Neidio i'r prif gynnwy

Ar ôl gadael yr ysgol, roedd Gruff yn gwybod ei fod am ddilyn ei freuddwyd a gweithio yn y cyfryngau, ond nid oedd yn siŵr sut i dorri i mewn i’r diwydiant. Cafodd gyfle drwy brentisiaeth i ddysgu gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gan gael ei droed ar ris gyntaf ysgol ei yrfa ar yr un pryd.

Ers symud ei bencadlys i'r Egin yng Nghaerfyrddin, mae'r cwmni wedi cyflogi tri prentis arall. 

Ers dechrau ei brentisiaeth gydag S4C, mae Gruff wedi gallu ei daflu ei hun i mewn i amrywiol rolau, gan roi’r cyfle iddo ddatblygu ei sgiliau creadigol gan ddysgu gan oreuon y diwydiant.

Ers i S4C symud ei bencadlys i Ganolfan yr Egin yng Nghaerfyrddin, mae'r cwmni wedi cyflogi tri prentis arall.

Mae Joseph Hughes, cyd-brentis Gruff, sy’n 18 ac o Gastell-nedd, yn brentis cyllid Lefel 2. Dyma ddywedodd e:

“Pan adawais i yr ysgol, doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn i am ei wneud. Roedd gyda fi ddiddordeb yn y diwydiant ariannol, gan fod fy nhad yn Rheolwr Cyllid, ac mae ei waith e wedi fy ysbrydoli i bob amser. Pan welais y cyfle prentisiaeth yn S4C, neidiais amdano.

Ers dechrau fy mhrentisiaeth yn S4C, dw i wedi ennill cymaint o brofiad. Dw i’n cefnogi’r tîm drwy waith anfonebu, gwirio credyd, prosesu taliadau a phrosesu treuliau busnes. Dw i’n mwynhau pob eiliad, a dw i’n gwybod nawr mai dyma’r llwybr gyrfa i mi.”

Elwa ar syniadau a sgiliau Newydd

Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C, fod prentisiaid fel Gruff a Joseph yn caniatáu i'r cwmni gau'r bylchau sgiliau yn y diwydiant creadigol a'r cyfryngau. Meddai:

Roedden ni eisiau dod o hyd i ffordd o ddod â doniau newydd, syniadau newydd a sgiliau perthnasol i'r busnes. Recriwtio prentisiaid oedd y dewis amlwg, gan ein bod yn awyddus i dargedu'r unigolion gwybodus yn yr ardal sydd am ddechrau eu gyrfa yn y diwydiant.

Rydyn ni'n ffodus yma ein bod ni'n gallu cynnal ein prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Drwy wneud hynny, rydyn ni’n buddsoddi yn nyfodol y cynnwys rydyn ni'n ei gynhyrchu ar y sianel, S4C fel busnes a'r diwydiant yn gyffredinol.

Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth

P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.