Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r pennawd hwn yn cyflwyno gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol. 

Mae’r holl ddata yn y pennawd hwn yn seiliedig ar y diffiniad o bresenoldeb a oedd yn cael ei ddefnyddio ac a gyhoeddwyd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd cymharu’r data yma â’r data a gyhoeddwyd yn ystod y pandemig ar gyfer 2020/21 a 2021/22, ac eithrio Tabl 9 sydd wedi'i gyfrifo ar yr un sail. Am ragor o fanylion gweler yr adran ansawdd isod a'r daenlen sy'n cyd-fynd â hi.

Dechreuodd y cyfnod arholiadau TGAU yng Nghymru ar 9 Mai 2024. O hyn ymlaen bydd llawer o ddisgyblion yn cael caniatâd i fod yn absennol i astudio ar gyfer eu harholiadau a'u heistedd. Diffinnir absenoldeb astudio fel absenoldeb awdurdodedig ac felly bydd yn arwain at lefelau presenoldeb is, yn gyffredinol ac ar gyfer disgyblion yn y grwpiau blwyddyn arholiadau.

Yn y data diweddaraf, bu rhai problemau gyda ansawdd y data Absenoldeb Parhaus sy’n defnyddio gwybodaeth Grwpiau Blwyddyn Ysgo Cyhoeddir y data hwn unwaith y bydd y problemau hyn wedi'u datrys.

Darperir y data yn Nhabl 9 i alluogi cymariaethau rhwng lefelau presenoldeb presennol a hanesyddol. Er bod modd cymharu’r data dros amser, byddem yn annog defnyddwyr i drin cymariaethau rhwng 2023/24 hyd yn hyn a blynyddoedd academaidd cynharach cyflawn yn ofalus ar hyn o bryd hyd nes y bydd data pellach ar gael ar gyfer y flwyddyn gyfredol a’r tueddiadau presennol yn dod yn fwy cadarn a sefydlog.

Amserlen gyhoeddi yn y dyfodol

Mae'r datganiad hwn bellach yn oedi am yr haf. Bydd yn dychwelyd ym mis Medi.

Absenoldeb cyson

Dangosir data ar absenoldeb cyson gan ddefnyddio'r trothwy newydd o 10% o sesiynau fel yr amlinellwyd yn y canllawiau diweddar ar wella presenoldeb mewn ysgolion yn Tabl 1. Mae'r tabl hefyd yn cynnwys data sy'n defnyddio'r hen drothwy o 20%. 

Mae'r tabl yn dangos canran y disgyblion sydd wedi cyrraedd y trothwy o sesiynau a gollwyd yn seiliedig ar gyfanswm cyfanswm nifer y sesiynau ar gael dros y flwyddyn academaidd gyfan. Mae'r data yn cael ei ddadansoddi yn ôl cyfuniadau o nodweddion:

  • Cyfnod addysg (cynradd neu uwchradd)
  • Cymhwysedd Prydau Ysgol am Ddim (PYD)
  • Rhyw

Ar gyfer y trothwy newydd o 10% byddai disgybl oed cynradd yn absennol yn gyson pe bai'n colli 38 sesiwn neu fwy. Byddai disgybl oed uwchradd yn absennol yn gyson pe bai'n colli 30 sesiwn neu fwy.

Yn y data diweddaraf, bu rhai problemau gyda ansawdd y data Absenoldeb Parhaus sy’n defnyddio gwybodaeth Grwpiau Blwyddyn Ysgol. Cyhoeddir y data hwn unwaith y bydd y problemau hyn wedi'u datrys.

Prif bwyntiau

Cymhariaeth gyda'r flwyddyn academaidd flaenorol

  • Mae cyfartaledd presenoldeb dros y flwyddyn academaidd hyd yn hyn yn 89.0%, i fyny o 88.5% dros yr un cyfnod ym mlwyddyn academaidd 2022/23.
  • Mae cyfartaledd presenoldeb yn ysgolion cynradd dros y flwyddyn academaidd hyd yn hyn yn 92.1%, i fyny o 91.5% dros yr un cyfnod ym mlwyddyn academaidd 2022/23.
  • Mae cyfartaledd presenoldeb yn ysgolion uwchradd dros y flwyddyn academaidd hyd yn hyn yn 85.5%, i lawr o 85.6% dros yr un cyfnod ym mlwyddyn academaidd 2022/23.
  • Mae cyfartaledd presenoldeb disgyblion sydd yn gymwys am PYD dros y flwyddyn academaidd hyd yn hyn yn 83.4%,i fyny o 83.1% dros yr un cyfnod ym mlwyddyn academaidd 2022/23.
  • Yn gyffredinol, mae 31.9% o ddisgyblion wedi cyrraedd y trothwy absenoldeb cyson o 10% o sesiynau a gollwyd ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, i lawr o 32.5% dros yr un cyfnod ym mlwyddyn academaidd 2022/23.

Data ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol

  • Yr wythnos ddiweddaraf yw 15 i 19 Gorffennaf, a’r wythnos flaenorol yw 8 i 12 Gorffennaf. Roedd ysgolion ar gau rhwng 27 i 31 Mai ar gyfer gwyliau hanner  tymor.
  • Roedd cyfartaledd o 80.8% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi yn bresennol ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, yn is na’r 84.9% yr wythnos cynt. Mae'r data dros dro ar gyfer y pythefnos diwethaf.
  • Roedd cyfartaledd o 10.9% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi fel absenoldeb awdurdodedig ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, yn uwch na’r 10.2% yr wythnos cynt.
  • Roedd cyfartaledd o 8.3% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi fel absenoldeb heb awdurdod ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, yn uwch na’r 5.0% yr wythnos cynt.
  • Nid oes llawer o wahaniaeth yn y gyfradd presenoldeb ar gyfer gwrywod (89.1%) a benywod (88.9%) ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma.
  • Mae’r gyfradd presenoldeb yn ôl grŵp blwyddyn ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma wedi bod ar ei uchaf ym Mlwyddyn 3 (92.5%) ac ar ei isaf ym Mlwyddyn 11 (76.1%).
  • Mae’r gyfradd presenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma wedi bod yn uwch ar gyfer disgyblion sydd ddim yn gymwys am PYD (90.8%) na disgyblion sydd yn gymwys am PYD (83.4%).
  • Y rheswm mwyaf cyffredin dros absenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma yw salwch, gyda 40.2% o sesiynau wedi'u methu oherwydd y rheswm hyn.

Ansawdd

Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.

Mae’r holl ddata yn y pennawd hwn yn seiliedig ar y diffiniad o bresenoldeb a oedd yn cael ei ddefnyddio ac a gyhoeddwyd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd cymharu’r data yma â’r data a gyhoeddwyd yn ystod y pandemig ar gyfer 2020/21 a 2021/22, ac eithrio Tabl 9 sydd wedi'i gyfrifo ar yr un sail. Y prif wahaniaethau mewn diffiniadau yw:

  • Cyflwynir data fel canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd yn hytrach na chanran y disgyblion sy'n absennol.
  • Mae'r data ar gyfer disgyblion o oedran ysgol statudol yn unig (5-15 oed) yn hytrach na data ar gyfer pob oedran.
  • Mae'r data ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd, canol, uwchradd ac arbennig yn unig ac nid yw'n cynnwys data ar gyfer ysgolion meithrin nac unedau cyfeirio disgyblion.
  • Mae Cod Y (cau rhannol a gorfodol) bellach yn cael ei gyfrif fel "dim angen mynychu" yn hytrach nag "absennol".

Code Y (partial and forced closure) is now counted as "not required to attend" rather than "absent".

Cymaroldeb

Mae'r 4 gwlad yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng y cenhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data a chyflwyniad a diffiniadau.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Steve Hughes
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099