Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Mae'r canllawiau hyn yn darparu gwybodaeth i bobl anabl, rhieni a chynghorwyr ynghylch gwneud cais am brentisiaethau yng Nghymru. Mae’r canllaw yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth gefndirol ynghyd â gwybodaeth sy'n benodol i bobl anabl a dylid eu ddarllen ar y cyd â'n canllawiau prentisiaeth.

Yn y canllawiau hyn, defnyddir y term 'anabl' fel term eang i gwmpasu ystod eang o amhariadau, gan gynnwys pobl â'r canlynol:  

  • amhariadau corfforol
  • anawsterau dysgu (fel dyslecsia);
  • anableddau dysgu (megis syndrom down);
  • amhariadau ar y synhwyrau (megis y byddar, dall); a phobl
  • niwrowahanol; (fel awtistiaeth); neu'r rhai sydd angen cefnogaeth gyda
  • iechyd meddwl.

Hawl unigolyn yw penderfynu a yw'n dymuno nodi ei fod yn 'anabl'. Mae pobl sy'n dewis peidio a gwneud hynny, ond sy'n teimlo eu bod yn uniaethu ag unrhyw un neu ragor o'r amhariadau a restrir uchod, yn parhau  i fod â hawl i'r gefnogaeth a amlinellir yn y canllawiau hyn. 
 

Y rhaglen brentisiaethau

Beth yw Prentisiaeth?

Mae prentisiaeth yn cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn swydd ag astudio, sy'n arwain at gymhwyster cydnabyddedig cenedlaethol. Fel prentis, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â staff profiadol, yn datblygu sgiliau sy'n benodol i swydd, yn ennill cyflog ac yn cael tâl gwyliau, ac yn cael amser i astudio (un diwrnod yr wythnos fel arfer).

Mae prentisiaethau ar gael mewn ystod eang o sectorau a diwydiannau, 
gan gynnwys sectorau fel amaethyddiaeth, busnes, adeiladu, arlwyo, lletygarwch a manwerthu.  

Mae'r rhain ar gael ar sawl lefel: Prentisiaeth Sylfaen, Prentisiaeth, Prentisiaeth Uwch a Gradd-brentisiaeth.

Pwy sy'n cael gwneud cais am Brentisiaeth?

Mae Prentisiaethau yng Nghymru yn agored i unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn, ac mae hyn yn cynnwys:

  • pobl ifanc sy'n ystyried trosglwyddo o addysg i gyflogaeth
  • pobl sy'n ddi-waith
  • pobl sydd â swydd ond sy'n edrych i newid gyrfa
  • pobl sy'n cael eu cyflogi ar hyn o bryd sy'n ceisio cynyddu lefel eu sgiliau
  • pobl anabl, pobl âg amhariadau iechyd hirdymor a phobl ag anhawster neu anabledd dysgu.

Pa hyfforddiant fyddaf yn ei dderbyn?

Mae prentisiaethau'n cynnig rhaglen wedi'i strwythuro'n ofalus sy'n rhoi'r holl hyfforddiant a sgiliau perthnasol sydd eu hangen arnoch i wneud swydd benodol.  Fel gweithiwr cyflogedig, byddwch yn gweithio'r rhan fwyaf o'r amser, felly bydd y rhan fwyaf o'ch hyfforddiant yn digwydd yn y gwaith. Mae'r gweddill yn digwydd y tu allan i'r gwaith, mewn coleg lleol neu ddarparwr hyfforddiant neu yn eich gweithle.

Fel arfer, byddwch yn cwblhau'r hyfforddiant hwn y tu allan i'r gwaith ar un diwrnod yn yr wythnos. Gellir ei wneud hefyd dros nifer o ddiwrnodau mewn bloc. Mae hyn yn eich galluogi i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch, tra bod y cyflogwr yn darparu'r profiad ymarferol i ddangos y sgiliau hynny.

Yn ogystal â sgiliau penodol ar gyfer y swydd, bydd Prentisiaethau yn rhoi set o sgiliau craidd i chi, sy'n ofynnol gan y rhan fwyaf o gyflogwyr.  Gelwir y rhain yn sgiliau trosglwyddadwy oherwydd gellir eu cymryd gyda chi o swydd i swydd ac maent yn cynnwys:

  • Cyfathrebu
  • Defnyddio rhifau
  • Cyfrifiaduron a TG
  • Gweithio gydag eraill
  • Gwella'ch dysgu a'ch perfformiad eich hun
  • Datrys problemau

Faint fydda i'n ei ennill?

Fel prentis, byddwch yn cael:

Mae cyfraddau prentisiaeth yn cael eu diweddaru bob blwyddyn.  Gweler yma am yr wybodaeth ddiweddaraf am gyflogau ac amodau: Dod yn brentis

Sut mae dod o hyd i brentisiaethau gwag?

Gallwch ddod o hyd i brentisiaethau gwag drwy amrywiaeth o ffynonellau:

Gwybodaeth i bobl anabl

Yr hawl i driniaeth gyfartal

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ni chaiff cyflogwyr wahaniaethu yn erbyn pobl anabl. Fel person anabl, felly, mae gennych hawl i gael eich trin yn deg a chyfartal os byddwch yn penderfynu gwneud cais am brentisiaeth.

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 hefyd i wneud newidiadau i'r gweithle i'ch helpu i wneud eich swydd. Gelwir y rhain yn 'addasiadau rhesymol' (gweler 'Cael cefnogaeth').

Os ydych yn anabl, gallwch ofyn am addasiadau rhesymol yn y gweithle ac yn eich lle astudio i'ch helpu i gwblhau eich prentisiaeth yn llwyddiannus.

Cael cefnogaeth

Dylai'r coleg neu'r darparwr hyfforddiant gynnig arweiniad i'ch helpu chi. Mae gan bob coleg a'r rhan fwyaf o ddarparwyr hyfforddiant mawr aelodau staff sy'n gyfrifol am gefnogi prentisiaid anabl. Weithiau gelwir y rhain yn Gynghorwyr Cymorth Dysgu neu Gynghorwyr Anabledd a dylech allu cael trafodaeth gyfrinachol gyda nhw.

Yn ogystal â siarad â'ch coleg neu ddarparwr hyfforddiant gallwch hefyd siarad â'ch athro neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY), os ydych yn dal i fod yn yr ysgol. Mae opsiynau eraill yn cynnwys siarad â Chynghorydd Gyrfaoedd, rhywun yn y Ganolfan Byd Gwaith fel yr Hyfforddwr Gwaith, neu'ch cyflogwr. Bydd gan rai cyflogwyr mwy o faint Adran Adnoddau Dynol (AD).

Mae Prentisiaeth a Rennir â Chymorth hefyd ar gael drwy eich coleg neu ddarparwr hyfforddiant. Mae hyn yn darparu cefnogaeth ddwys ychwanegol un i un, drwy hyfforddwr swydd cymwysedig, a/neu adnodd arbenigol cymwys arall i brentisiaid sydd ag anghenion cyflogaeth a dysgu eang, i’w helpu i gwblhau prentisiaeth. Mae prentisiaid a rennir â chymorth yn cael eu cyflogi gan sefydliad sy'n gyfrifol am recriwtio, cyflogaeth a lles prentis sy'n cwblhau ei brentisiaeth, lle na all y cyflogwr gynnig prentisiaeth tymor llawn, ond sy'n gallu cynnig y dysgu ar aith sy'n ofynnol gan y fframwaith prentisiaethau.

Pwy bynnag rydych chi'n penderfynu siarad â nhw, mae gennych hawl i gael trafodaeth gyfrinachol gyda nhw am eich anghenion unigol a'r gefnogaeth neu'r addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch i gwblhau eich Prentisiaeth fel:

  • offer arbenigol, megis cyfrifiadur sy'n gweithio â llais
  • dehonglwyr iaith arwyddion ar gyfer cyfweliadau ac yn y gweithle
  • cymorth tiwtorial ychwanegol
  • darparu taflenni ar bapur lliw gwahanol, neu mewn ffont fwy
  • rhoi amser ychwanegol i chi gwblhau unrhyw asesiadau neu brofion
  • cymorth cyfathrebu mewn cyfweliadau, gan gynnwys:
  • cymorth gyda'r cais a chwestiynau cyfweliad ymlaen llaw
  • cyngor ac arweiniad ar lunio gyrfa
  • gweithiwr cymorth neu hyfforddwr swydd i helpu yn y gweithle
  • costau ychwanegol am dacsi os na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

Weithiau gall gymryd amser i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi yn ei lle. Er enghraifft, gall gymryd ychydig wythnosau i fynd i drefn gyda chyfieithwyr neu bobl sy'n cymryd nodiadau. Efallai y bydd angen amser arnoch i ddysgu sut i ddefnyddio unrhyw offer newydd neu efallai na fydd pobl yn addasu eu harddull hyfforddi yn ddigonol ar unwaith i ddiwallu'ch anghenion. Ceisiwch fod yn amyneddgar ar y dechrau.

Ar yr un pryd, siaradwch â'ch coleg neu ddarparwr hyfforddiant am eich cynnydd a rhowch wybod iddynt am unrhyw anawsterau, yn enwedig os byddwch yn dechrau mynd ar ei hôl hi gyda'ch hyfforddiant neu'ch gwaith. Peidiwch ag aros nes y bydd hyn yn broblem fawr.

Dweud wrth bobl eich bod yn anabl

Eich penderfyniad chi, a chi yn unig, yw p'un a’i ydych yn dweud wrth bobl eich bod chi'n anabl. I wneud cais am addasiadau rhesymol, fodd bynnag, bydd angen i chi drafod hyn gyda'ch cyflogwr a'ch darparwr hyfforddiant neu goleg.

Mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn dweud wrthym fod pobl yn anabl nid oherwydd yr amhariad ond oherwydd y rhwystrau y maent yn eu hwynebu yn eu hamgylchedd gwaith neu gymdeithas, neu drwy agweddau pobl eraill.  

Mae'n bwysig gwybod, felly, y dylai cyflogwyr, colegau a darparwyr hyfforddiant drafod y rhwystrau a allai eich atal rhag gwneud eich swydd neu astudio, yn hytrach na manylion yr amhariad neu’r amhariad iechyd hirdymor.  

Mae hefyd yn bwysig nodi, yn unol â'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data, y dylid cadw'ch gwybodaeth bersonol yn breifat ac yn gyfrinachol.

Er y gall ymddangos yn frawychus, cofiwch ei fod yn gwneud synnwyr i bobl eraill wybod am eich rhwystrau a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i oresgyn y rhain, er mwyn i'ch anghenion gael eu diwallu.  Er enghraifft, os oes angen deunyddiau arnoch mewn print bras, bydd angen i bawb sy'n eich dysgu neu'n eich rheoli fod yn ymwybodol o hyn.

Mae hefyd yn wir y gallai rhai o'ch profiadau fel person anabl eich gwneud yn ymgeisydd cryfach ar gyfer Prentisiaeth. Efallai yr hoffech ddweud wrth gyflogwyr neu ddarparwyr hyfforddiant am eich sgiliau, neu brofiad o oresgyn heriau.

Pryd ddylwn i ddweud wrth bobl?

Yn ddelfrydol, dywedwch wrth bobl cyn gynted â phosibl. Y cynharaf y bydd colegau, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn gwybod beth sydd ei angen arnoch, yr hawsaf yw hi i roi'r cymorth cywir ar waith.

Fel arfer, bydd gan y darparwr hyfforddiant neu'r cyflogwr ffurflen Cyfle Cyfartal lle gallwch ddweud wrthynt eich bod yn anabl.  Dylai'r ffurflen hon fod ar wahân i'ch prif gais a chaiff ei defnyddio i hysbysu'r adran Adnoddau Dynol (AD) o unrhyw addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch mewn cyfweliad swydd.

Pan fyddwch yn gwneud cais am swydd wag drwy'r Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag, gofynnir i chi a ydych yn anabl.  Gallwch ddewis ateb 'Ydw', 'Na' neu 'Mae'n well gen i beidio â dweud'. Bydd eich ateb yn cael ei roi i'r cyflogwr a'r darparwr hyfforddiant.

Bydd cyflogwyr sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn gwarantu cyfweliad i bob ymgeisydd anabl os ydynt yn bodloni meini prawf y brentisiaeth. (Gweler 'Adnoddau Ychwanegol')

Efallai y gofynnir i chi hefyd lenwi holiadur iechyd i wneud yn siŵr eich bod yn gallu cyflawni rolau penodol. Mae'n well rhoi atebion cywir a gonest i'r cwestiynau hyn. Fodd bynnag, ni ddylai unrhyw un gymryd yn ganiataol y byddai bod yn anabl yn eich gwneud yn anaddas i ymarfer neu gymryd rhan.

Cyllid ar gyfer costau cymorth

Yn ogystal â'ch tâl Prentisiaeth (gweler 'Faint fydda i'n ei ennill?'), efallai y bydd cymorth ariannol ychwanegol ar gael i dalu costau unrhyw gymorth astudio neu gymorth ac addasiadau cysylltiedig â gwaith. Efallai y bydd cyllid ychwanegol ar gael i’ch cyflogwr hefyd.  

  • Lwfans Myfyrwyr Anabl sy'n cynnig help ychwanegol ar ben unrhyw gyllid myfyriwr arall, ac fe ellid ei ddefnyddio i dalu am gostau sy'n gysylltiedig ag astudio fel offer arbenigol, dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain, teithio ac argraffu.
  • Mynediad at Waith yw cynllun grant gan Lywodraeth y DU sy'n darparu cymorth i’ch helpu i gael, neu aros mewn gwaith os ydych yn anabl. Bydd y cymorth a gewch yn ddibynnol ar eich anghenion.  Trwy cynllun Mynediad at Waith, gallwch wneud cais am:

    • grant i helpu i dalu am gymorth ymarferol gyda’ch gwaith
    • gefnogaeth i reoli eich iechyd meddwl yn y gwaith
    • arian i dalu am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliadau swydd

    Gwnewch gais ar-lein ar dudalen Mynediad at Waith.  Bydd cynghorydd yn cysylltu â chi a'ch cyflogwr i gael gwybod pa gymorth sydd ei angen.

  • Mae’r rhaglen brentisiaeth yn darparu cyllid pwrpasol i gyflogwyr i recriwtio pobl anabl. Mae’r Cynllun Cymhelliand Cyflogwr yn darparu cymorth ariannol o £2,000 i gyflogwyr i helpu darparu cyfleoedd i brentisiaid anabl.
  • Mae prentisiaid sy’n cwblhau Prentisiaeth Gradd a gyflwynir gan brifysgol yn gymwys i gael yr un cymorth ariannol a ddarperir i fyfyrwyr sy’n gwneud gradd amser llawn. Mae cymorth i ddysgwyr anabl ar gyfer lefelau 1-5 sy’n cael eu cyflogi ac sy’n cwblhau Prentisiaeth drwy ddarparwr hyfforddiant yn gymwys i gael cyllid Cymorth Dysgu Ychwanegol, Taliadau Cymhelliant Cyflogwyr (a delir i gyflogwyr) neu Brentisiaeth a Rennir â Chymorth.
  • Cyn ymgymryd â phrentisiaeth dylai’r rhai sy’n derbyn budd-daliadau ofyn am gyngor gan Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), naill ai drwy gymorth eu hanogwr gwaith neu ar-lein ar: Cysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith i ddeall unrhyw effaith bosibl ar fudd-daliadau.


Gellir dod o hyd i wybodaeth am ffynonellau eraill o gyllid a budd-daliadau yn yr adran Adnoddau Ychwanegol. 

Adnoddau Ychwanegol