Neidio i'r prif gynnwy

Roedd Gweinidog yr Economi yng Nghanolfan Gysylltiadau Genedlaethol Molson Coors yng Nghaerdydd heddiw i ddathlu'r rhan bwysig iawn y mae prentisiaethau'n eu chwarae ym marchnad lafur Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr ymweliad fydd yn cychwyn Wythnos Prentisiaethau 2019 - wythnos i ddathlu effeithiau positif prentisiaethau ar unigolion a busnesau. Trwy'r rhaglen Brentisiaethau, mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi unigolion a busnesau mewn amrywiaeth o sectorau a'i hymrwymiad yw creu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Llywodraeth hon.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

"Prentisiaethau yw un o'r arfau gorau sydd gennym i helpu'r economi. Maen nhw'n gallu cynnig y ffordd berffaith i gael gwaith, maen nhw'n ffordd i gwmnïau gael hyd i staff a'u meithrin a'u datblygu ac maen nhw'n ffordd o sicrhau bod gan yr economi weithlu sy'n gallu mynd i'r afael â heriau heddiw ac sy'n barod ar gyfer cyfleoedd yfory.

"Mae Llywodraeth Cymru'n benderfynol o weld Cymru'n arwain y ffordd. Ddwy flynedd ar ôl inni wneud yr ymrwymiad i ddarparu 100,000 o brentisiaethau yng Nghymru erbyn 2021, rydyn ni eisoes yn gweld prentisiaethau ym mhob sector yn gwneud cyfraniad pwysig at ein heconomi. Ac mae'r economi a'r gweithlu'n tyfu. Yn y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld mwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru nag erioed, ac mae anweithgarwch economaidd yn is nag erioed. Dyma ffrwyth ein gwaith i ddod â ffyniant ac i gryfhau ein heconomi ac mae prentisiaethau'n rhan mor bwysig yn hyn o beth. Felly, rwy'n falch iawn bod Molson Coors Brewing Company, un o'r busnesau y mae ei wasanaethau i gwsmeriaid wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf, diolch i brentisiaethau, yn cynnig llwnc destun i'n prentisiaethau a'u rôl ganolog yn yr economi."

Mae gan Molson Coors 21 o brentisiaid Gwasanaethu Cwsmeriaid Lefel 3 a 12 prentis Rheoli Lefel 3. Ar ôl gorffen eu prentisiaethau, bydd y cynghorwyr yn cael codiad yn eu cyflog.