Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 6 Medi 2021 i 7 Ionawr 2022.

Mae'r pennawd hwn yn cyflwyno gwybodaeth am ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion yn ystod y pandemig coronafirws (COVID-19) cyfredol.

Tymor y gwanwyn 2022

Dechreuodd tymor y gwanwyn 2022 i'r mwyafrif o ysgolion ar 4 Ionawr 2022. Fodd bynnag, oherwydd y coronafirws (COVID-19) cynghorwyd ysgolion pandemig i ddefnyddio'r ddau ddiwrnod cyntaf yn ôl yn syth ar ôl gwyliau'r Nadolig a'r flwyddyn newydd fel diwrnodau cynllunio. Felly, mae'r datganiad hwn yn cynnwys data ar gyfer tymor y gwanwyn ar gyfer 6 Ionawr 2022 ymlaen.

Gan fod dyddiadau tymor yn amrywio ledled Cymru, ni fydd y ddau ddiwrnod cynllunio'r un peth i bob awdurdod lleol ac ysgol. Nid yw data awdurdodau lleol ar gyfer 6 a 7 Ionawr 2022 wedi'i gynnwys yn y datganiad hwn (tabl 3) oherwydd y gwahanol ddyddiadau dychwelyd rhwng awdurdodau lleol.

Prif bwyntiau

  • Roedd cyfartaledd o 79.6% o ddisgyblion yn bresennol yn yr ysgol ar yr 6 Ionawr a 7 Ionawr 2022, i lawr o 80.6% yr wythnos cyn y Nadolig. Mae’r ffigwr dros yr wythnos 13 Rhagfyr i 17 Rhagfyr wedi’i ddiwygio i lawr o 81.4%. Mae'r data dros dro ar gyfer y pythefnos diwethaf.
  • Roedd 10.8% o ddisgyblon yn absennol oherwydd rheswm hysbys cysylltiedig â COVID-19 ar yr 6 Ionawr a 7 Ionawr 2022. Amcangyfrif newydd yw hwn o 22 Tachwedd 2021 sy'n cynnwys disgyblion sy'n sâl â COVID-19 ac nad yw'n gymharol i unrhyw ddata a gyhoeddwyd gennym o'r blaen ar absenoldeb cysylltiedig â COVID-19.
  • Roedd cyfartaledd o 8.5% o ddisgyblon oedran cynradd a 14.3% o ddisgyblion oedran uwchradd yn absennol oherwydd rheswm hysbys cysylltiedig â COVID-19 rhwng 6 Ionawr a 7 Ionawr 2022.
  • Ar yr 6 Ionawr a 7 Ionawr 2022 roedd y canran o fechgyn a oedd yn bresennol yn yr ysgol ychydig yn uwch na’r canran o ferched a oedd yn bresennol. Mae hyn yn wahanol o gymharu â'r patrwm a welir yn ein cyhoeddiadau hanesyddol, lle mae bechgyn wedi cael cyfraddau presenoldeb is.
  • Ymhlith disgyblion oedran ysgol statudol ar yr 6 Ionawr a 7 Ionawr 2022, roedd canran y disgyblion a oedd yn bresennol ar eu huchaf ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 1 (83.3%) ac yn isaf ar gyfer Blwyddyn 9 (73.3%).
  • Y rheswm mwyaf cyffredin dros sesiynau a gollwyd ar yr 6 Ionawr a 7 Ionawr 2022 oedd absenoldeb oherwydd COVID-19 gyda 11% o sesiynau wedi’u colli oherwydd y rheswm hwn. Nid yw'r data ar gyfer cod “I” (salwch) yn cynnwys salwch cysylltiedig â COVID-19 o 22 Tachwedd 2021 ymlaen ac nid yw'n gymharol i'r data cyn y dyddiad hwn.  Mae'r data yn y tabl hwn yn gyfrif o sesiynau ysgol hanner diwrnod a gollwyd ac nid yw'n gyfrif o ddisgyblion.
Image
Mae'r cyfradd presenoldeb wedi amrywio o 72% i 94% ers dechrau'r flwyddyn academaidd 2021/22.

Ansawdd

Mae adroddiad ansawdd yn cael ei ddatblygu a bydd yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl.

Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Mae'n cynnwys disgyblion a oedd yn bresennol mewn ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac mae'n cynnwys disgyblion o bob oed. Mae hefyd yn cynnwys rhai disgyblion o Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.

Roedd y wybodaeth a gyhoeddwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 yn ymwneud â disgyblion a oedd yn bresennol yn gorfforol ar dir yr ysgol am o leiaf un sesiwn ysgol bob dydd. Caniataodd hyn inni fesur nifer y disgyblion a oedd â chysylltiad uniongyrchol â staff a disgyblion eraill yn yr ysgol yn ystod y pandemig hwn.

Ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol 2021/22 hon, ac yn dilyn penderfyniadau polisi ar swigod ysgolion a hunan ynysu rydym wedi dychwelyd at y diffiniad o ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion a ddefnyddir yn ein cyhoeddiadau ystadegol hanesyddol. Mae hyn yn golygu nad oes modd cymharu'r data ar gyfer y flwyddyn academaidd hon a'r un ddiwethaf yn llwyr.

Mae dadansoddiad o'r data ar gyfer wythnosau cyntaf tymor yr hydref yn awgrymu bod y mesur presenoldeb newydd cyfredol oddeutu 0.6 pwynt canran yn uwch na'r mesur ar gyfer disgyblion a oedd yn bresennol a ddefnyddiwyd yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol.

Mesur absenoldeb cysylltiedig â COVID-19

Rydym wedi gwella'r ffordd yr ydym yn mesur absenoldeb cysylltiedig â COVID-19 mewn ysgolion a dangosir y data newydd hwn ar gyfer 22 Tachwedd ymlaen. Bellach mae absenoldeb cysylltiedig â COVID-19 yn cael ei gofnodi o dan un cod newydd (cod “]”) ac fe'i diffinnir fel swm o:

  • Disgyblion sy'n absennol o'r ysgol oherwydd eu bod yn sâl gyda COVID-19 (yn hanesyddol cofnodwyd hyn yng nghod “I”).
  • Disgyblion sy'n dysgu o bell oherwydd COVID-19 (cod “[“).
  • Disgyblion y cyfarwyddir iddynt fod yn absennol gan yr ysgol (cod “Y”).

Nid oes modd cymharu'r data a gyhoeddwyd gennym o'r blaen ar absenoldeb cysylltiedig â COVID-19 â'r data newydd hwn oherwydd nid oedd yn cynnwys y rhai a oedd yn sâl â COVID-19 ac felly maent wedi'u tynnu o'r datganiad hwn.

Mae'r codau cofrestr sy'n diffinio pa ddisgyblion sy'n cael eu cyfrif fel presenoldeb yn y Tabl 8 o'r daenlen sy'n cyd-fynd ag ef. Bellach mae holl absenoldeb cysylltiedig COVID-19 yn cael ei gofnodi o dan un cod (“]”) ac ni chesglir unrhyw ddata ar wahân am unrhyw un o'r tri rheswm dros absenoldeb sy'n ffurfio absenoldeb cysylltiedig â COVID-19.

Digwyddedd COVID-19 mewn plant oed ysgol

Mae effaith sylweddol ar dueddiadau presenoldeb gan nifer yr achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith plant oed ysgol. Mae'r data diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod achosion yn cynyddu mwy yn y grŵp oedran hwn nag unrhyw grŵp oedran arall.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 15 Medi 2021 y byddai GIG Cymru yn dechrau cynnig y brechlyn COVID-19 i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed o 4 Hydref 2021. Gall cyflwyno'r rhaglen frechu hon hefyd effeithio ar y ffigurau yn y datganiad hwn.

Cymharoldeb

Mae'r 4 gwlad yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng y cenhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data a chyflwyniad a diffiniadau.

Cefndir a chyd-destun

Canllawiau coronafeirws i ysgolion.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 6 Medi 2021 i 7 Ionawr 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 63 KB

ODS
63 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.