Neidio i'r prif gynnwy

Yr wybodaeth reoli ddiweddaraf ynghylch prentisiaid yng Nghymru a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws hyd at 24 Gorffennaf 2020.

Darperir yr wybodaeth reoli hon i ni gan ddarparwyr prentisiaethau, ac ar sail data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Nid yw ei hansawdd wedi’i sicrhau i’r un graddau â’r ystadegau swyddogol.

Prif bwyntiau

  • Roedd 6,170 (18%)  prentis yn dal ar ffyrlo erbyn 24 Gorffennaf 2020.
  • Mae nifer y prentisiaid sydd ar ffyrlo wedi gostwng o  6,575 ar 10 Gorffennaf 2020.
  • Roedd 175 prentis wedi cael eu diswyddo, ond maent yn parhau â’u rhaglen ddysgu tra bo’u darparwr yn ceisio dod o hyd i gyflogwr arall.
  • Rhoddwyd terfyn ar brentisiaeth 40 unigolyn yn sgil eu diswyddo.

Y prentisiaid sydd wedi eu heffeithio fwyaf yw:

  • gwrywod
  • gwyn neu o hil gymysg
  • y rheini nad oeddent yn astudio prentisiaethau uwch
  • y rheini a oedd yn gweithio i gwmnïau â llai na 50 o gyflogeion
  • y rheini a gyflogid gan y sector preifat

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Gwybodaeth reoli: prentisiaid a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19): hyd at 24 Gorffennaf 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 40 KB

ODS
40 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.