Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Their Finest – comedi rhamantus gafodd ei ffilmio yng Nghymru – yn cael ei phremiere y penwythnos hwn, yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Their Finest yn dilyn hynt a helynt criw ffilmio o Brydain sy’n ymlafnio i wneud ffilm wlatgar i godi’r galon yn ystod dyddiau’r Blitz yn Llundain yn yr Ail Ryfel Byd.  Y cyfarwyddwr yw Lone Scherfig o Ddenmarc. 

Ymhlith sêr y cast y mae Gemma Arterton, Sam Claflin, Bill Nighy, Helen McCrory, Jeremy Irons a Richard E. Grant. 

Defnyddiwyd nifer o leoliadau yn y De Orllewin gan gynnwys Theatr y Grand a Neuadd y Ddinas, Abertawe – i ddarlunio’r Weinyddiaeth Wybodaeth a Whitehall - ynghyd â nifer o leoedd yn Sir Benfro gan gynnwys Cwm Trecŵn, Freshwater West, Harbwr Porthgain, Sinema’r Palace yn Hwlffordd a’r Cresselly Arms yn Cresswell Quay. 

Treuliodd y criw pedwer wythnos yn ffilmio yn y De Orllewin a chael help i chwilio am leoliadau gan Sgrin Cymru, rhan o dîm Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cymru. Cafodd werth £30m o nawdd trwy Gyllideb Buddsoddi Cyfryngau Llywodraeth Cymru sy’n cael ei rheoli gan Pinewood Studios, a chafodd y ffilm ei datblygu a’i chyd-ariannu gan BBC Films. 

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi: 

“Yn ogystal â dod â buddiannau economaidd uniongyrchol yn ystod y ffilmio, mae denu cynhyrchiad o fri fel Their Finest yn dod â buddiannau mwy tymor hir hefyd. 

“Mae’n helpu i hyrwyddo Cymru i’r byd ac yn llwyfan i’r doniau sydd gennym yng Nghymru yn y diwydiant ffilm.  Yn ogystal, mae’r golygfeydd, lleoliadau a thirweddau trawiadol a hardd sy’n cael eu dangos yn hwb amhrisiadwy i’r diwydiant twristiaeth.” 

Bydd y carped coch allan ar gyfer Their Finest yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto (8-18 Medi) gyda dangosiad gala ddydd Sul, 11 Medi.  Caiff y ffilm ei phremiere Ewropeaidd yn 60fed Gŵyl Ffilm Llundain y BFI yn noson Gala Maer Llundain yn yr Odeon Leicester Square ddydd Iau, 13 Hydref. 

Addasiad yw’r ffilm gan Gaby Chiappe o’r nofel ddoniol a thorcalonnus, Their Finest Hour and a Half gan Lissa Evans a gyhoeddwyd yn 2009. Cafodd ei disgrifio fel “portread ffraeth, twymgalon ac emosiynol o awdures ffilmiau ifanc (Gemma Arterton) wrth iddi ddelio â threialon byw, marw a charu.”