Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar ddydd Mawrth 21 Gorffennaf 2020 wedi’i ddiweddaru. Mae data bellach wedi'i ddarparu gan ddau awdurdod arall: Wrecsam a Phowys.

Ar ddydd Mercher 10 Mehefin 2020 cyhoeddwyd fod ysgolion ar agor ar gyfer mwy o ddisgyblion o 29 Mehefin ymlaenMae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda DataCymru i ddatblygu casgliad data wythnosol gan awdurdodau lleol. Mae hyn yn casglu nifer yr:

  • ysgolion a oedd ar agor
  • plant a wahoddwyd i fynychu'r ysgol
  • plant a fynychodd yr ysgol am o leiaf un sesiwn yn ystod yr wythnos

1. Cwmpas

Erbyn 23 Mehefin 2020, darparwyd data llawn gan 20 awdurdod lleol. Yr awdurdodau hyn yw Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-Bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy, Casnewydd a Chaerdydd.

Mae plant yn Ynys Môn wedi dychwelyd i’w ysgolion yn dilyn yr achosion o coronafeirws yn Llangefni.

2. Ffigurau cenedlaethol dros dro

Y prif ffigurau ar gyfer Cymru yn ystod yr wythnos 13 i 17 Gorffennaf 2020  yn y 20 awdurdod a darparodd data llawn yw:

  • 1,319 allan o 1,323 schools ar agor (99.7%).
  • o gwmpas 274,000 o ddisgyblion wedi’u gwahodd i fynychu o leiaf un sesiwn wythnos diwethaf.
  • 161,000 disgyblion wedi mynychu o leiaf un sesiwn wythnos diwethaf.
  • o’r disgyblion gyda gwahoddiad, 59% o ddisgyblion wedi mynychu, ychydig i lawr o’r 61% a oedd wedi mynychu yn yr wythnos gyntaf
  • 43% o’r holl ddisgyblion wedi mynycho o leiaf un sesiwn (wedi’i selio ar nifer y disgyblion fesul awdurdod heblaw’r rhai ym mlynyddoedd 11 a 13). Mae hyn i fyny ychydig o’r 46% wedi mynycho o leiaf un sesiwn yn yr wythnos gyntaf.

3. Gwybodaeth ansawdd

Dylai'r data gael ei ystyried dros dro. Cymerwyd ffigurau o wybodaeth reoli ac maent yn gallu newid os ddaw fwy o wybodaeth i law. Nid ydynt eto wedi bod yn destun yr un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol.

4. Diweddariad nesaf

Rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol eraill ddarparu data'r wythnos hon a byddwn yn diweddaru'r wybodaeth hon cyn gynted ag y gallwn.

Caeodd mwyafrif yr ysgolion yng Nghymru ar gyfer gwyliau'r haf ar 17 Gorffennaf. Ni fydd diweddariad pellach i'r data hwn ar ôl yr wythnos hon.

5. Gwybodaeth cefndir

Mae ysgolion yng Nghymru wedi bod ar gau i ran fwyaf o ddisgyblion ers 20 Mawrth .

Hyd at 26 Mehefin roeddwn yn casglu a chyhoeddi data dyddiol ar bresenoldeb mewn lleoliadau awdurdod lleol. Nid yw hwn yn gymharol i’r data yn y pennawd hwn.

Ar gyfer rhagor o wybodaeth am y broses o ail agor Ysgolion, gwelwch ein canllawiau ar cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion o 29 Mehefin.

Ar gyfer gwybodaeth gyffredinol, gwelwch ein canllawiau a'r Addysg a gofal plant: coronafeirws.

6. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stephen Hughes
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 91/2020