Prentisiaethau: Stori Cameron
Prentis peirianneg â’r gallu i weithio dan bwysau.
Mae prentis peirianneg 22 mlwydd oed yn honni mai ei brentisiaeth, a’r profiadau ymarferol mae hyn yn ei gynnig, sy’n gyfrifol am ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i weithio’n dda dan bwysau.
Mae Cameron Williams, o Gastell-nedd, yn gweithio gyda’r gwneuthurwr lled-ddargludyddion Newport Wafer Fab wrth gwblhau ei brentisiaeth yng Ngholeg y Cymoedd.
Cyfuno theori ac arfer
Dewisodd Cameron lwybr prentisiaeth er mwyn ennill profiad bywyd go iawn ochr yn ochr â’r hyfforddiant ac mae o’r farn na fyddai, heb hyn, yn llwyr ddeall y cymhlethdodau ddaw gyda’r swydd.
Dywed:
“Wrth weithio ar y safle rydych yn ennill parch gwirioneddol tuag at beth allai ddigwydd petaech chi’n gwneud camgymeriad yn y swydd. Rydych yn gwybod, drwy ddysgu’r theori, bod y potensial yno i beirianneg fod yn beryglus, ond dim ond wrth ichi deimlo'r gwres 1000 gradd ddaw o’r ffwrnes, neu wrth drafod asidau cryf, yr ydych yn deall o ddifri pa mor bwysig yw rhagofalon iechyd a diogelwch. Trwy fy mhrentisiaeth fe gefais y cyfle i ddatblygu’r wybodaeth honno mewn modd ymarferol, ac mae’n golygu fy mod yn gallu dysgu’r sgiliau sydd eu hangen i’m cadw yn ddiogel, ochr yn ochr â’r theori sydd ei hangen i wneud y swydd a datblygu gyrfa lwyddiannus.”
Fel rhan o’i Brentisiaeth Technegydd Offer Lefel 3 gyda Newport Wafer Fab, mae Cameron yn gweithio mewn amgylchedd sydd dan bwysau mawr. Mae peirianwyr yn gyfrifol am gadw’r peiriannau a’r offer sy’n cael eu defnyddio i gynhyrchu lled-ddargludyddion ar fynd.
Dywedodd Cameron:
“Fel gydag unrhyw wneuthurwr mae yna gyfres o offer a pheiriannau ac mae’n rhaid i bob un ohonyn nhw redeg yn llyfn er mwyn inni ddarparu’r cynnyrch i’n cleientiaid ar amser. Fel technegwyr offer rydym yn cynorthwyo’r peirianwyr sydd yn gyfrifol am gadw’r peiriannau ar fynd, cynnal gwiriadau rheolaidd a gwneud unrhyw waith atgyweirio ble mae angen. Rydw i’n mwynhau gweithio gyda pherchnogion yr offer ar y safle, ac mae gan bob un ryw 20 mlynedd o brofiad o weithio gydag un peiriant penodol. Mae dysgu ganddyn nhw yn golygu fy mod yn elwa o’r wybodaeth honno i’m gwneud yn well peiriannydd.
Arbenigo
“Fel rhan o’m prentisiaeth rydw i’n cylchdroi rhwng ardaloedd yr uned saernïo, gan olygu fy mod i’n cael treulio cyfnod da o amser gyda pheiriannydd ar bob cam o’r broses gynhyrchu cyn dewis dwy ardal yr hoffwn i arbenigo ynddynt.
“Mae’r wybodaeth rydw i wedi’i chael drwy fy mhrentisiaeth hyd yn hyn wedi rhoi cyfle i mi weld gwaith peiriannydd trydanol yn ei gyfanrwydd, sy’n golygu fy mod mewn lle da i ddilyn fy mreuddwyd o fod yn beiriannydd. Rwyf am fynd ymlaen i wneud Gradd-brentisiaeth mewn Peirianneg ac mae gwybod bod cyllid ar gael ar gyfer hyn yn gwneud yr holl beth yn fwy cyraeddadwy. Hefyd, mae ennill cyflog wrth ddysgu yn golygu fod gen i arian ar gyfer pethau eraill sydd yn mynd â’m bryd, fel teithio.”
Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth
P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.