Neidio i'r prif gynnwy

Prentis yn cael dyrchafiad yn y gwaith, diolch i’w ddewis doeth i ddilyn prentisiaeth i gynyddu ei sgiliau yn y gweithle.

Bryson Recycling

Daeth dechrau newydd i ran Andrew Bennett, 51, o Fae Cinmel yn y Gogledd, yng nghwmni Bryson Recycling. Mae dyslecsia ar Andrew ac mae nam ar ei olwg. Mae’n ddall yn ei lygad chwith. Ond wnaeth hynny ddim ei stopio rhag astudio ar gyfer cymhwyster Lefel 4 mewn Rheoli Gwastraff. Dywedodd Andrew:

“Pan ddechreuais i gyntaf, roeddwn i’n poeni y byddai fy ngolwg yn rhwystr imi wrth weithio mewn amgylchedd cymhleth, ond dydy o ddim wedi bod yn broblem. O ddydd i ddydd, mae fy rôl yn amrywiol iawn iawn, ac nid oes yr un diwrnod yr un fath ag un arall. Mae dysgu wrth weithio yn siwtio fy mhersonoliaeth i, a dw i’n hoffi elfen ymarferol yr hyfforddiant.”

Cymorth sydd wedi’i deilwra’n benodol

Bydd pob prentis, fel Andrew, yn cael y cymorth un-i-un sydd ei angen arnynt i lwyddo yn ystod eu prentisiaeth. Oherwydd y nam ar ei olwg, cafodd Andrew gymorth i ddarllen drwy ddogfennau gweinyddol, a chafodd armser ychwanegol i gwblhau elfennau ysgrifenedig ei astudiaethau.

Aeth Andrew yn ei flaen:

“I eraill sy’n ystyried y gwahanol lwybrau i mewn i fyd gwaith, mi fyddwn i’n eu cynghori nhw i ystyried prentisiaeth. Mae fy nghyflogwr i wedi bod yn gefnogol o ran fy anableddau i, ac mae’r rôl yn dod â boddhad. Mi fyddwch chi’n dysgu’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch gan ennill cyflog ar yr un pryd ac ennill profiad diddorol, perthnasol.”

Recriwtio yn cefnogi'r gymuned

Ehangodd Bryson Recycling, menter gymdeithasol ailgylchu fwyaf y DU, i’r Gogledd yn 2005 gyda’r nod o wella’r dasg o reoli gwastraff yn gyfrifol a chynnig cyflogaeth hirdymor i staff o bob oed ac o bob cefndir.

Meddai Dan McCabe, Goruchwyliwr Safle yn Bryson Recycling;

Mae’r ffaith y gallwn dalu’r gymwynas i’r gymuned drwy gynnig ail-gyfle i bobl yn goron ar y cyfan i’n tîm. 

Mae Andrew wedi dod yn gaffaeliad go iawn i’r tîm, ac mae wedi bod yn chwa o awyr iach gweld prentis mor frwd yn dringo’r ysgol ac yn datblygu mor gyflym. 

Wrth i ni siarad am ein prentisiaid mae llawer o bobl yn cymryd yn ganiataol ein bod yn sôn am bobl ifanc sydd newydd adael yr ysgol, ond rydym yn pwysleisio ar unwaith y gall prentisiaid fod o bob oed dan haul. Mae profiad bywyd Andrew yn ei helpu i uniaethu â chwsmeriaid a staff, ac mae dod o hyd i yrfa yn hwyrach yn ei fywyd wedi rhoi’r sbardun iddo weithio’n galed ac wedi profi y gall gyflawni unrhyw beth sy’n mynd â’i fryd. ”