Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r pennawd hwn yn cyflwyno gwybodaeth am bresenoldeb ac absenoldeb disgyblion mewn ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol 2024/25 a data hanesyddol cyson yn ôl i 2018/19. Cyflwynir data fel canran y sesiynau ysgol hanner diwrnod ar gyfer disgyblion rhwng 5 a 15 oed.

Cwmpas y data

Mae'r rhan fwyaf o’r tablau yn y datganiad hwn yn cyflwyno data ar gyfer 2018/19 a 2022/23 ymlaen. Mae hyn yn cynrychioli'r blynyddoedd y mae data cymharol ar gael ar eu cyfer. Gweler y nodiadau a'r wybodaeth o ansawdd ar ddiwedd y datganiad hwn am wybodaeth am argaeledd data a chymaroldeb y blynyddoedd academaidd 2019/20 i 2021/22 a effeithiwyd gan bandemig coronafeirws (COVID-19).

Data ar gyfer blynyddoedd academaidd llawn a blwyddyn academaidd hyd yn hyn

Mae pob tabl yn cynnwys data ar gyfer y blynyddoedd academaidd llawn 2018/19, 2022/23 a 2023/24. Darperir y data hwn fel y gall defnyddwyr weld tueddiadau tymor hir o ran presenoldeb ac absenoldeb. 

Mae pob tabl hefyd yn cynnwys data ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 hyd yma a'r cyfnod cyfatebol ym mlwyddyn academaidd 2023/24. Darperir y data hwn fel y gall defnyddwyr asesu sut mae presenoldeb ac absenoldeb wedi newid o fewn y flwyddyn academaidd gyfredol o'i gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol. 

Ar hyn o bryd, byddem yn cynghori defnyddwyr i beidio â chymharu data ar gyfer blwyddyn academaidd gyfredol 2024/25 hyd yma gyda data ar gyfer y blynyddoedd academaidd blaenorol llawn. Mae hyn oherwydd y bydd y ffigurau blwyddyn hyd yma yn anweddol ar ddechrau'r flwyddyn ond byddant yn dod yn fwy sefydlog wrth i wythnosau pellach gael eu hychwanegu yn y data. Mae data hanesyddol hefyd wedi dangos mai'r wythnosau cyntaf ym mis Medi sydd â'r presenoldeb uchaf o unrhyw wythnos o'r flwyddyn academaidd ac felly mae'r ffigurau blwyddyn hyd yn hyn yn debygol o ostwng wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen. 

Byddwn yn darparu cyngor pellach unwaith y bydd y ffigurau blwyddyn hyd yma yn ddigon sefydlog i wneud cymariaethau mwy cadarn â data hanesyddol blwyddyn lawn.

Prif bwyntiau

Cymhariaeth o 2024/25 â'r un cyfnod yn y flwyddyn academaidd 2023/24

  • Mae cyfartaledd presenoldeb dros y flwyddyn academaidd hyd yn hyn yn 92.1%, i fyny o 91.4% dros yr un cyfnod ym mlwyddyn academaidd 2023/24.
  • Mae cyfartaledd presenoldeb disgyblion sydd yn gymwys am brydau ysgol am ddim (PYD) dros y flwyddyn academaidd hyd yn hyn yn 87.3%, i fyny o 86.7% dros yr un cyfnod ym mlwyddyn academaidd 2023/24. Ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael PYD, y presenoldeb cyfartalog yw 93.6%, i fyny o 93.1%.
  • Y cyfartaledd presenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd hon hyd yma ar gyfer gwrywod yw 92.1%, i fyny o 91.5% dros yr un cyfnod yn 2023/24. Ar gyfer menywod, y cyfartaledd presenoldeb yw 92.0%, i fyny o 91.4%.
  • Mae'r cyfartaledd presenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd hon hyd yma ar ei isaf ymhlith disgyblion ym mlwyddyn 11 (88.3%) ac ar ei uchaf ymhlith disgyblion ym mlwyddyn 7 (94.5%). Mae presenoldeb ymhlith disgyblion blwyddyn 11 yn 1.2 pwynt canran yn uwch nag yr oedd yn yr un cyfnod ym mlwyddyn academaidd 2023/24.
  • Y rheswm mwyaf cyffredin dros absenoldeb yn y flwyddyn academaidd hon hyd yma yw salwch, sy'n cyfrif am 3.3% o'r sesiynau. Hwn oedd hefyd y rheswm mwyaf cyffredin yn yr un cyfnod o flwyddyn academaidd 2023/24.

Cymhariaeth rhwng 2023/24 a 2018/19

  • Y cyfartaledd presenoldeb ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 oedd 90.2%, i lawr o 94.3% yn 2018/19. Mae hyn yn ostyngiad mewn presenoldeb o 4.1 pwynt canran.
  • Y cyfartaledd presenoldeb yn 2023/24 ar gyfer disgyblion sy'n gymwys ar gyfer PYD oedd 84.7%, i lawr o 91.2% (6.5 pwynt canran) ers 2018/19.
  • Roedd presenoldeb cyfartalog gwrywod ychydig yn uwch nag ar gyfer menywod yn 2022/23 a 2023/24, gan wrthdroi’r duedd nodweddiadol yn 2018/19 a blynyddoedd cynharach lle'r oedd presenoldeb benywod yn uwch. Gostyngodd presenoldeb gwrywod a menywod o leiaf 3.9 pwynt canran rhwng 2018/19 a 2023/24.
  • Roedd cyfartaledd presenoldeb yn 2023/24 ar ei isaf ymhlith disgyblion ym mlwyddyn 11, sef 84.7% ac ar ei uchaf ymhlith disgyblion blwyddyn 3, sef 92.5%. Mae presenoldeb ymysg disgyblion blwyddyn 11 8.5 pwynt canran yn is nag yr oedd yn 2018/19. Gostyngodd mwyafrif y grwpiau oedran ysgol gynradd 2.4 i 2.8 pwynt canran dros yr un cyfnod.
  • Roedd salwch yn cyfrif am 4.4% o'r holl sesiwn ysgol yn 2023/24, i fyny o 3.0% yn 2018/19.

Gwybodaeth ansawdd

Ffynonellau data presenoldeb

Mae dwy ffynhonnell o ddata presenoldeb ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru

Ansawdd data

Mae’r data ar gyfer 2023/24 ymlaen yn wybodaeth reoli a dynnwyd yn awtomatig o MIS unwaith yr wythnos. Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol achrededig a gall y data fod yn destun diwygiadau yn y dyfodol. Dylid trin y ffigurau ar gyfer 2024/25 fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau ar gyfer blynyddoedd cynharach yn derfynol ac nid ydynt yn destun newid. 

Mae'r casgliad data wedi'i gynllunio i sicrhau nad oes beichiau gweinyddol ychwanegol ar ysgolion. O ganlyniad, mae tri phrif fater a all effeithio ar ansawdd y data hwn. Nid ydym yn mynd i'r afael ag unrhyw un o'r materion hyn sy'n hysbys:

  • Gall materion technegol olygu na allwn dynnu data ar gyfer pob ysgol am rai wythnosau. 
  • Bydd gan ysgolion eu gweithdrefnau a'u hamserlenni eu hunain ar gyfer diweddaru eu cofrestrau presenoldeb electronig. Efallai na fydd y data presenoldeb diweddaraf wedi'i gynnwys yn eu systemau erbyn i ni dynnu'r data, gan arwain at ddata anghyflawn ar gyfer rhai ysgolion. 
  • Mae set y cytunwyd arni o godau presenoldeb statudol ar gyfer Cymru gyda diffiniadau cyson a chyffredin sy'n ymwneud â phresenoldeb a'r rhesymau dros absenoldeb (gweler tabl 9 y daenlen sy'n cyd-fynd). Gall ysgolion ond ddefnyddio’r codau hyn wrth ddarparu'r ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, at eu dibenion eu hunain gall ysgolion hefyd ddefnyddio codau presenoldeb lleol dros dro sydd ond yn cael eu trosi i'r codau statudol yn ystod y casgliadau data blynyddol hynny. Bydd hyn yn golygu ein bod yn derbyn rhai codau presenoldeb anhysbys yn y data wythnosol. Nid yw codau o'r fath wedi'u cynnwys yn y data wythnosol a gyhoeddwyd.

Mae'r ystadegau swyddogol achrededig yn defnyddio proses sicrhau ansawdd drylwyr i sicrhau bod y data'n gynhwysfawr ac yn gywir.

Mae'r data o'r ffynhonnell wythnosol hon a'n hystadegau swyddogol achrededig yn dros flwyddyn academaidd lawn, fel y dangosir yn y tablau isod.

Tabl 1: Cymhariaeth o ddata presenoldeb blynyddol a gwybodaeth reoli wythnosol ar gyfer ysgolion a gynhelir yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23
Grŵp blwyddyn% o sesiynau hanner diwrnod yn bresennol - 
Data blynyddol
% o sesiynau hanner diwrnod yn bresennol - Gwybodaeth reoli wythnosolGwahaniaeth
190.890.80.1
291.691.50.1
391.891.70.1
491.891.70.1
591.791.60.1
691.491.30.1
790.690.40.2
888.488.10.3
987.286.90.3
1086.686.20.4
1184.484.10.3

Argaeledd data

Nid oes unrhyw ddata ar gael ar gyfer 2019/20 oherwydd bod y casgliadau wedi cael eu hatal yn ystod pandemig y COVID-19.

Mae data presenoldeb ar gyfer 2020/21 a 2021/22 wedi'i gyhoeddi ar wahân ond nid yw wedi'i gynnwys yn y datganiad hwn oherwydd nad oedd diffiniadau absenoldeb yn ystod y cyfnod hwn yn gyson â data ar gyfer y blynyddoedd eraill a gyflwynwyd (gweler yr adran ar gymaradwyedd data isod). Roedd y diffiniadau yn wahanol fel y gallem gasglu gwybodaeth a oedd yn ddefnyddiol fel rhan o'n hymateb i'r pandemig COVID-19.

Cymaroldeb

Mae pedair gwlad y DU yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng Cymru a naill ai'r Alban na Gogledd Iwerddon oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data, cyflwyniad a diffiniadau o absenoldeb. 

Mae Cymru a Lloegr yn cyhoeddi data presenoldeb blynyddol. Mae'r diffiniadau o fethodolegau presenoldeb a chasglu data yn debycach rhwng Cymru a Lloegr na rhwng Cymru a'r gwledydd eraill. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau mewn codau presenoldeb a chasglu data ar gyfer tymor yr haf a byddem yn cynghori defnyddwyr i fod yn ofalus wrth gymharu data blynyddol ar gyfer Cymru a Lloegr. Gellir dod o hyd i ddata blynyddol ar gyfer Lloegr yn Statistics: pupil attendance and absence - GOV.UK (www.gov.uk)

Rydym yn cynghori defnyddwyr i beidio â chymharu canlyniadau o'r casgliadau wythnosol rhwng unrhyw genhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn methodolegau casglu, diffiniadau a phrosesau sicrhau ansawdd.

Datganiad am gymhwyso'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn wirfoddol

Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu hystyried yn ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, rydym wedi cymhwyso egwyddorion y Cod Ymarfer cyn belled ag y bo modd yn ystod y datblygiad.

Mae'r ystadegau hyn wedi'u datblygu'n gyflym ac wedi cyhoeddi'r cyfle cynharaf posibl i gynorthwyo defnyddwyr i ddeall patrymau presenoldeb ac absenoldeb mewn amser real ac effaith bosibl pandemig y COVID-19.

Rydym wedi cymhwyso'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU) yn wirfoddol fel a ganlyn.

Ymddiriedaeth

Rydym yn cyhoeddi ac yn diweddaru canllawiau i ysgolion yn rheolaidd ar bresenoldeb ac absenoldeb. Bydd hyn yn cynnwys canllawiau manwl ar godau a diffiniadau presenoldeb dilys a chofnodi gwybodaeth o'r fath yn MIS. Mae hyn yn sicrhau dull cenedlaethol cyson o gofnodi a dychwelyd y wybodaeth hon.

Mae'r data wedi cael eu tynnu o systemau gweithredol a'u dyroddi gan ystadegwyr sy'n gweithio dan oruchwyliaeth Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ystadegau, y data a'r deunydd esboniadol yn cael eu cyflwyno'n ddiduedd ac yn wrthrychol.

Mae'r holl ddata personol sy'n sail i'r ystadegau hyn yn cael eu prosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018. Rydym wedi sefydlu proses lywodraethu drylwyr gyda'r contractwr i sicrhau bod y data'n cael ei reoli a'i adolygu'n ddiogel cyn ei ryddhau.

Mae'r ystadegau hyn wedi'u cyhoeddi ymlaen llaw ar faes Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad i'r data yn ystod y prosesu wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n ymwneud â chynhyrchu'r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau wedi'i gyfyngu i dderbynwyr cymwys yn unol â'r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Ansawdd

Mae'r data yn y datganiad hwn i gyd yn tarddu o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion. Ystyrir bod y ffynonellau data hyn o ansawdd digonol i gefnogi'r dadansoddiad hwn ac i sicrhau bod gan ddefnyddwyr fynediad at wybodaeth amser real am dueddiadau presenoldeb ac absenoldeb gan nodweddion gwarchodedig. 

Mae pob cam wrth gasglu, dilysu a chynhyrchu'r ystadegau hyn yn cael eu harwain gan ystadegwyr proffesiynol sy'n gweithio i'r contractwr ac ystadegwyr o Grŵp Ystadegol y Llywodraeth.

Rydym yn sicrhau’r holl ystadegau o ran ansawdd cyn eu cyhoeddi.

Gwerth

Mae ein hystadegau swyddogol achrededig ar bresenoldeb ac absenoldeb mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd yn dangos nad yw presenoldeb wedi gwella eto i lefelau cyn y pandemig. Cyhoeddwyd yr ystadegau hyn cyn gynted â phosibl i helpu defnyddwyr i ddeall presenoldeb ac absenoldeb ac effaith barhaus bosibl pandemig y COVID-19. Bydd yr ystadegau'n cael eu diweddaru'n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn i ganiatáu i ddefnyddwyr fonitro tueddiadau presenoldeb tymor hwy mewn amser real wrth i'r flwyddyn academaidd fynd yn ei blaen.

Ynghyd â'r datganiad hwn mae Taenlen Dogfen Agored y gellir ei rhannu a'i hailddefnyddio'n eang ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth ar Ryddhau ystadegau mewn taenlenni.

Mae data'n cael eu cyflwyno'n glir ym mhob tabl, gyda'r daenlen hefyd yn cynnwys dalen clawr yn rhestru pob tabl. Datblygwyd y sylwebaeth a'r nodiadau yn y datganiad i geisio gwneud y wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr.

Mae cynnwys y datganiad hwn yn cael ei adolygu'n rheolaidd. Bydd yn cael ei ategu yn y dyfodol gyda thablau ychwanegol ar bresenoldeb ac absenoldeb gan anghenion dysgu ychwanegol (ADY), cefndir ethnig a data ar absenoldeb parhaol.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn wythnosol yn ystod mis Medi a mis Hydref pan fydd tueddiadau cenedlaethol yn destun newid sylweddol o wythnos i wythnos. Unwaith y byddwn ymhellach i'r flwyddyn academaidd gyfredol a bod y data'n dod yn fwy sefydlog o wythnos i wythnos, byddwn yn anelu at gyhoeddi naill ai bob pythefnos neu bob mis.

Rydym yn ceisio lleihau unrhyw faich ar ddisgyblion, athrawon, ysgolion ac awdurdodau lleol drwy echdynnu'r data hwn yn uniongyrchol o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Steve Hughes
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099