Neidio i'r prif gynnwy

Gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n cynrychioli ei gymuned, mae'n dweud bod prentisiaethau'n sicrhau gwaddol parhaol.

Yn sgil ei awydd i gynnig mwy o lwybrau gwahanol i'r sector treftadaeth, penderfynodd yr awdurdod lleol gyflogi'i prentis Allgymorth Treftadaeth cyntaf ym mis Medi 2019. 

Ers cryfhau'r tîm gyda'r prentis Esta Lewis, dywedodd Sara Maggs, Rheolwr Gweithrediadau'r Gwasanaethau Treftadaeth, fod ei rôl wedi bod yn allweddol i ddatblygiad yr Adran dros y flwyddyn ddiwethaf.

Y prentis perffaith

Ers cyflogi'r prentis 23 mlwydd oed o Hirwaun, mae'r tîm wedi gallu ehangu a chyrraedd mwy o grwpiau cymunedol, adeiladu a chryfhau cysylltiadau gyda phartneriaid yn y gymuned a datblygu prosiectau treftadaeth pwrpasol. Meddai Sara:

“Roedd Esta'n berffaith i ni am fod ganddi angerdd dros ein hanes ac roedd hi eisoes wedi gwirfoddoli mewn amgueddfa leol lle bu'n gwneud gwaith ymchwil ac yn helpu i ddatblygu arddangosfeydd

“Mae ei hagwedd ragweithiol a'i pharodrwydd i roi cynnig ar bethau wedi golygu ein bod ni fel adran wedi gallu ennyn diddordeb a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. I'w helpu i gwblhau ei chymhwyster, mae Esta wedi cael cyfle i arwain prosiect arbennig yn gweithio gyda Siediau Dynion – grŵp a ffurfiwyd i fynd i'r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd ymhlith dynion.   

“Mae Esta'n cydlynu ymweliadau ysgol â'r amgueddfa, sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol – cymaint felly fel ein bod, am y tro cyntaf, wedi derbyn Gwobr Sandford, sicrwydd ansawdd y sector ar gyfer rhaglenni addysg treftadaeth. 

“Roedd cyflogi ein prentis cyntaf yn gofyn am gryn dipyn o ddewrder gennym fel adran, gan fod popeth yn newydd, ond mae wedi bod yn brofiad hynod gadarnhaol ac mae'r amser rydym ni wedi ei fuddsoddi wedi talu ar ei ganfed”

Prentis sydd wedi ennill sawl gwobr

Cydnabuwyd ymrwymiad Esta i'w rôl yn genedlaethol, yn gynharach eleni, pan enillodd wobr Doniau'r Dyfodol 2019 yng Ngwobrau Prentisiaethau 2019 Cymru a'r Wobr Prentisiaeth gan ei darparwr addysg, Coleg Caerdydd a'r Fro. Dywedodd Esta:

“Mae fy niweddar dad-cu, Malcolm 'Chick' Chambers, glöwr yn y Rhondda, wedi fy ysbrydoli erioed ac rydw i wrth fy modd â'r ffaith fy mod i wedi cael swydd lle gallaf gadw ei stori'n fyw. Rwy'n siŵr y byddai'n falch iawn. Ar ôl mynd drwy'r system addysg a'r brifysgol, fy mhrentisiaeth sydd wedi fy ngwneud yr hyn ydw i. Rwyf wedi dysgu sgiliau yn y gweithle ac rwyf bellach wedi dod o hyd i yrfa fy mreuddwydion. Allwn i ddim bod yn hapusach.”

Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth

P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.