Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli a ddarparwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar bresenoldeb disgyblion mewn Ysgolion a gynhelir ar gyfer 7 Medi i 16 Hydref 2020.

Dyma'r cyhoeddiad olaf o ddata o'r gyfres hon. O ddydd Mercher 21 Hydref ymlaen bydd data'n cael ei gyhoeddi o gasgliad data newydd o ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion.

Ansawdd

Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'n cynnwys presenoldeb ym mhob ysgol feithrin, gynradd, ganol, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac mae'n cynnwys disgyblion o bob oed. Cesglir y data bob dydd.

Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol. Dylid trin y ffigurau fel dros dro.

O 2 Hydref ymlaen ni fydd y ffigurau cyhoeddedig yn cynnwys canlyniadau ar gyfer Caerdydd wrth i'r awdurdod lleol weithio i wella ansawdd a chysondeb eu data. Mae'r materion hyn wedi arwain at Gaerdydd yn gyson yn adrodd ffigurau presenoldeb sy'n is na'r holl awdurdodau eraill, ac fel yr awdurdod mwyaf yng Nghymru mae hyn wedi cael effaith fesuradwy ar y cyfraddau presenoldeb yng Nghymru. Dros y cyfnod 25 Medi i 1 Hydref byddai'r gyfradd presenoldeb ar gyfer pob diwrnod yng Nghymru ac eithrio'r data ar gyfer Caerdydd wedi bod o leiaf 1.5 pwynt canran yn uwch. Er enghraifft, byddai presenoldeb ar 1 Hydref ac eithrio'r data ar gyfer Caerdydd wedi bod yn 84.9% yn hytrach na'r 83.4% a gyhoeddwyd.

Byddwn yn cynnwys y data ar gyfer Caerdydd cyn gynted ag y bydd y materion data wedi'u datrys. Dylid osgoi cymariaethau o'r data cyn ac ar ôl 2 Hydref nes bod hyn wedi'i ddatrys.

Prif bwyntiau

Mae'r data wedi'i ddiwygio o ddydd Llun 5 Hydref ymlaen i gynnwys data diweddaraf gan awdurdodau lleol.

  • Mynychodd 81.8% o ddisgyblion yr ysgol ddydd Gwener 16 Hydref, i lawr o’r 84.1% y diwrnod blaenorol.
  • Roedd presenoldeb wythnosol ar gyfartaledd am yr wythnos a ddechreuodd 5 Hydref yn 84.7%, yn parhau y tuedd presenoldeb i fyny.

Cefndir a chyd-destun

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg gynlluniau ‘yn ôl i’r ysgol’ ar 9 Gorffennaf. Roedd hyn yn cynnwys cyfnod o bythefnos o 1 Medi lle gallai ysgolion gael yr hyblygrwydd i ganolbwyntio ar grwpiau blwyddyn â blaenoriaeth. Y diwrnod cyntaf y disgwylid yr holl ddisgyblion yn ôl yn yr ysgol oedd dydd Llun 14 Medi.

Cyhoeddwyd canllawiau gweithredol i ysgolion o dymor yr hydref ar 13 Gorffennaf ac mae'n cynnwys canllawiau ar gofnodi presenoldeb.

O ddydd Mercher 16 Medi 2020 ymlaen byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon bob dydd am 9:30 yb. Rydym yn gwneud hyn i ddarparu crynodeb diweddar ac amserol o batrymau presenoldeb mewn ysgolion yn yr amgylchiadau unigryw hyn wrth iddynt agor eu drws i bob disgybl o 14 Medi. Byddwn yn adolygu amledd y cyhoeddiad hwn a byddwn yn addasu yn ôl yr angen yn seiliedig ar amgylchiadau newidiol ac adborth defnyddwyr.

Fe fyddwn yn cyhoeddi data awdurdodau lleol ar gyfer yr wythnos flaenorol bob dydd Mercher o 24 Medi 2020 ymlaen.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Presenoldeb plant yn ysgolion a gynhelir yng Nghymru: 7 Medi i 16 Hydref 2020 (dros dro) , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 11 KB

ODS
11 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.