Heddiw mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi cynlluniau i gyflwyno prawf clyfar i weld a yw pobl wedi cael coronafeirws yng Nghymru – gan eu helpu i fynd yn ôl i’r gwaith.
Bydd y prawf gwaed gwrthgorffynnau newydd, a fydd yn cael ei brofi yn y DU yr wythnos nesaf, yn dangos a yw pobl wedi cael y feirws yn ddiweddar ac a oes ganddynt imiwnedd o bosib.
Dim ond dangos a oes gan rywun y feirws mae’r prawf antigen presennol, a dim ond os oes gan rywun symptomau coronafeirws mae’n cael ei ddefnyddio, neu wrth fyw gyda rhywun sydd â’r symptomau hyn. Mae Cymru wedi bod yn sgrinio staff rheng flaen gyda’r prawf hwn am nifer o wythnosau ac mae’n darparu mwy o brofion a chanlyniadau bob dydd.
Heddiw cyhoeddodd Mr Gething gynllun newydd ar gyfer profi, a fydd yn gweld amrywiaeth ehangach o gyflenwyr yn darparu citiau profi am goronafeirws i Gymru, i sicrhau bod modd cynyddu capasiti’r profi.
Dywedodd:
“Bydd y prawf gwrthgorffynnau newydd yn gam enfawr ymlaen i’n helpu ni i ymateb i’r coronafeirws. Bydd yn helpu ein gweithwyr allweddol ni – yn enwedig staff rheng flaen y GIG a gwasanaethau cymdeithasol – i ddychwelyd i’r gwaith ar unwaith, a darparu gofal sy’n achub bywydau.
“Mae’r prawf newydd hwn yn hanfodol er mwyn rhoi hyder iddyn nhw ac i’w cadw’n ddiogel wrth iddyn nhw weithio i gadw pawb arall yn ddiogel.”
Bydd y prawf gwrthgorffynnau newydd yn helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym ac yn ddiogel. Bydd yn cyflymu’r gwaith o chwilio am frechiad a’r ymdrechion i atal lledaeniad y feirws.
I ddechrau, bydd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd rheng flaen a’r bobl fwyaf agored i niwed, ond bydd yn cael ei ehangu i gynnwys gweithwyr allweddol eraill fel yr heddlu, staff y gwasanaeth tân a gweithwyr gofal cymdeithasol.
Bydd y prawf gwrthgorffynnau yn cael ei ddefnyddio hefyd mewn ardaloedd lle mae clystyrau o’r feirws (fel ysbytai neu garchardai) er mwyn gwella’r ddealltwriaeth o sut mae’n lledaenu.
Mae cynllun profi newydd Covid-19 ar gyfer Cymru’n cynnwys camau i arallgyfeirio’r cyflenwad o gitiau profi antigen wedi i gwmni fethu cyflawni ei gytundeb i gyflenwi’r nifer llawn o brofion ar gyfer Cymru.
O’r wythnos nesaf ymlaen, bydd capasiti ar gyfer 1,100 o brofion y dydd yng Nghymru. Erbyn canol mis Ebrill, bydd hyd at 5,000 o brofion antigen y dydd yn cael eu darparu i bobl a dderbynnir i ysbytai gydag amheuaeth bod ganddynt goronafeirws, staff rheng flaen y GIG a phobl sy’n cael eu categoreiddio fel pobl eithriadol agored i niwed.
A bydd 4,000 o brofion pellach y dydd ar gael er mwyn ehangu profion antigen ledled Cymru fel rhan o gytundeb pedair gwlad ar gyfer y DU yn cynnwys Thermo Fisher Scientific, Amazon, Boots, y Post Brenhinol a Randox, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ddoe.
Mae hyn yn ychwanegol at ehangu’r profion gwrthgorffynnau.
Dywedoddd Mr Gething:
“Mae’n siomedig iawn nad yw cwmni yr oedd gennym ni gytundeb ysgrifenedig ag ef i ddarparu profion yn gallu anrhydeddu’r cytundeb hwnnw. Ond mae’r cynllun hwn yn galluogi i ni barhau i gynyddu ein gallu i brofi mewn ysbytai ac yn y gymuned, gan ddefnyddio cytundeb pedair gwlad.
“Mae hyn, ynghyd â chyflwyno’r prawf gwrthgorffynnau, yn golygu y bydd gennym ni well dealltwriaeth o lawer o’r feirws yng Nghymru.”
Hefyd mae’r cynllun profi’n cynnwys buddsoddi mewn datblygu profion newydd ac mewn genomeg er mwyn deall y feirws a sut i ddod â’r pandemig i ben.