Neidio i'r prif gynnwy

Yr wybodaeth reoli ddiweddaraf ynghylch prentisiaid yng Nghymru a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws hyd at 26 Mawrth 2021.

Darperir yr wybodaeth reoli hon i Lywodraeth Cymru gan ddarparwyr prentisiaethau, ac ar sail data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Nid yw ei hansawdd wedi’i sicrhau i’r un graddau â’r ystadegau swyddogol.

Prif bwyntiau

  • Roedd 1,690 prentis ar ffyrlo llawn ar 26 Mawrth 2021.
  • Gostyngodd nifer y prentisiaid ar ffyrlo am y tro cyntaf ers Tachwedd. Roedd 75 yn llai o brentisiaid ar ffyrlo llawn y mis hwn nag yn ystod y mis blaenorol.
  • Mae nifer y prentisiaid ar ffyrlo yn dal i fod yn ychydig dros un pumed yr hyn a oedd ar ei uchaf.
  • Rhoddwyd terfyn ar lai na 1% o brentisiaethau yn sgil diswyddo prentisiaid yn ystod y pandemig.
  • Roedd 120 o brentisiaid eraill (llai na 0.5%) wedi cael eu diswyddo, ond maent yn parhau â’u rhaglen ddysgu tra bo’u darparwr yn ceisio dod o hyd i gyflogwr arall.
  • Mae llai o brentisiaethau wedi’u cwblhau, yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus, o gymharu â blynyddoedd blaenorol.
  • Dim ond 28% o brentisiaid sydd wedi cwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus neu gael swydd, o gymharu â chyfartaledd o 37% erbyn yr adeg hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r anghydraddoldebau yn llai nag a oeddent ar ddechrau’r pandemig, ond mae rhywfaint o anghydraddoldeb o hyd. Y prentisiaid yr effeithir fwyaf arnynt o hyd yw’r rhai:

  • ifanc
  • sy’n gweithio yn y meysydd gwallt a harddwch; lletygarwch; neu’r meysydd hamdden, chwaraeon a theithio
  • sydd ddim yn astudio prentisiaethau uwch
  • sy’n gweithio i gwmnïau â llai na 10 o gyflogeion
  • sydd ddim yn gweithio yn y sector cyhoeddus
  • sy’n byw yn y de-orllewin

Ceir gwybodaeth am nifer y bobl sydd ar ffyrlo yng Nghymru yn yr Ystadegau ar y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Prentisiaid a roddeyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19): hyd at 26 Mawrth 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 93 KB

ODS
93 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.