Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 5 i 9 Medi 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir
Mae’r pennawd hwn yn cyflwyno gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol. Dyma gyhoeddiad cyntaf y flwyddyn academaidd.
Dechreuodd blwyddyn academaidd 2022/23 ar 1 Medi 2022. Nid oedd gan y rhan fwyaf o ysgolion unrhyw ddisgyblion yn bresennol ar 1 i 2 Medi 2022 oherwydd diwrnodau HMS. Felly, mae’r pennawd hwn yn cyflwyno data o 5 Medi 2022 ymlaen.
Mae’r holl ddata yn y pennawd hwn yn seiliedig ar y diffiniad o bresenoldeb a oedd yn cael ei ddefnyddio ac a gyhoeddwyd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd cymharu’r data yma â’r data a gyhoeddwyd yn ystod y pandemig ar gyfer 2020/21 a 2021/22. Am ragor o fanylion gweler yr adran ansawdd isod a'r daenlen sy'n cyd-fynd â hi.
Prif bwyntiau
- Roedd cyfartaledd o 94.7% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi yn bresennol ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos 5 i 9 Medi 2022. Data dros dro yw'r data ar gyfer yr wythnos ddiweddaraf.
- Roedd cyfartaledd o 2.8% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi fel absenoldeb awdurdodedig a 2.5% fel absenoldeb heb awdurdod ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos 5 i 9 Medi 2022.
Dadansoddiad yn y dyfodol
Byddwn yn ychwanegu cymariaethau â phresenoldeb cyn y pandemig, tablau ar absenoldeb yn ôl nodweddion disgyblion gan gynnwys rhyw, oedran a hawl i gael prydau ysgol am ddim a thablau ar absenoldebau parhaus dros yr wythnosau nesaf wrth i fwy o ddata ddod ar gael a chael ei gwblhau.
Ansawdd
Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.
Mae’r holl ddata yn y pennawd hwn yn seiliedig ar y diffiniad o bresenoldeb a oedd yn cael ei ddefnyddio ac a gyhoeddwyd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd cymharu’r data yma â’r data a gyhoeddwyd yn ystod y pandemig ar gyfer 2020/21 a 2021/22.
Y prif wahaniaethau mewn diffiniadau
- Cyflwynir data fel canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd yn hytrach na chanran y disgyblion sy'n absennol.
- Mae'r data ar gyfer disgyblion o oedran ysgol statudol yn unig (5 i 15 oed) yn hytrach na data ar gyfer pob oedran.
- Mae'r data ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd, canol, uwchradd ac arbennig yn unig ac nid yw'n cynnwys data ar gyfer ysgolion meithrin nac unedau cyfeirio disgyblion.
- Mae Cod Y (cau rhannol a gorfodol) bellach yn cael ei gyfrif fel "dim angen mynychu" yn hytrach nag 'absennol'.
Cymharoldeb
Mae'r 4 gwlad yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng y cenhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data a chyflwyniad a diffiniadau.
Statws Ystadegau Gwladol
Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir, 5 i 9 Medi 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 10 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.