Llythyr gan y gweinyddiaethau datganoledig at Lywodraeth y DU.
30 Mehefin 2021 oedd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Mae dinasyddion yr UE yn wynebu nifer o anawsterau oherwydd nad oes ganddynt brawf ffisegol o’u statws.
Mae’r llythyr hwn at Weinidog Llywodraeth y DU dros Ffiniau'r Dyfodol a Mewnfudo yn gofyn ar i ddinasyddion yr UE gael yr opsiwn i gael prawf ffisegol o’u statws preswylydd sefydlog neu cyn-sefydlog.
Mae’r dull diogelu hwn yn angenrheidiol er mwyn:
- helpu i atal achosion o wahaniaethu
- galluogi dinasyddion yr UE i brofi beth yw eu statws i gyflogwyr
- ei gwneud yn haws i ddinasyddion sy’n agored i niwed i brofi beth yw eu statws