Neidio i'r prif gynnwy

Roedd Ellie Curtis yn poeni y byddai ei hawtistiaeth yn effeithio ar ei rhagolygon o ran gyrfa. Fodd bynnag, diolch i’r cymorth un i un a gafodd Ellie yn ystod ei phrentisiaeth, mae hi wedi llwyddo i wireddu ei breuddwydion.

Ellie Curtis and Employer

Roedd Ellie, o Rogiet, wedi bod eisiau gweithio gyda phlant bach erioed, ar ôl cael ei hysbrydoli gan ei mam a oedd yn gweithio fel gwarchodwr plant pan oedd Ellie yn blentyn.

Dywedodd Ellie, sy’n 20:

Es i i'r coleg i astudio gofal plant, ond roeddwn i'n teimlo mai bach iawn o gymorth oedd yna imi o ran fy anghenion dysgu ychwanegol, gan fod gen i awtistiaeth a dyslecsia, ac felly roeddwn yn ei chael yn anodd cyflawni yr hyn roedd y tiwtor yn ei ofyn gennym yn aml.

Roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau gweithio gyda phlant bach, ac felly ymchwiliais i opsiynau eraill. Fe wnes i droi at ACT Training, ac fe gyfeirion nhw fi tuag at brentisiaeth. Fe ddywedon nhw wrtha i y byddai hyfforddiant yn y gweithle yn rhoi'r cymorth ychwanegol roeddwn i'n chwilio amdano.

Er mwyn datblygu ei sgiliau ymhellach, mae Ellie nawr yn gweithio tuag at ei Phrentisiaeth Rheoli Lefel 5. 

Aeth Ellie yn ei blaen:

Fy nod yn y pen draw yw gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol yn unig, a dw i'n gobeithio y bydd fy Lefel 5 mewn Rheoli yn agor drysau imi i'r cam nesaf yn fy ngyrfa.

Doedd Meithrinfa Little Tigers yn Nhrefynwy erioed wedi cyflogi prentis cyn Ellie. Fodd bynnag, ers gwneud, mae wedi bod yn eithriadol falch o gael bod yn rhan o'r Rhaglen Brentisiaethau ac o lwyddiant Ellie ei hun. 

Ennill sgiliau newydd a dyrchafiad

Dywedodd Natalie Hughes, Rheolwr Meithrinfa Little Tigers:

“Mae llwyddiant Ellie ers iddi ddechrau yn destun cymaint o falchder inni. Mae hi'n gallu gwneud tipyn o bopeth ac mae'n bleser gweithio gyda hi. Dyw ei hawtistiaeth ddim wedi bod yn destun pryder.

Ers iddi ysgwyddo rôl Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae wedi cael cyfrifoldeb llawer mwy ac mae wedi ymateb yn wych i'r her. Mae hi mor ymroddedig, ac yn mynd y filltir ychwanegol bob amser. Yn ddiweddar, mae hi wedi dechrau mentora dechreuwyr newydd yn y feithrinfa, gan ofalu eu bod yn iawn a'u bod nhw'n teimlo'n gartrefol.”

Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth

P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.