Neidio i'r prif gynnwy

Gŵr ifanc 21 mlwydd oed yn cael cyfle euraid gyda phrentisiaeth yn y Bathdy Brenhinol.

Joe Hopkins

Mae Joe Hopkins yn brentis peirianneg drydanol sydd yn gweithio yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant. Ac yntau ar fin dechrau ei flwyddyn olaf yn astudio Prentisiaeth Lefel 4 mewn Peirianneg Drydanol, mae Joe wedi treulio amser ym mhob un o bedair prif adran y safle hanesyddol: gwneud metel, platio a thrin, bwrw a llunio medalau a darnau arian coffa.

Dilyn yn ôl traed y teulu

Dywedodd:

“Rydw i wedi bod eisiau gyrfa mewn peirianneg erioed, roedd Dad yn beiriannydd ac felly rwy’n teimlo ei fod yn y gwaed. I mi, wedi gadael ysgol, roedd yn fater o ddewis y ffordd orau i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnaf i gychwyn arni yn y diwydiant.

“Trwy fy mhrentisiaeth rydw i wedi ennill llawer o brofiad ymarferol a sgiliau penodol yn y gweithle, ac rydw i hefyd yn mynd i goleg arbenigol, Cymdeithas Hyfforddiant Grŵp Casnewydd a’r Ardal, unwaith yr wythnos. Rydw i’n gallu cymhwyso’r hyn rwyf yn ei ddysgu yn y gwerslyfrau ac yn yr ystafell ddosbarth i’m gwaith, gan wneud hynny’n uniongyrchol ac ar unwaith.  

“Mewn sawl ffordd, does fawr o wahaniaeth rhwng yr hyn rwyf yn gweithio arno a beth allai peiriannydd ceir fod yn ei wneud, dim ond fy mod i’n gwneud gwaith cynnal a chadw ar rywbeth llawer mwy.

“Mae gweithio yn y Bathdy Brenhinol yn gyfle cyffrous, ac mae pawb yma mor groesawgar a bob amser yn barod i gynnig cyngor a chefnogaeth i’r prentisiaid drwy ddysgu pethau newydd inni. Mae’r rheolwyr a’r staff rydych yn gweithio’n agos gyda nhw yn eich cymryd dan eu hadain; mae’n awyrgylch mor gefnogol i ddatblygu a meistroli eich sgiliau ynddo. Fel busnes, mae’n hynod amrywiol ac mae’n gyffrous gweld sut mae technegau bathu yn esblygu’n barhaus ac yn manteisio ar dechnoleg newydd.

“Rydw i wedi gweithio ar lawer o wahanol rannau o’r llinell gynhyrchu, sydd wedi rhoi dealltwriaeth eang imi o’r broses yn ei chyfanrwydd, yn ogystal â gweithio ar alwadau i drwsio rhywbeth sydd wedi torri a swyddi cynnal a chadw cyffredinol. Mae’r holl adrannau gwahanol yn gweithio ar adran ar wahân o’r broses gwneud arian, ac felly mae’r peiriannau yn wahanol iawn hefyd. Mae hynny wedi rhoi dealltwriaeth ehangach a gwell imi o beirianneg a mecaneg.

Gwneud hanes

“Yn benodol, rydw i wedi mwynhau gweithio yn yr adrannau medalau a darnau arian coffa am fy mod i’n cael gweld yn agos rhai o’r darnau a’r medalau mwyaf drudfawr a hanesyddol. Er enghraifft, yn ddiweddar, lluniodd y ffatri ddarn aur gwerth £1,000 ar gyfer Elton John, yn ogystal ag ystod o fedalau milwrol. Er mai prentis ydw i o hyd, rydw i mor falch o fod yn rhan o’r broses o greu’r darnau yma a gaiff eu cofio am byth. 

“Rydw i wastad yn deffro’n teimlo’n bositif am fynd i’r gwaith, sy’n beth hynod brin, ac un o’r prif resymau am hyn yw fy mod i'n hoff iawn o’r ffaith fy mod i’n gallu cymhwyso fy ngwybodaeth a gweld y canlyniadau ar unwaith; mae’n ffordd o ddysgu sy’n rhoi llawer o fudd i chi, ac mi fuaswn i’n argymell prentisiaeth i unrhyw un.”

Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth

P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.