Neidio i'r prif gynnwy

Mae pobl sy'n gweithio rhwng 10 ac 16 awr yn y sector Gofal Plant a Chwarae ac sy’n dymuno datblygu eu gyrfaoedd yn cael eu hannog i wneud cais am arian ar gyfer cymwysterau prentisiaeth drwy'r rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant (PFS).

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cynnydd ar gyfer Llwyddiant yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop sy'n ariannu gweithwyr y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae i ennill cymwysterau cydnabyddedig ym maes gofal plant a chwarae. Nod y rhaglen yw gwella ansawdd y ddarpariaeth a gynigir i'n plant ieuengaf yng Nghymru drwy gynyddu ac ehangu'r lefelau sgiliau sydd gan y gweithlu presennol.

Mae arian penodol bellach yn cael ei ddarparu gan y rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant i gynnal cynllun peilot prentisiaethau ledled Cymru ym maes gofal plant a chwarae sydd wedi'u hanelu at weithwyr presennol sy'n gweithio rhwng 10 ac 16 awr yr wythnos. Dyma'r tro cyntaf hefyd y bydd y PFS yn cynnal cynllun peilot i bobl sy'n gweithio llai na 16 awr yr wythnos yn y sector.

Bydd y cymwysterau prentisiaeth yn galluogi gweithwyr presennol i gymhwyso o dan y cynllun Dysgu a Datblygu Gofal Plant a Chwarae (CCPDL) a fydd yn mynd yn fyw heddiw (2 Medi).

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

"Mae pobl sy'n gweithio yn y blynyddoedd cynnar yn chwarae rôl hanfodol yn natblygiad plant gan eu helpu i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd a'u paratoi ar gyfer yr ysgol er mwyn iddyn nhw fedru wireddu'u potensial a manteisio i'r eithaf ar eu haddysg.

"Mae rhieni'n dymuno cael y gofal plant gorau posibl ac mae'r rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant yn rhoi cyfle gwych i bobl sy'n dymuno datblygu eu gyrfaoedd i ennill cymwysterau prentisiaeth a ariennir yn llawn drwy gael hyfforddiant yn y gwaith. Bydd hyn yn galluogi gweithwyr i gefnogi plant yn ystod eu dysgu a'u datblygu blynyddoedd cynnar ac i wella ansawdd eu gofal. 

"Gall ansawdd a sgiliau pobl wneud y gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu, felly mae buddsoddi yn y gweithlu hefyd yn fuddsoddiad yn y lleoliad gofal plant. Dw i'n annog pawb sydd â diddordeb i siarad â'u cyflogwyr a gwneud cais. 

"Mae prentisiaethau yn gwneud cyfraniad pwysig i'n heconomi ac mae Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni’r ymrwymiad yn ei maniffesto i ddarparu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oedran erbyn diwedd y Cynulliad hwn. Dyma un o'n hymrwymiadau allweddol ac fel llywodraeth byddwn ni'n parhau i weithio i roi hwb i ffyniant a chynyddu cyfleoedd, ac mae prentisiaethau yn rhan hanfodol o hynny."

Mae PFS hefyd yn cefnogi Cynnig Gofal Plant i Gymru Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd yn 2017 ac sy'n darparu cymysgedd o ofal plant ac addysg gynnar i blant sy'n dair neu'n bedair oed ar gyfer rhieni sy’n gweithio. 

Mae teuluoedd yn gallu cael hyd at 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant. Mae'r 30 awr yn cynnwys o leiaf 10 awr o addysg gynnar yr wythnos ac uchafswm o 20 awr yr wythnos o ofal plant.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

"Mae dros 15,000 o blant bellach yn defnyddio ein cynnig gofal plant ac mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd ledled Cymru.

"Mae'r gweithlu gofal plant proffesiynol ac ymroddedig yn hanfodol i'n cynnig. Bydd Cynnydd ar gyfer Llwyddiant yn helpu i gefnogi a hybu sgiliau'r rhai hynny sydd eisoes wedi dewis gyrfa mewn gofal plant. Dw i'n annog pobl i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut y gallai fod o fantais iddynt."

Mae'r cymwysterau prentisiaeth Cynnydd ar gyfer Llwyddiant yn rhan o'r dulliau arloesol sy'n cael eu datblygu o dan gynllun 10 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer y gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar ac mae hefyd yn cefnogi Cynnig Gofal Plant i Gymru.

Mae'r cynllun Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar yn ymrwymo i flaenoriaethu buddsoddiad yn y sector gofal plant i gefnogi twf cynaliadwy a datblygu sgiliau. Mae'r rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gadw Prentisiaethau mynediad Lefel 2 gan helpu cyflogwyr i gynyddu sgiliau a hyfforddi eu staff i lefelau uwch.

Am ragor o wybodaeth ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 0300 060 3000 neu ewch i weld gwefan Busnes Cymru.