Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 5 i 23 Medi 2022.

Mae’r pennawd hwn yn cyflwyno gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol.

Nid oes unrhyw ddata ar gyfer 19 Medi 2022 oherwydd gŵyl y banc ar gyfer Angladd Gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.

Yn ogystal â'r diwygiadau rheolaidd i'r pythefnos blaenorol o ddata, mae'r data hefyd wedi'i ddiwygio oherwydd gwall yn yr ystod dyddiad geni a ddefnyddiwyd wrth brosesu'r data. O’r adolygiad i lawr o 0.6 pwynt canran ar gyfer canran y sesiynau ysgol hanner diwrnod a gofnodwyd yn bresennol ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos 12 i 16 Medi 2022, mae 0.4 pwynt canran oherwydd y cywiriad i’r ystod dyddiad geni gyda'r 0.2 pwynt canran sy'n weddill yw'r newid o wybodaeth fwy diweddar gan ysgolion.

Mae’r holl ddata yn y pennawd hwn yn seiliedig ar y diffiniad o bresenoldeb a oedd yn cael ei ddefnyddio ac a gyhoeddwyd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd cymharu’r data yma â’r data a gyhoeddwyd yn ystod y pandemig ar gyfer 2020/21 a 2021/22. Am ragor o fanylion gweler yr adran ansawdd isod a'r daenlen sy'n cyd-fynd â hi.

Prif bwyntiau

  • Roedd cyfartaledd o 90.6% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi yn bresennol ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos 20 i 23 Medi 2022 i lawr o 92.4% yr wythnos flaenorol. Mae’r ffigwr dros yr wythnos 12 i 16 Medi 2022 wedi’i ddiwygio i lawr o 93.0%. Mae'r data dros dro ar gyfer y pythefnos diwethaf.
  • Roedd cyfartaledd o 6.5% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi fel absenoldeb  awdurdodedig ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos 20 i 23 Medi 2022, i fyny o 5.1% yr wythnos flaenorol.
  • Roedd cyfartaledd o 3.0% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi fel absenoldeb  hen awdurdod ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos 20 i 23 Medi 2022, i fyny o 2.5% yr wythnos flaenorol.

Dadansoddiad yn y dyfodol

Byddwn yn ychwanegu cymariaethau â phresenoldeb cyn y pandemig, tablau ar absenoldeb yn ôl nodweddion disgyblion gan gynnwys rhyw, oedran a hawl i gael prydau ysgol am ddim a thablau ar absenoldebau parhaus dros yr wythnosau nesaf wrth i fwy o ddata ddod ar gael a chael ei gwblhau.

Ansawdd

Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.

Mae’r holl ddata yn y pennawd hwn yn seiliedig ar y diffiniad o bresenoldeb a oedd yn cael ei ddefnyddio ac a gyhoeddwyd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd cymharu’r data yma â’r data a gyhoeddwyd yn ystod y pandemig ar gyfer 2020/21 a 2021/22.

Y prif wahaniaethau mewn diffiniadau

  • Cyflwynir data fel canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd yn hytrach na chanran y disgyblion sy'n absennol.
  • Mae'r data ar gyfer disgyblion o oedran ysgol statudol yn unig (5 i 15 oed) yn hytrach na data ar gyfer pob oedran.
  • Mae'r data ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd, canol, uwchradd ac arbennig yn unig ac nid yw'n cynnwys data ar gyfer ysgolion meithrin nac unedau cyfeirio disgyblion.
  • Mae Cod Y (cau rhannol a gorfodol) bellach yn cael ei gyfrif fel "dim angen mynychu" yn hytrach nag 'absennol'.

Cymharoldeb

Mae'r 4 gwlad yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng y cenhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data a chyflwyniad a diffiniadau.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 5 i 23 Medi 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 12 KB

ODS
12 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Steve Hughes

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.