Helo, Rebekah ydw i
Dwi’n dod o Lanelli
Lle es i Ysgol Gymraeg Strade wedyn i Goleg Gorseinon a Brifysgol Coleg Sir Gâr i ddysgu tecstilau.
So, pan wnes i gais i Lywodraeth Cymru edrychais am cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd ar yr un pryd a gweithio –
Nes i gais i edrych am yrfa yn hytrach na swydd.
Teimlaf fod lot o swyddi dim ond yn rhoi hyfforddiant ar dechrau cyflogaeth a wedyn byddwch chi ar eich hunain.
So er mwyn addasu i waith ac i mynd i mewn i waith ar ôl y Brifysgol roedd Prentisiaeth yn union beth oeddwn i’n edrych amdano.
O’n i moyn cael y balans rhwng gweithio a dysgu sgiliau newydd.
I fi – mae ’di bod yn rhwydd iawn i gael yr amser rhwng gwaith a dysgu so mae Llywodraeth Cymru yn annog pawb i ddysgu sgiliau newydd – so ar hyn o bryd ma ‘da ni cwrs Cymraeg sy’n rhedeg i bawb o lefelau gwahanol so dwi’n gwneud hefyd y gwaith cwrs Prentisiaeth un diwrnod yr wythnos – mae hyn yn rhoi cyfle i fi ganolbwyntio ar waith cwrs a dysgu sy’n dod gyda fe.
Mae fy rheolwr llinell wedi bod yn grêt ac yn cefnogi fi trwy pob darn o waith lle mae angen ac mae nhw’n dod i gyfarfodydd prentisiaeth er mwyn cael clywed sut yw ni’n ymdopi gyda popeth.
Os oes cefnogaeth ychwanegol ar angen ‘da fi mae nhw’n rhoi e i fi bob tro – ynglŷn a hyn, mae’r holl tîm wedi bod yn cefnogol ac yn rhoi help i fi gyda’r gwaith dysgu ac yn dysgu i mi sut mae’r Llywodraeth yn rhedeg.
Ni allwn ofyn am tîm gwell.