Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 6 Medi 2021 i 22 Ebrill 2022.

Mae'r pennawd hwn yn cyflwyno gwybodaeth am ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion yn ystod y pandemig coronafirws (COVID-19) cyfredol.

Oherwydd gwyliau ysgol y Pasg nid oedd cyhoeddiad o ddata presenoldeb ysgol ar ddydd Mercher 18 Ebrill. Mae’r datganiad hwn yn cynnwys data hyd at ddiwedd tymor ysgol y Gwanwyn ar 8 Ebrill. Bydd data ar gyfer tymor newydd yr haf a ddechreuodd ar 25 Ebrill ar gael o’r cyhoeddiad wythnos nesaf ymlaen.

Prif bwyntiau

  • Roedd cyfartaledd o 86.3% o ddisgyblion yn bresennol yn yr ysgol dros y wythnos 4 i 8 Ebrill 2022, i lawr o 87.1% yr wythnos flaenorol.
  • Roedd 3% o ddisgyblon yn absennol oherwydd rheswm hysbys cysylltiedig â COVID-19 dros y wythnos 4 i 8 Ebrill, i lawr o 3.2% yr wythnos blaenorol.
  • Roedd cyfartaledd o 2.2% o ddisgyblon oedran cynradd a 4.2% o ddisgyblion oedran uwchradd yn absennol oherwydd rheswm hysbys cysylltiedig â COVID-19 rhwng 4 i 8 Ebrill 2022.
  • Dros yr wythnos 4 i 8 Ebrill 2022 roedd y canran o fechgyn a oedd yn bresennol yn uwch na’r canran o ferched a oedd yn bresennol o 0.2 pwynt canran. Mae hyn yn wahanol i'r patrwm a welir yn ein cyhoeddiadau hanesyddol, lle mae bechgyn wedi cael cyfraddau presenoldeb is.
  • Ymhlith disgyblion oedran ysgol statudol dros yr wythnos 4 i 8 Ebrill 2022, roedd canran y disgyblion a oedd yn bresennol ar eu huchaf ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 3 (90.5%) ac yn isaf ar gyfer Blwyddyn 9 (81.5%).
  • Y rheswm mwyaf cyffredin dros sesiynau a gollwyd yn ystod yr wythnos rhwng 4 i 8 Ebrill 2022 oedd salwch (cod “I”), gyda 5.1% o sesiynau wedi’u colli oherwydd y rheswm hwn. Nid yw'r data ar gyfer cod “I” (salwch) yn cynnwys salwch cysylltiedig â COVID-19 o 22 Tachwedd 2021 ymlaen ac nid yw'n gymharol i'r data cyn y dyddiad hwn.  Mae'r data yn y tabl hwn yn gyfrif o sesiynau ysgol hanner diwrnod a gollwyd ac nid yw'n gyfrif o ddisgyblion.
  • Mae disgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim wedi bod yn llai tebygol o fynychu’r ysgol, gyda’r bwlch ar gyfartaledd yn 7.5 pwynt canran rhwng  4 i 8 Ebrill 2022.
  • Mae 24.6% o ddisgyblion (116,887 o ddisgyblion) wedi colli mwy nag wythnos o ddysgu wyneb yn wyneb oherwydd rheswm hysbys cysylltiedig â COVID-19 ers 6 Medi 2021 (5.5 diwrnod neu fwy) ac mae 79.1% o ddisgyblion (376,144 o ddisgyblion) wedi colli mwy nag wythnos am unrhyw reswm ers 6 Medi 2021.
Image
Mae'r cyfradd presenoldeb wedi amrywio o 73% i 94% ers dechrau'r flwyddyn academaidd 2021/22.

Ansawdd

Mae adroddiad ansawdd yn cael ei ddatblygu a bydd yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl.

Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Mae'n cynnwys disgyblion a oedd yn bresennol mewn ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac mae'n cynnwys disgyblion o bob oed. Mae hefyd yn cynnwys rhai disgyblion o Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.

Roedd y wybodaeth a gyhoeddwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 yn ymwneud â disgyblion a oedd yn bresennol yn gorfforol ar dir yr ysgol am o leiaf un sesiwn ysgol bob dydd. Caniataodd hyn inni fesur nifer y disgyblion a oedd â chysylltiad uniongyrchol â staff a disgyblion eraill yn yr ysgol yn ystod y pandemig hwn.

Ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol 2021/22 hon, ac yn dilyn penderfyniadau polisi ar swigod ysgolion a hunan ynysu rydym wedi dychwelyd at y diffiniad o ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion a ddefnyddir yn ein cyhoeddiadau ystadegol hanesyddol. Mae hyn yn golygu nad oes modd cymharu'r data ar gyfer y flwyddyn academaidd hon a'r un ddiwethaf yn llwyr.

Mae dadansoddiad o'r data ar gyfer wythnosau cyntaf tymor yr hydref yn awgrymu bod y mesur presenoldeb newydd cyfredol oddeutu 0.6 pwynt canran yn uwch na'r mesur ar gyfer disgyblion a oedd yn bresennol a ddefnyddiwyd yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol.

Mesur absenoldeb cysylltiedig â COVID-19

Rydym wedi gwella'r ffordd yr ydym yn mesur absenoldeb cysylltiedig â COVID-19 mewn ysgolion a dangosir y data newydd hwn ar gyfer 22 Tachwedd ymlaen. Bellach mae absenoldeb cysylltiedig â COVID-19 yn cael ei gofnodi o dan un cod newydd (cod “]”) ac fe'i diffinnir fel swm o:

  • disgyblion sy'n absennol o'r ysgol oherwydd eu bod yn sâl gyda COVID-19 (yn hanesyddol cofnodwyd hyn yng nghod “I”)
  • disgyblion sy'n dysgu o bell oherwydd COVID-19 (cod “[“)
  • disgyblion y cyfarwyddir iddynt fod yn absennol gan yr ysgol (cod “Y”)

Nid oes modd cymharu'r data a gyhoeddwyd gennym o'r blaen ar absenoldeb cysylltiedig â COVID-19 â'r data newydd hwn oherwydd nid oedd yn cynnwys y rhai a oedd yn sâl â COVID-19 ac felly maent wedi'u tynnu o'r datganiad hwn.

Mae'r codau cofrestr sy'n diffinio pa ddisgyblion sy'n cael eu cyfrif fel presenoldeb yn y Tabl 8 o'r daenlen sy'n cyd-fynd ag ef. Bellach mae holl absenoldeb cysylltiedig COVID-19 yn cael ei gofnodi o dan un cod (“]”) ac ni chesglir unrhyw ddata ar wahân am unrhyw un o'r tri rheswm dros absenoldeb sy'n ffurfio absenoldeb cysylltiedig â COVID-19.

Diwedd y profion COVID-19 cyffredinol am ddim a'r gofyniad i hunanynysu

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru o 28 Mawrth bod y profion cyffredinol am ddim ar gyfer Covid-19 a’r gofyniad cyfreithiol i hunanynysu pe bai person wedi cael prawf positif wedi dod i ben. Bydd y ddau benderfyniad hyn yn effeithio ar ddata presenoldeb yr ysgol. Am fwy o wybodaeth gweler y canlynol:

Cael prawf coronafeirws (COVID-19)

Hunanynysu: canllawiau i bobl â COVID-19 a'u cysylltiadau

Digwyddedd COVID-19 mewn plant oed ysgol

Mae effaith sylweddol ar dueddiadau presenoldeb gan nifer yr achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith plant oed ysgol. Gweler Iechyd Cyhoeddus Cymru am y data diweddaraf ar achosion ymhlith plant oed ysgol a staff.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 15 Medi 2021 y byddai GIG Cymru yn dechrau cynnig y brechlyn COVID-19 i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed o 4 Hydref 2021. Gall cyflwyno'r rhaglen frechu hon hefyd effeithio ar y ffigurau yn y datganiad hwn.

Cymharoldeb

Mae'r 4 gwlad yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng y cenhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data a chyflwyniad a diffiniadau.

Cefndir a chyd-destun

Canllawiau coronafeirws i ysgolion.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.

Diweddariad nesaf

4 Mai 2022

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 6 Medi 2021 i 22 Ebrill 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 113 KB

ODS
113 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.