, a’r uchaf a gofnodwyd erioed.
  • Mae yna wahaniaethau rhwng nifer yr eitemau a roddir ar bresgripsiwn ac a ddosberthir a’u cost ar lefel bwrdd iechyd. Caerdydd a’r Fro oedd â’r nifer isaf o eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn fesul uned bresgripsiynu a’r gost net cynhwysion isaf, ond y gost uchaf fesul eitem.
  • Cwm Taf Morgannwg oedd â’r nifer uchaf o eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn ac a ddosbarthwyd fesul uned bresgripsiynu, gyda chost o bron i £28 ar gyfartaledd fesul uned bresgripsiynu yn fwy na Chaerdydd a’r Fro.
  • Gan ddefnyddio data ategol ar gyfer presgripsiynau a roddwyd yn y gymuned, cafodd mwy o eitemau eu rhoi ar bresgripsiwn yng Nghymru fesul pen o’r boblogaeth nag unrhyw un o wledydd eraill y DU. Fodd bynnag, Cymru oedd â’r NIC isaf fesul eitem bresgripsiwn a ddosbarthwyd ym mhob un o’r pedair gwlad, a dim ond Lloegr oedd â NIC is fesul pen o’r boblogaeth na Chymru.

Effaith COVID-19

Mae’r data diweddaraf ar gyfer Cymru yn cynnwys y flwyddyn ariannol yn cychwyn ym mis Ebrill 2020 ac yn gorffen ym mis Mawrth 2021, sy’n cyd-fynd yn llawn â phandemig COVID-19. Fodd bynnag, ymddengys mai effaith fach y mae’r pandemig wedi ei chael ar y ffordd y mae data wedi’u casglu oherwydd y ffordd y caiff eitemau eu rhoi ar bresgripsiwn a’u dosbarthu. Efallai bod yna rywfaint o effaith oherwydd bod cleifion yn rhyngweithio â meddygon teulu mewn ffordd wahanol ers y pandemig, gyda mwy o ymgynghoriadau ffôn a rhithwir, ond mae’r data ar gyfer nifer yr eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn gan feddygon teulu ac a ddosbarthwyd yn y gymuned yng Nghymru yn 2020-21, yn cyd-fynd â thueddiadau diweddar.

Presgripsiynau Meddygon Teulu

Eitemau presgripsiwn

Image
Siart colofn a llinell yn dangos eitemau a ragnodwyd (llinell) ac eitemau y pen (colofn), ers 1973.

Y data diweddaraf

  • Yn 2020-21 cafodd 81.1 miliwn (81,097,939) o eitemau eu rhoi ar bresgripsiwn gan feddygon teulu yng Nghymru a’u dosbarthu yn y gymuned, yr ail uchaf a gofnodwyd erioed. Mae hyn yn cyfateb i 25.1 o eitemau fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Newidiadau ers y llynedd

  • Cafodd tua 1 miliwn (1,002,105) yn llai o eitemau eu rhoi ar bresgripsiwn yn 2020-21 o gymharu â 2019-20, gostyngiad o 1.2%.
  • Mae hyn yn ostyngiad o 0.3 o eitemau (1.2%) fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Newidiadau yn y pum mlynedd ddiwethaf

  • Cafodd 1.1 miliwn (1,069,882) yn fwy o eitemau eu rhoi ar bresgripsiwn yn 2020-21 nag yn 2016-17, cynnydd o 1.3%.
  • Fodd bynnag, oherwydd newidiadau yn y boblogaeth, roedd nifer yr eitemau fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru'r un fath bron yn y naill flwyddyn a’r llall.

Newidiadau ers cyflwyno presgripsiynau am ddim ar 1 Ebrill 2007

  • Cafodd mwy na 19 miliwn (19,086,764) o eitemau ychwanegol eu rhoi ar bresgripsiwn yn 2020-21 o gymharu â 2007-08, cynnydd o 30.8%. Mae hyn yn gynnydd o 5.0 o eitemau (neu 25.0%) fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.
  • Mae’r cynnydd ers i bresgripsiynau am ddim gael eu cyflwyno yn is na’r cynnydd o 27.7 miliwn (neu 80.7%) o eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn yn y cyfnod blaenorol o 14 mlynedd (rhwng 1993-94 a 2007-08).

Cost net cynhwysion

Image
Siart colofn a llinell yn dangos cost net cynhwysion (llinell) a chost y pen (colofn), ers 1973.

Y data diweddaraf

  • Yn 2020-21, roedd cyfanswm cost net cynhwysion yr holl eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn gan feddygon teulu yng Nghymru ac a ddosbarthwyd yn y gymuned bron yn £625 miliwn (£624,726,216), sy’n cyfateb i £193.03 fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Newidiadau ers y llynedd

  • Cynyddodd cyfanswm costau net cynhwysion fwy na £30 miliwn (£30,739,198) neu 5.2% yn 2020-21 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol; cynyddodd y gost fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru £9.50 (5.2%).

Newidiadau dros y pum mlynedd ddiwethaf

  • Cynyddodd costau net cynhwysion fwy na £48 miliwn (£48,051,788) neu 8.3% yn 2020-21 o gymharu â 2016-17. Cynyddodd y gost fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru £12.69 (7.0%).

Newidiadau ers cyflwyno presgripsiynau am ddim ar 1 Ebrill 2007

  • Mae cyfanswm cost net cynhwysion wedi cynyddu ychydig dros £40 miliwn (£40,311,602), neu 6.9% ers 2007-08, pan gyflwynwyd presgripsiynau am ddim yng Nghymru. Mae’r gost fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru wedi cynyddu £7.53 (4.0%).
  • Mae’r cynnydd ers i bresgripsiynau am ddim gael eu cyflwyno yn llawer llai na’r cynnydd o £352.8 miliwn (neu 152.2%) mewn NIC yn y cyfnod blaenorol o 14 mlynedd (rhwng 1993-94 a 2007-08).

Costau net cynhwysion cyfartalog

Image
Siart yn dangos costau cymedrig a chanolrifol pob eitem bresgripsiwn a ragnodwyd (ac a weinyddwyd) yng Nghymru, y flwyddyn ddiweddaraf.
  • Yn 2020-21 roedd cost net cynhwysion fesul eitem (cymedr) yn £7.70. Mae hyn 47c (6.5%) yn fwy nag yn 2019-20 ond £2.20 (18.3%) yn llai nag yn 2007-08, pan gyflwynwyd presgripsiynau am ddim.
  • Roedd y gost gymedrig fesul eitem wedi bod yn dangos tueddiad cyffredinol ar i lawr yn y tymor hirach, ond erbyn hyn mae wedi cynyddu am yr ail flwyddyn yn olynol. 
  • Roedd y gost ganolrifol fesul eitem ym mis Mawrth 2021 yn £2.30, cynnydd o 21c (10.0%) o’r mis Mawrth blaenorol. Mae wedi bod yn llai na £3 ers Mawrth 2008 a dyma’r ail dro yn unig iddi fod dros £2 ers Mawrth 2015.

Nodi

Cymedr: Mae’r gost gymedrig fesul eitem yn dangos cyfanswm cost net cynhwysion ar gyfer yr holl eitemau presgripsiwn, wedi’i rannu â chyfanswm nifer yr eitemau presgripsiwn ar gyfer y flwyddyn galendr gyfan.

Canolrif: Y gost ganolrifol fesul eitem yw’r swm canol pan fydd yr holl gostau fesul eitem yn cael eu mesur mewn trefn o’r rhataf i’r drytaf; mae hanner yr holl gostau’n llai neu’n gyfartal â’r swm hwn, ac mae’r hanner arall yn fwy na neu’n gyfartal â’r swm hwn. Mae gwerthoedd eithafol yn effeithio llai ar y canolrif na’r cymedr.

Dosbarthiadau therapiwtig

Image
Siart cylch yn dangos cyfran yr eitemau a ragnodwyd yn y 6 pennod BNF fwyaf,
Image
Siart cylch yn dangos cyfran cost yr eitemau a ragnodwyd yn y 6 pennod BNF fwyaf.
  • Roedd hanner yr holl eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn yng Nghymru i drin cyflyrau’r system gardiofasgwlaidd neu’r brif system nerfol.
  • Cafodd 23.5 miliwn o eitemau eu rhoi ar bresgripsiwn i drin y system gardiofasgwlaidd, sy’n cyfateb i 7.3 eitem fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.
  • Cafodd 17.1 miliwn o eitemau eu rhoi ar bresgripsiwn i drin y brif system nerfol, sy’n cyfateb i 5.3 eitem fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.
  • Er bod nifer yr eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn i drin y system gardiofasgwlaidd a’r brif system nerfol yn cyfrif am hanner yr holl eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn (Siart 4), roedd cost net cynhwysion (NIC) ar gyfer yr un dosbarthiadau yn cyfrif am draean (33.1%) yn unig o’r cyfanswm (Siart 5).

Dadansoddiad yn ôl bwrdd iechyd lleol

Mae’r siart canlynol yn dangos nifer yr eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn gan feddygon teulu sydd dan gontract i fyrddau iechyd Cymru ynghyd â chost net cynhwysion (NIC) cysylltiedig. Yn hytrach na chymharu eitemau fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu, mae’r siart yn dangos yr eitemau a’r NIC fesul uned bresgripsiynu. Cyfrifir unedau presgripsiynu drwy roi mwy o bwysoliad (o ffactor o dri) i’r boblogaeth gofrestredig 65 oed neu hŷn. Maen nhw wedi’u mabwysiadu er mwyn ystyried anghenion uwch cleifion oedrannus am feddyginiaeth ac fel y gellir gwneud cymariaethau mwy ystyrlon rhwng byrddau iechyd. Efallai bod y gwahaniaethau sy’n weddill yn gysylltiedig â’r angen cymharol a’r diwylliant a’r ymarfer lleol. 

Mae data cofrestru meddygon teulu ar gyfer 2019 yn dangos bod 20.7% o’r boblogaeth yng Nghymru yn 65 oed neu’n hŷn. Roedd hyn yn amrywio rhwng byrddau iechyd, gyda chanran cymharol uwch o bobl hŷn ym Mhowys (26.7%), Hywel Dda (24.2%), a Betsi Cadwaladr (22.7%); a chanran cymharol is o bobl hŷn ym Mae Abertawe (20.3%), Aneurin Bevan (19.9%), Cwm Taf Morgannwg (19.6%) a Chaerdydd a’r Fro (15.7%).

Image
Siart bar yn dangos nifer yr eitemau, cost net cynhwysion (NIC) a chost gymedrig yr eitem yn ôl bwrdd iechyd lleol a Chymru
  • Roedd nifer yr eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn fesul uned bresgripsiynu yn 2020-21 yn 17.7 ar gyfer Cymru, ac roedd yn amrywio ar draws y byrddau iechyd o 14.9 yng Nghaerdydd a’r Fro i 20.1 yng Nghwm Taf Morgannwg.
  • Roedd y gost fesul eitem yn £7.70 ledled Cymru, ac yn amrywio rhwng £7.32 yn Aneurin Bevan ac £8.47 yng Nghaerdydd a’r Fro.
  • Fe wnaeth meddygon teulu yng Nghaerdydd a’r Fro roi llai o eitemau ar bresgripsiwn fesul uned bresgripsiynu na byrddau iechyd eraill ond roedd y gost fesul eitem yn uwch. I’r gwrthwyneb, Cwm Taf Morgannwg oedd â’r cyfraddau uchaf fesul uned bresgripsiynu ar gyfer nifer yr eitemau a NIC ond y pedwerydd isaf o ran cost fesul eitem.
  • Roedd cost net cynhwysion fesul uned bresgripsiynu yn 2020-21 yn £136.58 yng Nghymru, ac roedd yn amrywio o £126.58 yng Nghaerdydd a’r Fro i £154.33 yng Nghwm Taf Morgannwg.

Y 25 prif eitem a roddwyd ar bresgripsiwn

Image
Siart bar yn dangos y 25 eitem uchaf a ragnodwyd yng Nghymru yn 2020-21 (mewn trefn ddisgynnol)
  • Atorvastatin oedd yr eitem a roddwyd ar bresgripsiwn fwyaf yn 2020-21, a chafodd ei roi ar bresgripsiwn 3 miliwn a mwy o weithiau (3,016,616), cynnydd o 146,924 (neu 5.1%) ers 2019-20.
  • Yr un deg eitem a roddwyd ar bresgripsiwn fwyaf yn 2020-21 ag a roddwyd yn 2019-20. Fe wnaeth y pum eitem a roddwyd ar bresgripsiwn amlaf barhau yn yr un drefn ag yn 2019-20.

Cymariaethau’r DU

Mae Siartiau 8 i 10 yn cymharu nifer yr eitemau presgripsiwn a ddosbarthwyd, fesul pen o’r boblogaeth, y NIC fesul pen o’r boblogaeth a’r gost fesul eitem bresgripsiwn ar draws pedair gwlad y DU.

Mae’r data presgripsiwn ar gyfer y siartiau hyn yn seiliedig ar bresgripsiynau a ddosbarthwyd yn y gymuned, yn hytrach na phresgripsiynau a roddwyd gan feddygon teulu sy’n golygu y bydd ffigurau ar gyfer Cymru yn wahanol i’r rhai a gyflwynwyd yn siartiau eraill y datganiad. Data ar gyfer presgripsiynau a roddwyd yw’r unig ddata sydd ar gael at ddibenion cymharu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.  

Er mwyn cael cysondeb mewn data poblogaethau ar draws pob gwlad, defnyddir amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer 2020 y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn yr adran hon, yn hytrach na nifer y bobl sydd wedi cofrestru â phractis meddygon teulu.

Nodwch fod y data diweddaraf ar gyfer Cymru a Lloegr yn cyfeirio at 2020-21, ar gyfer yr Alban mae’n cyfeirio at 2019-20 ac ar gyfer Gogledd Iwerddon mae’n cyfeirio at flwyddyn galendr 2020.

Image
Siart colofn yn dangos yr eitemau a weinyddwyd am bob pen o'r boblogaeth yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Image
Siart colofn yn dangos cost cynhwysion net eitemau a weinyddwyd am bob pen o'r boblogaeth yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Image
Siart colofn yn dangos cost net cynhwysion am bob eitem a weinyddwyd am bob pen o'r boblogaeth yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
  • Cafodd mwy o eitemau presgripsiwn fesul pen o’r boblogaeth eu dosbarthu yng Nghymru nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU, ond Cymru oedd â’r NIC isaf fesul eitem bresgripsiwn.
  • Roedd cost net cynhwysion yr eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn yng Nghymru, fesul pen o’r boblogaeth yng Nghymru yn uwch nag yn Lloegr, ond yn is nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyhoeddir gwybodaeth fanwl am ansawdd a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd ategol.

Cyn 2019, roedd data presgripsiynau wedi’u cyhoeddi mewn dau ddatganiad ystadegol ar wahân, Presgripsiynau gan Feddygon Teulu a gyhoeddwyd ddiwethaf ar 19 Medi 2018 a Dosbarthu Presgripsiynau yn y Gymuned a gyhoeddwyd ddiwethaf ar 23 Mai 2018.

Nod cyfuno dwy set ddata mewn un datganiad a rhoi mwy o wybodaeth gyd-destunol yw rhoi dadansoddiad clir o bresgripsiynau yng Nghymru.

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG yn cyhoeddi data ar bresgripsiynau meddygon teulu bob mis hefyd, yn seiliedig ar yr un data a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn.

Cyhoeddir adnodd data rhyngweithiol sy’n galluogi defnyddwyr i chwilio am ddata ar benodau, adrannau ac is-baragraffau’r BNF, yn seiliedig ar bresgripsiynau meddygon teulu ochr yn ochr â’r datganiad hwn. Cyhoeddwyd y data hyn yn flaenorol mewn ffeiliau Excel gan ddefnyddio data presgripsiynau a roddwyd yn y gymuned yn unig.

Cyhoeddir data ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar wefan y wlad berthnasol.

Data ar gyfer gwledydd eraill:

Dadansoddiad o Gostau Presgripsiwn: Lloegr 2020/21 (Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG)

Taliadau gweinyddwyr a dadansoddiad costau presgripsiwn: Blwyddyn ariannol 2019/20 (Iechyd Cyhoeddus yr Alban)

Dadansoddiad Costau Presgripsiwn (Sefydliad Gwasanaethau Busnes, Gogledd Iwerddon)

Pa ddata ddylwn i eu defnyddio?

Tabl 1: Cymharu eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn gan feddygon teulu yng Nghymru ac a ddosbarthwyd; ac eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn yn unrhyw le yn y DU ac a ddosbarthwyd yn y gymuned yng Nghymru, 2020-21
BNF Pennod Enw Eitemau a ragnodwyd gan feddygon teulu (miliynau) Eitemau a weinyddwyd yn y gymuned (miliynau) Gwahaniaeth (miloedd)
Y System Gastroberfeddol 7.5 7.6 -26.8
Y System Gardiofasgwlaidd 23.5 23.5 -19.8
Y System Anadlol 6.1 6.1 -16.3
Y System Nerfol Ganolog 17.1 17.4 -258.6
Heintiau 2.1 2.3 -263.4
Y System Endocrin 8.1 8.1 -24.2
Obstetreg, Gynaecoleg + Anhwylderau’r Llwybr Wrinol 2.1 2.1 -9.6
Clefydau Malaen a Gwrthimiwnedd 0.4 0.4 -22.1
Maeth a’r Gwaed 4.3 4.3 -39.1
Clefydau’r Cymalau a Chyhyrysgerbydol 2.2 2.2 -23.6
Y Llygad 1.2 1.2 -28.1
Y Clustiau, Y Trwyn a’r Oroffaryncs 0.9 0.9 -27.3
Y Croen 1.9 1.9 -39.0
Cynnyrch a Brechiadau Imiwnolegol 0.8 0.8 0.0
Anesthesia 0.1 0.1 -2.0
Cyffuriau a Pharatoadau Eraill 0.1 0.1 1.9
Gorchuddion 0.3 0.2 85.0
Cyfarpar  2.0 2.0 32.3
Cyfarpar anymataliaeth 0.1 0.1 29.3
Cyfarpar stoma 0.3 0.2 149.9
Cyfanswm 81.1 81.6 -501.6

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Mae Tabl 1 yn dangos cymhariaeth rhwng y ddwy ffynhonnell. Yn gyffredinol, wrth ddadansoddi data presgripsiynau ar gyfer Cymru, dylid defnyddio presgripsiynau meddygon teulu fel y brif ffynhonnell. Y rheswm am hyn yw bod y data’n dangos beth sy’n cael ei roi ar bresgripsiwn i bobl sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru a chaiff y gweithgarwch hwn ei fonitro a’i lywio gan fyrddau iechyd. Mae’r data hwn yn cynnwys eitemau sy’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn yng Nghymru gan feddygon teulu a rhagnodwyr anfeddygol sydd wedi rhoi presgripsiwn ar ran y practis meddyg teulu.

Dylid defnyddio ‘presgripsiynau a ddosberthir yn y gymuned’ at ddibenion mwy penodol lle mae gan ddefnyddwyr ddiddordeb dim ond yn yr eitemau a ddosberthir yng Nghymru yn benodol, ac os yw cymariaethau uniongyrchol yn cael eu gwneud rhwng gwahanol wledydd y DU. Er bod nifer yr eitemau a roddir ar bresgripsiwn gan feddygon teulu’n agos at nifer yr eitemau a roddir ar bresgripsiwn ac a ddosberthir yng Nghymru yn gyffredinol, nid yw’r nifer yn cyfateb yn llwyr am nifer o resymau gan gynnwys:

  • mae presgripsiynau sy’n cael eu hysgrifennu yng Nghymru ond sy’n cael eu dosbarthu mewn man arall yn y DU (gan gynnwys Ynys Manaw) yn cael eu cyfrif gyda phresgripsiynau meddygon teulu ond nid mewn ‘presgripsiynau a ddosberthir yn y gymuned’ . Mae hyn yn arbennig o gyffredin ar gyfer eitemau arbenigol fel stomas ac offer anymataliaeth a ddosberthir yn aml gan gontractwyr offer yn hytrach na fferyllfeydd, ac mae llawer ohonynt y tu allan i Gymru.
  • nid yw presgripsiynau sy’n cael eu hysgrifennu mewn gwlad arall yn y DU (gan gynnwys Ynys Manaw) ond sy’n cael eu dosbarthu yng Nghymru yn cael eu cynnwys mewn presgripsiynau meddygon teulu, ond maen nhw’n cael eu cynnwys yn y ‘presgripsiynau a ddosberthir yn y gymuned’
  • ni fydd pobl sydd wedi cael apwyntiad ysbyty ac y mae eu heitemau presgripsiwn yn cael eu dosbarthu yn eu fferyllfa gymunedol leol yn hytrach na fferyllfa’r ysbyty yn cael eu cynnwys mewn Presgripsiynau meddygon teulu, ond byddent yn cael eu cynnwys yn y ‘presgripsiynau a ddosberthir yn y gymuned’

Nodwch fod ‘presgripsiynau meddygon teulu’ a ‘phresgripsiynau a ddosberthir yn y gymuned’ yn cynnwys presgripsiynau a roddir gan feddygon, contractwyr offer a fferyllfeydd cymunedol (stryd fawr). Nid yw’r naill ffynhonnell na’r llall yn cynnwys data ar gyfer eitemau a roddir ar bresgripsiwn ac a ddosberthir mewn ysbytai. Nodwch hefyd nad yw costau net cynhwysion yn cael eu haddasu ar gyfer chwyddiant.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn nodi saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Sef Cymru lewyrchus, gydnerth, iachach, fwy cyfartal, gyda chymunedau cydlynus, diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg y ffynnu ac sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Dan adran (10)(1) y Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni nodau Llesiant a (b) rhoi copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Rhoddwyd y 46 dangosydd cenedlaethol gerbron y Senedd ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â’r naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn yr adroddiad ar Lesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gellid eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 274/2021