Neidio i'r prif gynnwy

Mwy o wybodaeth am fod yn brentis gyda Llywodraeth Cymru.

Trawsgrifiad o'r fideo

Yr Ysgrifennydd Parhaol

Shwmae, hoffech chi yrfa newydd gyda Llywodraeth Cymru?

Os ydych chi'n chwilio am yrfa newydd, yna mae swydd yn Llywodraeth Cymru yn lle gwych i ddechrau. 

Ni yw'r llywodraeth ddatganoledig dros Gymru a rydym yn gyfrifol am ystod eang o feysydd polisi i adeiladu Cymru decach, mwy cyfartal a gwyrddach.

Mae Llywodraeth Cymru yn atebol i'r Prif Weinidog Cymru a phobl Cymru trwy'r Senedd.

Rydym yn chwilio am amrywiaeth eang o unigolion i ymuno â gwasanaeth sifil Cymru sy'n awyddus i weithio mewn amrywiaeth o rolau cyffrous ac i gael effaith ymarferol a chadarnhaol ar ddinasyddion ledled y wlad.

Rydym yn chwilio am bobl hyblyg ac arloesol i weithio gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid ar draws y gwasanaeth cyhoeddus, a fydd yn rhoi cydweithio wrth wraidd popeth a wnawn - i wneud ein cenedl yn lle gwell i fyw a gweithio ynddi.

Yma yn Llywodraeth Cymru mae gennym hanes rhagorol o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda'n Undebau Llafur cydnabyddedig, gan sicrhau ein bod yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng ein buddiannau ni a buddiannau ein gweithwyr – rhywbeth y byddwch yn clywed mwy amdano yn ddiweddarach yn y ffilm hon.

A dyma pam mae Llywodraeth Cymru eich angen chi! Rydym yn sicrhau fod hyd at 50 lle ar gael ar ein derbyniad prentisiaeth corfforaethol sydd am lansio mis Mawrth eleni.

Mae tri llwybr gwahanol, sef gweinyddu busnes, cyllid a digidol, data a thechnoleg.

Mae’r prentisiaethau'n rhedeg am gyfnod o 18 mis, sy’n cefnogi prentisiaid i ennill y cymhwyster NVQ lefel tri yn ei ddisgyblaeth berthnasol mewn amgylchedd sy'n cefnogi ac yn galluogi dysgu wrth weithio.

Azul

So, beth fedrwch chi ei ddisgwyl o ran buddion o ymuno â gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru? Gadewch i ni ddechrau gyda 31 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl yn ogystal â gwyliau cyhoeddus a braint, ymrestru awtomatig yng Nghynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil a mynediad at gynlluniau Beicio i'r Gwaith a Char Gwyrdd.

Rebecca

Rydym yn angerddol a’ch datblygiad a'ch dyfodol, ac rydym yn falch o gynnig amgylchedd lle gall ein gweithwyr datblygu a ffynnu drwy fynediad at Gynnig Dysgu a Datblygu Corfforaethol gwych, gan gynnwys mynediad i Gynlluniau Talent y Gwasanaeth Sifil a Rhaglen Dysgwyr y Gymraeg.

Andrew

Gwyddom fod sefydliadau'n fwy llwyddiannus a chreadigol pan fyddant yn amrywiol.

Mae dod â safbwyntiau, syniadau a phrofiadau gwahanol at ei gilydd nid yn unig yn ein helpu i wneud penderfyniadau'n fwy effeithiol, ond mae hefyd yn helpu i sicrhau bod ein polisïau'n adlewyrchu anghenion pawb yng Nghymru.

Rydym yn falch o fod yn gyflogwr cynhwysol, cyfle cyfartal.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a gweithio i'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod pobl yn anabl nid yn ôl eu namau ond gan rwystrau mewn cymdeithas.

Rydym wedi llofnodi'r addewid Pledge to be Seen gan Changing Faces, sy'n ein hymrwymo i annog mwy o bobl sydd â gwahaniaeth gweladwy i ymuno â'n sefydliad - ymgyrch sy'n agos at fy nghalon fy hun ar ôl tyfu i fyny gyda chraith gweladwy ar fy wyneb.

Dafydd

Rwy'n gweithio yn Amrywiaeth wrth Recriwtio, nod ein tîm yw cynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru.

Rydym yn gwneud hyn drwy gefnogi ymgeiswyr o'r dechrau i'r diwedd a sicrhau eu bod yn profi proses recriwtio teg ac agored.

Mae'r tîm Amrywiaeth wrth Recriwtio yn frwdfrydig am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu amrywiaeth yn y gweithle.

Andrew

Rydym yn ymdrechu i gael diwylliant lle mae pawb yn gallu gwneud eu cyfraniad gorau posibl ac i deimlo eu bod yn gallu bod yn eu hunain yn y gwaith.

Rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw berson anabl neu gyn-filwr y Lluoedd Arfog lle mae eu cais yn bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd.

Anogir pob gweithiwr i ymuno â'n Rhwydweithiau Amrywiaeth Staff.

Mae gennym hefyd amrywiaeth o grwpiau cefnogi cymar wrth gymar sy'n darparu math gwahanol o gymorth i gydweithwyr nag sydd ar gael fel arfer.

Ar hyn o bryd, mae amrywiaeth Llywodraeth Cymru ymhell o fod yn gynrychioliadol o'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae angen i ni newid fel sefydliad i helpu i sbarduno'r newid mewn cymdeithas ehangach felly rydym yn croesawu'n fawr eich diddordeb mewn gwneud cais am y rolau hyn ac yn gobeithio y byddwch yn ein helpu i greu'r sefydliad yr ydym am fod.

Haydn

Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw: PCS, Prospect a FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:

Cyflog, telerau ac amodau, polisïau a gweithdrefnau, a newid sefydliadol.

Fel swyddog undeb llafur, rydw i’n gweithio mewn partneriaeth agos gyda’r adran Adnoddau Dynol i sicrhau bod fy aelodau yn cael dweud eu dweud yn y gweithle.   Fel undebau llafur rydym yn sicrhau bod buddiannau ein aelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Rydym hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Ravinder

Mae eich Iechyd a'ch Lles yn bwysig iawn i ni. Mae gan bob un o'n staff fynediad i'n Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol a'n Rhaglen Cymorth i Weithwyr sydd yno i roi cyngor, arweiniad a chymorth ymarferol os oes ei angen arnoch.

Sam

A yw cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig i chi? Mae o i ni hefyd! Am y rheswm hwnnw rydym yn gweithredu polisi Gweithio’n Glyfar sy'n annog cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa.

Mae hyn yn ein galluogi ni i gefnogi ein gilydd a chydweithio i gyflawni ein blaenoriaethau, wrth reoli cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd cartref.

Yr Ysgrifennydd Parhaol

Mae swydd yn Llywodraeth Cymru yn swydd unigryw ac arbennig. Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth? Dewch i weithio gyda ni!

Mae swydd yn Llywodraeth Cymru yn wahanol i unrhyw un arall yng Nghymru – felly a ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth gyda ni?

Diolch yn fawr iawn

Prentisiaid Llywodraeth Cymru

Mwy o wybodaeth am fod yn brentis gyda Llywodraeth Cymru.