Neidio i'r prif gynnwy

Dyw ACE Lifts ddim yn ei chael yn anodd recriwtio Peirianwyr: maen nhw'n hyfforddi rhai eu hunain. Drwy brentisiaethau, daeth ACE Lifts i gysylltiad ag ystod o ymgeiswyr talentog, amrywiol.

Ben Hamblett and Employer

Mae ACE Lifts yn cyflogi Ben Hamblett o Wrecsam fel Prentis Peirianneg Drydanol ac Electronig. Curodd Ben wyth ymgeisydd arall i gael y rôl, er gwaethaf ei ofn y byddai'r ffaith ei fod yn fyddar yn ei rwystro rhag gweithio yn y diwydiant Peirianneg.

Hyrwyddo Prentisiaethau

Dywedodd Andy Gill, Rheolwr Gweithdai ACE Lifts: 

“Fe wnaethon ni gyflogi Ben fel prentis gyda ni, yn gweithio mewn tîm bach yn gosod gwifrau mewn unedau lifftiau.

Roedd Ben yn un o wyth unigolyn a ddaeth i mewn i gael cyfle am brentisiaeth, ac fe wnaeth argraff ar unwaith. Fe gynigion ni'r rôl i Ben, a dydy'r ffaith nad yw'n clywed yn iawn ddim wedi bod yn broblem o gwbl. Pan ddechreuodd gyntaf, rhoddodd ambell gyngor am y ffordd orau o gyfathrebu'n effeithiol, a dydyn ni ddim wedi gorfod trafod y peth ers hynny.”

Ysbrydoliaeth

Mae Ben yn gobeithio dangos i bobl anabl eraill bod prentisiaeth yn gallu bod yn drobwynt i'r rheini sy'n chwilio am gyflogaeth.

Dywedodd Ben: 

“Roeddwn i'n poeni am y dyfodol ac am beidio â chael gwaith. Cyrhaeddodd y pwynt lle roeddwn i'n gwybod bod angen help arna i, felly fe gysylltais i ag Action on Hearing Loss.

Fe ddaethon ni ar draws cwmni o'r enw ACE Lifts a oedd yn hysbysebu swyddi peirianneg. Roeddwn i'n nerfus wrth wneud cais gan fod rhai cwmnïau o dan y camargraff bod pobl fyddar yn risg iechyd a diogelwch yn y gweithle - yn enwedig mewn rolau peirianneg. Ar ôl gwneud cais, fe gynigiwyd dau ddiwrnod treialu imi ac wedyn y brentisiaeth. Fe ges i sioc pan ges i'r alwad, ond roeddwn i ar ben fy nigon fy mod wedi cael gwaith o'r diwedd ar ôl blynyddoedd o chwilio!

Dw i'n dysgu sgiliau newydd bob dydd. Dw i wedi dysgu sut mae cyfarpar a chydrannau lifftiau yn gweithio, a dydy'r ffaith nad ydw i'n clywed yn iawn ddim wedi bod yn broblem o gwbl. Mae fy mhrentisiaeth hefyd yn golygu fy mod i'n sefydlog yn ariannol hefyd.

Dw i gymaint yn fwy positif ynghylch y dyfodol nawr, a dw i'n methu aros i weld beth ddaw yn sgil y flwyddyn brentisiaeth nesaf.”

Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth

P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.