Prentisiaethau: Stori Nikita
O athrawes i fyfyriwr: Athrawes ysgol gynradd yn dadgodio bywyd fel prentis.
Astudiodd Nikita Williams, o Gaerffili, addysg yn y brifysgol ac roedd yn gweithio fel athrawes cyn canfod mai ei gwir angerdd oedd dysgu, ochr yn ochr â’i disgyblion, sut i godio.
Dywedodd:
“Mae addysgu pobl ifanc yn canolbwyntio’n drwm ar dechnoleg a chymhwyso technoleg yn y byd go iawn. Mae myfyrwyr mor ifanc â deng mlwydd oed yn gwybod sut i godio, ac fe sylweddolais fy mod yn dysgu ganddyn nhw gymaint ag yr oedden nhw’n dysgu gennyf i. Doeddwn i ddim yn mwynhau’r swydd yr oeddwn i ynddi, ac roedd fy myfyrwyr wedi agor fy llygaid i bosibilrwydd, a phleser, gyrfa mewn technoleg.”
Penderfynodd Nikita archwilio’r opsiynau a fyddai’n ei galluogi i newid gyrfa, a thrwy ffrind daeth i wybod am Radd-brentisiaeth gyda’r cwmni technoleg byd eang, Capgemini.
Torri cwys newydd
Er bod y syniad o newid gyrfa yn hynod anodd i ddechrau, mae Nikita bellach yn ymgynghorydd cymwysiadau, wedi cwblhau Gradd-brentisiaeth mewn Datrysiadau Digidol a Thechnoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n treulio’i dyddiau yn datblygu ac ysgrifennu sgriptiau cod i’w defnyddio mewn profion awtomataidd ar gyfer ystod o gleientiaid, sy’n caniatáu i feddalwedd gael ei brofi ar beiriannau sy’n golygu bod apiau yn cyrraedd y farchnad mewn yn llawer cyflymach.
Dywedodd Nikita:
“Pan oeddwn i’n dewis fy llwybr gyrfa yn ystod lefel A, roedd rhywfaint o stigma yn perthyn i brentisiaethau o hyd, ond nid dyna sut mae hi o gwbl erbyn hyn.
“Roedd gen i swydd wych gyda chyflog rheolaidd pan ddewisais i ddechrau fy mhrentisiaeth. Fe ymunais i â Capgemini fel rhan o grŵp mawr o brentisiaid, gyda phawb o wahanol gefndiroedd, ac rydym ni gyd yn cefnogi ein gilydd. Mi wn i am sawl person a ddewisodd lwybr prentisiaeth ar ôl gadael yr ysgol, ac mae gan bob un yrfa maen nhw wrth eu boddau â hi: roedden nhw wedi gallu datblygu setiau o sgiliau penodol iawn yn ogystal â chael profiad yn y gweithle ac ennill cyflog.
“Pan ddechreuais i ar fy mhrentisiaeth mi feddyliais i tybed a oeddwn i allan o fy nyfnder, ond rydw i wedi dysgu mor gyflym. Rydw i’n cymhwyso’r theori a ddysgais yn y brifysgol i sefyllfaoedd go iawn ac, o ganlyniad, mae fy hyder wedi cynyddu. Alla’ i ddim aros i weld pa sgiliau eraill y byddaf yn eu datblygu wrth imi symud drwy’r rhaglen.
Pwysigrwydd penderfyniadau doeth
“Byddwn yn annog pobl ifanc yn eu harddegau sydd yn cael eu canlyniadau’r haf yma, a’u rhieni, i edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael, yn hytrach na gwneud beth sy’n ddisgwyliedig. Hyd yn oed os ydych chi rywfaint yn hŷn ac yn poeni eich bod chi wedi gwneud y penderfyniad anghywir, mae modd ichi newid eich meddwl fel y gwnes i.
Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth
P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.