Mae Gwybodaeth ac Adnoddau ar gyfer Ysgolion yn cynnwys data a gwefannau sy'n gysylltiedig â gwybodaeth i ysgolion eu defnyddio i gyflawni eu swyddogaethau gwybodaeth a data.
DEWi
Menter Cyfnewid Data Cymru (DEWi) yw’r wefan ddiogel a ddefnyddir i drosglwyddo data rhwng ysgolion, awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru.
s2s
Ysgol i ysgol (s2s) yw’r wefan ddiogel a ddefnyddir i drosglwyddo data disgybliwon drwy ddefnyddio Ffeiliau Trosglwyddo Cyffredin (CTF) pan fydd disgyblion yn symud ysgol.
Dogfennaeth s2s
Ymwelwch a Y System Drosglwyddo Gyffredin ac S2S: canllawiau i awdurdodau lleol am fwy o wybodaeth ynglyn â s2s a CTF.
Ffurflen gais am gefnogaeth ar gyfer materion yn ymwneud â s2s
Cynhelir s2s gan yr Adran Addysg (DfE) yn Lywodraeth y DU ar ran Lloegr a Cymru. Ymwelwch â Ffurflen gais ar gyfer gwasanaeth casgliadau data i wneud cais am gymorth.
Cofnodion Addysgol a’r System Drosglwyddo Gyffredin
Daeth y Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011 i rym ym mis Medi 2011. Maent yn nodi gofynion o ran cynnal a chadw cofnodion cwricwlwm ac addysgol a defnyddio’r System Drosglwyddo Gyffredin pan fo disgyblion yn newid ysgol. Ymwelwch â Cofnodion addysgol, adroddiadau ysgol â’r System Drosglwyddo Gyffredin: canllawiau ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol am fwy o wybodaeth.
Cymwysterau yng Nghymru (QIW)
Mae QiW yn cynnwys manylion yr holl gymwysterau sydd wedi'u cymeradwyo neu eu dynodi ar gyfer addysgu yng Nghymru i ddysgwyr dan 19 oed, ac eithrio addysg uwch.
Rheoliadau diwygiedig addysg
Mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio sawl set o reoliadau sy'n ymwneud ag adrodd i rieni, y System Drosglwyddo Gyffredin, Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr, prosbectysau ysgolion a gosod targedau i ysgolion. Daeth y rheoliadau newydd a diwygiedig i rym ar 1 Medi 2011. Ymwelwch â Rheoliadau sy’n llywodraethu’r strategaeth rheoli gwybodaeth am fwy o wybodaeth.
Rhifau Dysgu Unigryw
Mae canllawiau ar ddefnyddio a chael gafael yn Rhifau Dysgu Unigryw (ULN) ar gael yn Ysgolion yng Nghymru: sut I greu ULN.
Strategaeth Rheoli Gwybodaeth
Mae canllawiau ar agweddau ar reoli data a darparu ffurflenni statudol o ysgolion i Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru ar gael yn Canllawiau i ysgolion roi’r strategaeth rheoli gwybodaeth ar waith.
Fy Ysgol Leol
Gwefan i'w gwneud yn haws i rieni ac i bawb arall sydd â diddordeb gael gweld data am ysgolion yn ei ardal lleol a Cymru gyfan. Ymwelwch a Fy Ysgol Leol am fwy o wybodaeth.
Estyn
Estyn yw swyddfa Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
LLWR-inform
LLWR-inform yw’r gwefan lledaenu data a gesglir gan System Casglu Data cofnod Dysgu Gydol Oes (LLWR) a CYBLD Ôl-16.
Gyrfa Cymru
Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwybodaeth a chyngor gyrfaoedd am ddim i bobl ifanc, oedolion, rhieni, cyflogwyr a phobl broffesiynol yng Nghymru.
Rhestr gyfredol o ysgolion
Enwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost o ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd, arbennig, ysgolion annibynnol ac unedau cyfeirio disgyblion. Ymwelwch â Rhestr gyfredol o ysgolion yng Nghymru am fwy o wybodaeth.