Neidio i'r prif gynnwy

Yr wybodaeth reoli ddiweddaraf ynghylch prentisiaid yng Nghymru a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws hyd at 26 Chwefror 2021.

Darperir yr wybodaeth reoli hon i Lywodraeth Cymru gan ddarparwyr prentisiaethau, ac ar sail data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Nid yw ei hansawdd wedi’i sicrhau i’r un graddau â’r ystadegau swyddogol.

Prif bwyntiau

  • Roedd 1,765 prentis ar ffyrlo llawn ar 26 Chwefror 2021.
  • Gwnaeth nifer y prentisiaid ar ffyrlo barhau i gynyddu. Roedd 505 yn fwy o brentisiaid ar ffyrlo llawn y mis hwn nag a oedd yn ystod mis Tachwedd, lle’r oedd y nifer isaf o brentisiad ar ffyrlo.
  • Fodd bynnag, mae nifer y prentisiaid ar ffyrlo yn dal i fod yn ychydig llai na chwarter yr hyn a oedd ar ei uchaf, ac mae cyfradd y prentisiaid sydd ar ffyrlo wedi gostwng o gymharu â’r 2 fis blaenorol.
  • Rhoddwyd terfyn ar lai na 1% o brentisiaethau yn sgil diswyddo prentisiaid yn ystod y pandemig.
  • Roedd 115 o brentisiaid eraill (llai na 0.5%) wedi cael eu diswyddo, ond maent yn parhau â’u rhaglen ddysgu tra bo’u darparwr yn ceisio dod o hyd i gyflogwr arall.
  • Mae llai o brentisiaethau wedi’u cwblhau, yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus, o gymharu â blynyddoedd blaenorol.
  • Dim ond 26% o brentisiaid sydd wedi cwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus neu gael swydd, o gymharu â chyfartaledd o 34% erbyn yr adeg hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r anghydraddoldebau yn llai nag a oeddent ar ddechrau’r pandemig, ond mae rhywfaint o anghydraddoldeb o hyd. Y prentisiaid yr effeithir fwyaf arnynt o hyd yw’r rhai:

  • ifanc
  • sy’n gweithio yn y meysydd gwallt a harddwch; lletygarwch; neu’r meysydd hamdden, chwaraeon a theithio
  • sydd ddim yn astudio prentisiaethau uwch
  • sy’n gweithio i gwmnïau â llai na 10 o gyflogeion
  • sydd ddim yn gweithio yn y sector cyhoeddus
  • sy’n byw yn y canolbarth neu’r de-orllewin.

Ceir gwybodaeth am nifer y bobl sydd ar ffyrlo yng Nghymru yn yr Ystadegau ar y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Prentisiaid a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19): hyd at 26 Chwefror 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 89 KB

ODS
89 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099